Rhan o gyfres Iwan Morgan
Ysgrifennydd Llafar Bro ar y pryd, Vivian Parry Williams ddaeth ar fy ngofyn ym mis Mai 2014, i holi fyddai gen i ddiddordeb mewn cyfrannu colofn farddol fisol i’r papur. Er mod i’n golygu dau fis y flwyddyn, anodd oedd gwrthod.
Euthum ati i roi cynnig arni am ryw hanner blwyddyn, ac yn Ionawr 2015, penderfynu cynnwys y sylwadau canlynol:
“Amrywiol fydd y cynnwys o fis i fis, a hynny’n dibynnu ar yr hyn a dderbyniaf neu y tynnir fy sylw ato. Fel arfer, byddaf yn rhannu â chi bytiau o’r ‘wybodaeth wasgaredig a di-fudd’ yr ymddiddorais ynddi dros y blynyddoedd. Byddaf o dro i dro hefyd yn cynnwys ambell dasg. Ni chynigir beirniadaeth fanwl ar unrhyw ymgais, nac ychwaith wobrau ariannol hael, ond cydnabyddir pawb yng ngholofn y mis fydd yn dilyn.”Ar y dechrau, cefais gefnogaeth ambell brydydd lleol, ond prinhau wnaeth y gefnogaeth honno dros y blynyddoedd. O bryd i’w gilydd, tynnodd ambell un fy sylw at feirdd o’r fro a’u cerddi, a chefais foddhad o fynd i chwilota i’w hanes a chynnwys eu cerddi’n y golofn.
Cefais gefnogaeth arbennig iawn gan ychydig ffyddloniaid a ymatebodd yn fisol i dasgau a osodais, megis cwblhau limrig neu ychwanegu cwpled i gloi pennill. Gwerthfawrogaf hefyd yr englynion a’r cerddi a dderbyniais gan amrywiol feirdd.
Derbyniais lythyrau a negeseuon oddi wrth sawl un yn nodi eu bod yn cael pleser a mwynhad o ddarllen cynnwys yr erthyglau. Mae’n debyg felly fod eraill, heblaw fi, yn ymddiddori’n yr agweddau yma o’n diwylliant.
Rydw i wedi cadw pob ysgrif a luniais ar fy nghyfrifiadur. Mae’r rhifyn arbennig hwn ... Mehefin 2023 ... yn garreg filltir yn hanes ‘Rhod y Rhigymwr.’
Dyma’r ganfed golofn i mi ei dwyn at ei gilydd.
Yn ogystal â chadw’r colofnau, es ati hefyd i gasglu detholiad o’r ysgrifau a gyflwynais i Lafar Bro, a galw’r gyfrol honno yn ‘Hwnt ac Yma.’ Ym mol y cyfrifiadur mae ei chartref hithau.
Mae’n mynd yn anoddach dod o hyd i rywbeth diddorol i ysgrifennu amdano’n fisol. Ond i ddathlu’r cant, rydw i wedi penderfynu dewis rhagor o englynion a wnaeth argraff arnaf dros y blynyddoedd, gan osgoi rhai y cyfeiriais atyn nhw eisoes.Pan ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â thre’r Bala ym 1967, gosodwyd ‘Draenen’ yn destun i’r englyn, a gwahoddwyd y Parchedig J. Eirian Davies, Yr Wyddgrug i fod yn feirniad.
Yn ôl y dystiolaeth yn y Cyfansoddiadau a’r Beirniadaethau, dyfynnwyd sawl englyn gwirioneddol dda. Ond penderfynu atal y wobr wnaeth y beirniad, gan lwyddo o’r herwydd i dynnu blewyn o drwyn sawl englynwr profiadol.
Dau a ddaeth yn agos ati oedd rhai o eiddo John Lloyd Jones, Llwyndafydd, Ceredigion [1905-90] a’r Parchedig Roger Jones [1903-82], brodor o Ben Llŷn, oedd ar y pryd yn weinidog gydag enwad y Bedyddwyr yn Nhal-y-bont, Aberystwyth. O weld y drain yn eu gogoniant eleni, daeth y rhain i gof.
Dyma englyn John Lloyd Jones:
Lleian addfwyn y llwyni – a hafwisgDyfynnais englyn Roger Jones ym Mehefin 2021. Campwaith o englyn arall ganddo, a enillodd wobr yn Eisteddfod Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid ar y Sulgwyn 1966 ydy hwnnw i’r ‘Nyth’:
Mehefin amdani;
Ond yn heth y dinoethi
Ar y gwrych oer, gwrach yw hi.
Ni fu saer na’i fesuriad – yn rhoi graenMae’n debyg mai’r englyn a ddysgais gynta’ erioed oedd un W. D. Williams [1900-85] - ‘Gras o Flaen Bwyd.’ Fe fydden ni, blant Ysgol Gynradd Corris y 50au a’r 60au cynnar yn cyd-adrodd hwn yn feunyddiol yn y ffreutur:
Ar ei grefft a’i drwsiad,
Dim ond adar mewn cariad
Yn gwneud tŷ heb ganiatâd.
O! Dad, yn deulu dedwydd – y deuwnYmddengys mai englyn buddugol yng nghyfarfod bach y Sarnau, Penllyn, tua’r flwyddyn 1942 oedd hwn.
 diolch o newydd,
Cans o’th law y daw bob dydd
Ein lluniaeth a’n llawenydd.
Dechreuais ar fy ngyrfa fel athro yn Ysgol Dyffryn Ardudwy ym 1972. Un o’m cyd-athrawesau yno oedd y ddiweddar Anita Griffith - gwraig a fu’n yr ysgol yn ddisgybl, yna’n athrawes gydwybodol am gyfnod hir. Roedd hi’n chwaer i’r Parchedig Ronald Griffith, gweinidog gydag enwad y Wesleyaid ac englynwr tan gamp. Gan ei bod yn ddaucanmlwyddiant geni’r emynyddes Ann Griffiths ym 1976, y dasg a osodwyd i’r timau yn Ymryson y Babell Lên ym Mhrifwyl Aberteifi oedd ‘Ruth.’ Hi oedd morwyn ‘y danbaid, fendigaid Ann’ - a’r un a ddiogelodd ei hemynau i’r genedl. Cofiaf fod yn y Babell ar y diwrnod y cyflwynodd Ronald Griffith ei englyn iddi:
Enw Ruth fo mewn aur weithian – yn hanesCyfeiriwyd at Brifwyl Aberteifi fel ‘Eisteddfod y Llwch.’ Mae’n siŵr fod nifer ohonoch chi’r darllenwyr yn cofio ha’ poeth ’76. Ddegawd yn ddiweddarach, yn Abergwaun, cafwyd ‘Eisteddfod y Mwd.’ Cofiaf fod yn y Babell Lên pan gyflwynodd y cynganeddwr sydyn a slic o Fôn, y diweddar annwyl ‘Machraeth’ ei englyn anfarwol i’r ‘Hwch’:
Ffyddloniaid y Winllan
Am roi y ddigymar Ann
Ar gof i Gymru gyfan.
O dan draed mae’r mwd yn drwch, – yn sicli
Fel siocled neu bibwch.
I hwn ni cherddai’r un hwch
Ella, ond mewn tywyllwch.
- - - - - - - - - - -
Llongyfarchiadau mawr Iwan, a diolch am y golofn.
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2023
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon