27.9.25

Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog

Ym Mehefin, gwahoddwyd y Gymdeithas Hanes i gyfarfod yng Ngwesty Seren yn Llan. Mae’r gwesty yn un o ddatblygiadau gwych Cwmni Seren yn y fro; cwmni a sefydlwyd yn 1996 ac yn dathlu 30 mlynedd y flwyddyn nesaf. Seren yw un o fentrau cymdeithasol mwyaf blaenllaw Cymru a phrif nod y cwmni yw cynnig cymorth proffesiynol i bobl ag anableddau dysgu yn ne Gwynedd.

Roedd hwn yn gyfle gwych i gael ychydig o hanes y bobl a fu’n byw ar y safle hwn ers rhai canrifoedd. Diolch i staff Seren am y croeso a hefyd am y cawl a’r bara ardderchog a baratowyd ar gyfer pawb. Y siaradwr ar y noson oedd Steffan ab Owain sydd wedi ymchwilio i hanes y bobl fu’n byw ar y safle hwn ar hyd y canrifoedd … pwysleisiodd mai nid siarad am yr adeilad oedd ei fwriad -sy’n dal i gael ei adnabod yn lleol fel Bryn Llywelyn- ond y bobl fu’n byw yno gan ddechrau efo Robert Wyn oedd yn byw yno yn 1623 ac yn talu rhent o swllt a dwy geiniog i’r goron yn flynyddol.

Bu Steffan yn pori ymysg papurau Casgliad Tynygongl sydd yn Archif Prifysgol Bangor ac wrth gwrs roedd cysylltiad agos gyda’r teulu Newborough, Plas Glynllifon, oedd yn berchen tir sylweddol yn yr ardal …a dyna le daw'r enwau Heol Glynllifon, Heol Newborough (ond Stryd Wesla ar lafar gan mai ar y gornel o’r stryd honno a’r Stryd Fawr y ceid Capel Ebeneser cyn ei ddymchwel!), a Ffordd y Barwn. 

Mae bedd y pedwerydd barwn Newborough ar ddarn o dir bron gyferbyn â Gwesty Seren. (Bu farw yn 43 oed ym mis Gorffennaf, 1916 yn dilyn gwaeledd a gafodd o ganlyniad i fod yn ffosydd y Western Front yn ystod y Rhyfel Mawr. Mae’r bedd yn edrych yn ddiofal amdani a blêr ond yr olygfa oddi yno i lawr dros Ddyffryn Maentwrog yr un mor ysblennydd. 

Bu’r tŷ yn gartref, yn gartref i offeiriaid, yn ysgol, yn gartref plant ac yn gartref i’r henoed. Ac ers 2015 yn westy.

Cafwyd sgwrs ddifyr ac unwaith eto ceid adborth o’r gynulleidfa, wrth i Steffan ddangos lluniau, gan ychwanegu sylwadau a ffeithiau. Cyn diweddu cafwyd ychydig o hanes Seren a Gwesty Seren gan Angela a sut y prynwyd Bryn Llywelyn a’i droi yn westy arbennig sy’n un o nodweddion Seren. Noson arbennig arall.
TVJ
- - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2025




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon