12.5.15

Trem yn ôl - Y Gŵr Diwyd

Erthygl gan Merêd, o fis Tachwedd 1975, (ail rifyn Llafar Bro). Ail-gyhoeddwyd yr erthygl yn rhifyn Ebrill 2015, fel rhan o'r gyfres Trem yn ôl, o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999'.


Y Gŵr Diwyd

Un bore, tua chanol degawd cynta’r ganrif, roedd llanc ifanc o Gonglywal ar ei ffordd i Goleg y Brifysgol ym Mangor.  Yr oedd ei fag yn llwythog o ddillad a llyfrau.  Cafodd help i’w gario oddi wrth y Ring Newydd i orsaf yr L.M.S. gan ŵr a adwaenid yn gyffredinol fel Dafydd ‘Rallt ac, ar ei ffordd, canai hwnnw bwt o gân.  Dyma’r pennill cyntaf;
‘Yr eos a’r glân ‘hedydd,
Ac adar mân y mynydd,
A ei di drosta’i at liw’r haf
Sy’n glaf o glefyd newydd?’
Cododd y llanc ei glustiau ar unwaith, ac yn y fan a’r lle dysgodd yr alaw.  Wedi cyrraedd yr orsaf cafodd ganiatâd gan y giard i fynd â Dafydd i’r fan ac yno, yng nghanol y trugareddau i gyd, aeth ati i sgrifennu’r penillion yn gyflawn, hefo Dafydd yn canu ei hochor hi.  Ar y daith i lawr i’r Gyffordd bu Tom y Giard ac yntau’n hoelio’r gân ar eu cof a’r noson honno, mewn cyngerdd ym Mangor, canodd y llanc y gân a glywsai’r bore hwnnw yn ei fro fynyddig.

Un o deulu dawnus Morrisiaid Conglywal oedd o – John Morris, a daeth wedi hynny yn Brifathro’r Ysgol Ganol yn y Blaenau ac yna yn Arolygwr Ysgolion.

Ond beth yn hollol oedd arwyddocâd ei hoffter o alawon gwerin?  Hyn – roedd o’n aelod o Gymdeithas y Canorion yng Ngholeg Bangor ac yn drwm o dan ddylanwad Dr J. Lloyd Williams, un o feibion disgleiriaf cylch Llanrwst, y gŵr, uwchlaw pawb arall, a fu’n fwyaf cyfrifol am osod Cymdeithas Alawon Cymru ar seiliau cadarn.

Ar y pryd, roedd Dr Lloyd Williams yn ddarlithydd mewn Llysieueg yn y Coleg ar y Bryn ac yn gweithredu hefyd fel Cyfarwyddwr Cerdd y lle.  Penderfynodd drefnu alaw werin a nododd pan oedd yn ysgolfeistr yn Y Garn – 'Tra bo dau'.  Apeliodd honno at y myfyrwyr ar unwaith a daeth yn ffefryn mawr yn eu plith.  Cenid hon, yn eiriau ac alaw, tu mewn a thu allan i furiau’r coleg a’r un ymateb a gaed i drefniadau o alawon gwerin eraill.

Arweiniodd hyn y Dr. Lloyd Williams i ffurfio cymdeithas yn arbennig ar gyfer canu alawon gwerin, gan ei galw Y Canorion. A chyn bo hir iawn roedd aelodau’r gymdeithas honno yn casglu alawon gwerin yn eu hardaloedd eu hunain ac yna’n eu canu i’w cyd-aelodau.

Yr aelod a gasglodd fwyaf, o fewn amser cymharol fyr, oedd John Morris, ac yng nghylchoedd Ffestiniog, Trawsfynydd, Talsarnau a Phenrhyndeudraeth y bu’n hela.

Yn y rhifyn cyntaf o Gylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, a gyhoeddwyd ym Mehefin 1909, ymddangosodd y frawddeg hon yn Rhagymadrodd y golygydd Dr. Lloyd Williams:
‘The students of the Canorion Society have collected over a hundred melodies – one of the members, Mr John Morris, having nearly forty to his credit’.

Dr. Meredydd Evans. Tachwedd 1975.
----------------------------------



Ôl-nodyn, Mai 2015:
Roedd Merêd yn 'ŵr diwyd' ei hun fel y gwyddom, ac wedi recordio 'Adar Mân y Mynydd' ar gyfer record hir cyntaf cwmni Sain 'Canu'r Werin' ym 1972, ac mae hi ar gael bellach ar gasgliad 'Merêd. Caneuon Gwerin'. Sain 2005.

Yn sicr yn un o alawon hyfrytaf  ein cenedl. Dychmygwch y gallai fod wedi'i cholli am byth oni bai am y cyfarfyddiad lwcus uchod.

Mae Sian James, Plethyn, Gwennan Gibbard, a llawer mwy wedi rhyddhau'r gân hefyd. Os nad oes gennych gopi adref, gallwch wrando am ddim ar wefan Soundcloud  yn fan hyn ar recordiad a wnaed gan Glain Rhys fel teyrnged i Merêd.
PW

-------------

Erthygl Llên Gwerin


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon