27.9.25

Tirwedd yr Iaith

Mis Medi 2001 a diwrnod a ddangosodd ei liwiau hydrefol mewn ffordd gyfeillgar. Ro’n i’n hen arfer efo gemau swydd Amwythig am fod gan fy rhieni garafán ar gyrion yr Ystog bryd hynny. Roedd yn bleser tawel i dreulio amser ar lonydd cul wedi’u rhannu gan lain o wair a redodd i lawr eu canol. Llwydlo, Clun, Long Mynd, Church Stretton, Castell yr Esgob. Lleoedd a oedd yn ddihangfa-ddydd-Sadwrn i ddyn o swydd Derby ar gefn ei feic modur. 

Ym mis Medi 2001 penderfynais deithio’n bellach y tro hwn i’r Trallwng. Wrth gael paned yn y dref hon, nes i bori trwy’r map a ches i gymhelliad i deithio ar hyd yr A458 i le o’r enw Mallwyd. Yno, baswn i’n troi yn ôl; basai hynny’n ddigon am un diwrnod. Mewn gwirionedd, nes i gario ymlaen i Ddolgellau trwy Fwlch Oerddrws, i Drawsfynydd (beth ydy’r mynyddoedd hyn ar y chwith?! Y Rhinogydd, nes i ddarganfod wedyn) ac yn y diwedd: Blaenau Ffestiniog. 

Ro’n i’n rhyfeddu’r holl ffordd o’r Trallwng. Mae’r dirwedd hon wedi cael gafael arna i ac ro’n i’n methu amsugno a phrosesu’r hyn o’n i’n ei weld. Yn bendant, byddai rhaid i mi ddod eto. Fel y digwyddodd, baswn i’n dod yma droeon. 

Blaenau Ffestiniog. Roedd y tomeni llechi’n warchodwyr dros y rhesi o dai llwyd oedd yn swatio yn eu cysgodion. Wnaeth y Moelwynion ymestyn o gwmpas y dref fatha rhiant amddifynnol. Llyn Stwlan. Y chwareli. Am beth i’w weld. Am deimlad i’w brofi pan oeddet ti’n sylweddoli y basai rhywbeth yn cnoi yn dy fol a’th wthio i rywle anghyfarwydd a hudolus dro ar ôl tro am y degawd nesa. 

Yr iaith. Iaith yr arwyddion ffordd. Iaith y siopau. Iaith y dirwedd. Llais y Moelwynion. Dyna sut dw i’n meddwl am yr iaith heddiw. Iaith sy wedi codi’r mynyddoedd ynghyd â’r gerrig. Iaith sy’n llais Afon Goedol a rhu Afon Cynfal. Yn sicr, roedd rhywbeth pwerus wedi cael ei danio yndda i. Rhwng 2005-2010 ro’n i’n dringo pob mynydd Cymru. Cam arall tuag ati. 

Cyn y Nadolig, 2010, ces i gyfle i fynychu cwrs llwybrau cyhoeddus am wythnos ym Mhlas Tan y Bwlch pan ro’n i’n gweithio fel arolygydd llwybrau cyhoeddus i Gyngor Swydd Derby. Cam olaf tuag at y peth anochel ‘na. Dw i’n methu mynegi’n iawn y dröedigaeth a brofais yno. Roedd yr awygylch mor hudolus. Teimlais fatha plentyn. Emosiynau pur. Roedd yr iaith Gymraeg o nghwmpas trwy’r wythnos. Daeth 10 mlynedd o aros a phetruso fel ffynnon. Yn ystod taith o gwmpas Llyn Mair, penderfynais y baswn i’n dysgu’r iaith a oedd wedi bod yn fy meddyliau bob dydd ers i mi ymweld â Blaenau Ffestiniog, er gwaetha’r ffaith nad oedd gen i brofiad o ddysgu ieithoedd o gwbl. 

Yn y gwanwyn 2011, es i ati i ddysgu.

Mae hi wedi bod yn daith a hanner a rhywbeth sy wedi newid fy mywyd am byth. Mae drysau wedi cael eu hagor at lenyddiaeth, radio, teledu, pobl arbennig, ffrindiau, gwyliau, dysgu, gwybodaeth, hanes, chwerthin a chrio. Pan nes i siarad Cymraeg yng Nghymru am y tro cyntaf, pedwar mis ar ôl i mi ddechrau dysgu, lle gwell na Siop Lyfrau’r Hen bost ym Mlaenau Ffestiniog?! Dw i wedi profi pethau nad o’n i wedi’u hystyried. Mae’r iaith wedi fy ysbrydoli i sgwennu storïau byrion a chystadlu mewn eisteddfodau. Mae’n amhosib dweud wrthoch yr hyn mae’r Gymraeg wedi’i wneud. 

Hoffwn ddweud un peth: diolch yn fawr, Flaenau Ffestiniog. Wn i ddim yn union yr hyn i ti ei wneud i mi. Wedi fy swyno. Wedi fy rhoi ar lwybrau gwahanol. Wedi siarad â fi o bell. Pwy a ŵyr, ond mae gen ti ran fawr o’m calon. 
Cofion cynnes. Martin Coleman, Chesterfield, swydd Derby.

Diolch o galon i Martin am yrru’r erthygl hyfryd uchod i mewn; llythyr cariad teimladwy iawn i Stiniog. Diolch i ti am dy angerdd at ein bro! Diolch hefyd i Iwan Morgan am ei annog i’w gyrru i mewn tra yn lansiad llyfr Simon Chandler. 

Mae llun Martin yn werth ei weld hefyd. Meddai: “Sefais tu allan i fwthyn lle o’n i’n aros ym Mhant Llwyd, Llan, i dynnu’r llun hwn o’r niwl yn codi o’r Moelwynion”.
- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2025

  

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon