Mae Gerddi Maes y Plas, gardd farchnad gymunedol wedi’u hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol, wedi derbyn yr anrhydedd o cael eu gwahodd i gyflenwi blodau i Ŵyl Glastonbury ar gyfer ei Gardd Heddwch enwog.
Darparodd y fenter, sy’n cael ei chefnogi gan wirfoddolwyr lleol, ddewis bywiog a lliwgar o flodau a dyfwyd yma yn lleol, gan ddod â thipyn o ogledd Cymru i Wlad yr Haf. Yn gyfan gwbl, darparwyd dros 100 o blanhigion a dyfwyd gyda gofal, a’u dewis yn arbennig ar gyfer y digwyddiad, gan ddangos y ddawn arddwriaethol a’r ysbryd cymunedol sydd wrth galon Gerddi Maes y Plas.
Rhannodd Wil Gritten, cydlynydd y prosiect, ei falchder yng ngwaith caled y tîm:"Mae gweld blodau a dyfwyd yn ein cornel fach ni o Gymru yn dod â harddwch a thawelwch i Ardd Heddwch Glastonbury yn hynod o emosiynol. Mae’n dyst i’r hyn y gall tyfu cymunedol ei gyflawni."Mae’r gwahoddiad gan Ŵyl Glastonbury nid yn unig yn dathlu ymrwymiad y fenter i gynaliadwyedd ac arferion organig, ond hefyd yn tynnu sylw at sut y gall prosiectau â gwreiddiau cymunedol ffynnu a chael eu cydnabod ymhell y tu hwnt i’w hardal leol.
Mae croeso i drigolion ddod i ymweld â Gerddi Maes y Plas i weld ble dechreuodd y daith — a falle ymuno i dyfu gyda ni’r tymor nesaf.
Cynllun Llogi Beiciau Trydan Newydd
Cafodd cynllun llogi beiciau trydan newydd ei lansio ym Mlaenau Ffestiniog ar 2 Gorffennaf, gan gynnig ffordd fwy cynaliadwy a gwyrddach i drigolion ac ymwelwyr deithio o amgylch yr ardal. Bydd y cynllun, sy’n cael ei reoli gan Y Dref Werdd, yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gronfa Camau Cynaliadwy’r Loteri Genedlaethol a phrosiect Economi Gylchol Menter Môn.
Bydd y fenter yn darparu fflyd o feiciau trydan i’w llogi, gan annog teithio carbon isel a hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy ledled y rhanbarth. Yn ogystal â chefnogi trafnidiaeth lanach, bydd y prosiect hefyd yn canolbwyntio ar atgyweirio a chynnal beiciau’n lleol, gan greu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ac ymgysylltu â’r gymuned.
Dywedodd Emma Ody, cydlynydd y prosiect:
“Mae’n gyffrous iawn i lansio’r cynllun beiciau trydan yma. Mae hyn yn fwy na lleihau allyriadau - er bod hynny’n bwysig iawn - mae hefyd yn ymwneud â gwneud beicio’n fwy hygyrch, hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw, a rhoi cyfle i bobl archwilio’n hardal leol mewn ffordd sy’n cefnogi twristiaeth gynaliadwy. Drwy ganolbwyntio ar atgyweirio ac ailddefnyddio, rydyn ni hefyd yn helpu i leihau gwastraff ac adeiladu economi leol fwy cylchol.”Nod y cynllun yw bod o fudd i’r amgylchedd a’r gymuned leol, gan gynnig trafnidiaeth fforddiadwy ac annog ymwelwyr i brofi’r ardal mewn ffordd gyfrifol ac ecogyfeillgar.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag: emma@drefwerdd.cymru
- - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2025
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon