Nodiadau golygyddol o rifyn Gorffennaf-Awst 2023. Oes gennych chi awydd helpu Llafar Bro?
Braf ar un llaw ydi cael adrodd bod llwyth o ddeunydd wedi dod i mewn tro yma! Ar y llaw arall, mae hynny’n golygu nad oes lle i bob dim yn anffodus.
Bu’n rhaid gohirio ambell syniad a dal rhai erthyglau yn ôl tan rhifyn Medi, a rhaid oedd dewis yn ofalus pa rai o’r lluniau niferus fedrwn eu cadw. Gobeithio bod digon o amrywiaeth yn y rhifyn i osgoi siom gormodol.
Un stori y dylia’n bod ni’n adrodd yn fwy manwl -union 30 mlynedd* ar ôl y cyhoeddiad fod Atomfa Trawsfynydd yn cau- ydi bod cwmni Magnox o’r diwedd wedi cychwyn ar y broses i ostwng uchder adeiladau’r ddau adweithydd; yr adeiladau concrid mawr sydd wedi bod mor amlwg ar ein tirlun ers y chwedegau. Yn ôl cofnodion cyfarfod o’r grŵp rhanddeiliaid, dylid fod gwahoddiad i dendro wedi mynd allan erbyn hyn i gwmnïau dymchwel arbenigol, a’r nod ydi cychwyn y gwaith yn 2024, a’i gwblhau erbyn diwedd 2027. Roedd cwmni Egino yn dal i weithio ar gynllun busnes ar gyfer datblygu’r safle i gynnwys adweithyddion bach a ‘chanolfan ragoriaeth egni carbon isel’. Manylwyd hefyd ar y grantiau cymunedol a rannwyd (dros filiwn o bunnau mewn 10 mlynedd) gan gynnwys Seren a thîm rygbi dan 10 Bro Ffestiniog eleni.
O aros efo’r diwydiant cynhyrchu trydan, mae Engie, Pwerdy Ffestiniog, yn parhau i ddrysu pobol leol, trwy ddatgan yn gyntaf na fyddai gan neb hawl i gerdded dros argae Llyn Tanygrisiau, a gwneud tro pedol wedyn a chaniatâu i’r mynediad cyhoeddus barhau. Mae’r gwaith o baentio argae Stwlan yn dal i rygnu ymlaen yn boenus o araf a rhai’n holi os bydd diwedd i’r gwaith fyth? Gwahoddwyd Engie dair gwaith eleni i gefnogi ein papur bro a gwella eu cyswllt efo’r gymuned yr un pryd trwy dalu am hysbyseb neu noddi rhifyn. Efallai cawn wybod yr atebion erbyn rhifyn Medi.
Dewis anwybyddu’r newyddion am y datblygiad ‘glampio’ dan ddaear yn Chwarel Cwmorthin ydw i. Dyma chwarel lle collwyd llawer iawn o fywydau (yn wir galwyd hi’n ‘ladd-dy’ ar un adeg) ac mae’r syniad o drin y lle fel maes chwarae i bobol ddiarth yn un na fedraf ddod i’w dderbyn yn hawdd iawn. Ydw i’n afresymol? Gyrrwch air!
Felly hefyd y ‘carafanau bugail’ sydd wedi ymddangos yng nghyffiniau Llynnau Barlwyd eleni; yn gwbl amlwg ar y gorwel wrth gerdded i fyny at y llyn mawr. Debyg fod y rhain hefyd ar gyfer ymwelwyr sy’n fodlon talu trwy eu trwynau i gysgu mewn cwt sinc ar olwynion, ond sut ar y ddaear gafodd y fath bethau ganiatâd cynllunio mewn lle felly dwad?
Ar y llaw arall mae’n dda gweld mae tai rhent cymdeithasol sy’n cael eu hadeiladu (gan gwmni lleol) ar safle’r hen ganolfan iechyd yn y Blaenau, yng ngofal Adra a Chyngor Gwynedd. Yn ôl eu harwydd bydd yno dau dŷ dwy lofft; dau dŷ tair llofft; ac un ‘uned arbennigol’. Mae digon o angen tai rhent yn sgil yr argyfwng prisiau tai.
Tydw i ddim yn twyllo fy hun bod llawer o ‘newyddiaduraeth’ yn digwydd yn y papurau bro -mae’n amhosib i ni gystadlu efo papurau dyddiol neu wythnosol am newyddion- ond mae’n chwithig a rhwystredig na fedrwn adrodd ar bethau pwysig lleol yn fwy manwl.
Be amdani... oes gennych chi awydd cyfrannu awr neu ddwy i greu cynnwys perthnasol i Llafar Bro?
Mae yna ddigon o amser cyn dyddiad cau rhifyn Medi! Ewch amdani, mae ein papur bro yn dibynnu’n llwyr ar griw bach o wirfoddolwyr i’w gadw’n fyw ac yn ddifyr o fis i fis, byddai’n braf cael croesawu mwy ohonoch i’r gorlan. Diolch bawb, mwynhewch yr haf, a daliwch i gredu!
PW
- - - - - - - - - - - -
Lluniau gan Paul W
* Erthygl o ddegawd yn ôl: 'Ugain mlynedd ers cau yr atomfa'
Cysylltwch os ydych chi awydd gyrru rhywbeth i mewn ond angen mwy o wybodaeth
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon