Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Mai 2015:
Dros y canrifoedd, canodd nifer o feirdd i fis Mai.
Un o feirdd enwocaf Cymru, a ystyrir yn feistr ar y cywydd a’r canu serch oedd Dafydd ap Gwilym, a ganai yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr, yn ôl yn y 14eg ganrif, a chydnabyddir ef fel un o feirdd pwysicaf Ewrop yn yr oes honno. Meistrolodd y mesur caeth newydd, sef, y ‘cywydd.’
Credir iddo gael ei eni rhwng 1320 a 1330 ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, ger Aberystwyth ac iddo farw tua 1380, a’i gladdu, yn nhyb haneswyr, o dan yr ywen yn Abaty Ystrad Fflur yng Ngheredigion.
Prif destunau cerddi Dafydd oedd natur a serch. Roedd y rhain yn bynciau dieithr i farddoniaeth Cymru cyn ei gyfnod ef.
Mae ganddo sawl cywydd sy’n cyfeirio at fis Mai. Mae un o’r cywyddau hyn, sy’n agor gyda’r llinellau:
‘Duw gwyddiad mai da gweddai
Dechreuad mwyn dyfiad Mai’
i gyd ar yr un odl.
Mae ganddo gywydd arall i Fis Mai a Mis Tachwedd. Mae’n agor drwy gyfarch Mai:
‘Hawddamor, glwysgor glasgoed,
Fis Mai haf, canys mau hoed ...’
Ceir cyferbyniad yn y cywydd rhwng Mai a Thachwedd y ‘dig du.’ Mae’n un o gerddi enwoca’r bardd i fyd natur. Ynddo, mae’n ymhyfrydu yng ngogoniant yr haf, sy’n llawn bywyd ac egni, ac wrth wneud hynny, mae’n cofio caru â’i ‘Forfudd.’
Cyferbynnir wedyn y tymor hyfryd hwn â mis Tachwedd - y mis sy’n rhwystro cariadon rhag caru, a mis sy’n llawn o gysgod marwolaeth.
Mae Dafydd ap Gwilym yn llwyddo i greu argraff ddisgrifiadol, synhwyrus o’r ddau fis, sydd hefyd yn ddelweddau o brofiad dyn.
Mis llawn lliw ac o ganu adar ydy Mai i’r bardd. Mae’r lliwiau gwyrdd a’r glesni’n cael lle amlwg. Ond uwchlaw’r cyfan, mae’r mis yn deffro nwyd a serch ynddo, a ‘Morfudd’ yn amlwg iawn yn ei feddwl. Ym Mai, tymor y synhwyrau, mae bywyd ar ei orau a chysylltir y deffro hwn ym myd natur â chariad Dafydd a Morfudd.
Tachwedd ydy’r gwrthwyneb i Fai. Ceir cyferbyniad llwyr:
‘Annhebig i’r mis dig du
A gerydd i bawb garu ...’
Mae’r gair ‘annhebig’(sic) yn pwysleisio’r cyferbyniad. Nid yw Tachwedd yn annog cariadon. Yn hytrach, ysbeiliwr ydyw, sy’n dwyn dail oddi ar y coed; yn achosi glaw a dyddiau byrion; neu fel y mynega’r bardd:
‘A llesgedd, breuoledd braw,
A llaesglog a chenllysglaw’
Yn nes at ein dyddiau ni, canodd sawl bardd arall i’r mis arbennig yma. Telyneg a wnaeth argraff arnaf ydy un Eifion Wyn (1867-1926):
‘Gwn ei ddyfod, fis y mêl,
Gyda’i firi yn yr helyg,
Gyda’i flodau fel y barrug –
Gwyn fy myd bob tro y dâl.’
Disgrifia’r bardd fel yr aeth ‘tua’r waun’ ar las y dydd i weld ‘y gwlith ar wasgar’ac i ‘eistedd tan brennau’ i weld yr ‘edn glas’ yn disgyn arnynt ‘gan barablu enw’r gog’.
‘Mai’ oedd mis geni Eifion Wyn. Ar yr 2ail o Fai, 1867 y gwelodd olau dydd gyntaf yn y Garth, Porthmadog.
Mae gosodiad telynegol y cerddor o Ddyffryn Ardudwy, Meirion Williams (1901-76) o’r delyneg yn enghraifft nodedig o’r gân gelf Gymreig. Llwyddodd Meirion Williams i gyfuno sensitifrwydd geiriol barddoniaeth Eifion Wyn a defnyddio’i ddawn gynhenid i greu cyfeiliant mor effeithiol a diddorol.
Pe bae rhywun yn gofyn i mi p’run yw fy hoff englyn, un o’r rhai a fyddai ar frig y siart fyddai un fy hen gyfaill o Ardudwy, John Ieuan Jones (1924-2003) i Fis Mai:
‘Hen fuwch y borfa uchel – heb aerwy
A bawr heddiw’n dawel,
A dail Mai fel diliau mêl
Wedi rhoswellt y rhesel.’
Cyhoeddwyd cyfrol fechan o gerddi Ieuan (Cyfres Beirdd Bro 4 – Gwasg Christopher Davies Cyf) yn ôl ym 1976. Cyfeiria’r Prifardd Alan Llwyd ato’n ei gyflwyniad fel ‘gŵr yr encilion … gŵr swil a diymhongar.’ Daeth y ddau ar draws ei gilydd yn nhre’r Bala yn ystod cyfnod Alan yn Awen Meirion a Ieuan yn ymweld â’r dre’n rhinwedd ei waith fel Swyddog Lles Addysg. Yn ystod yr ychydig seiadau a gawsant ‘dros baned neu ddwy,’ clywodd Alan ef yn adrodd yn wylaidd ei delyneg neu ei englyn diweddaraf, a hynny gyda rhyw fflach fach ddireidus yn ei lygaid. Ac fe wyddai ei fod yng nghwmni ‘bardd,’ oherwydd, yng ngeiriau Alan ei hun, ‘dim ond bardd a allai lunio englyn fel yr un i Fis Mai, gyda’i gynildeb cywasgedig a’i urddas ymataliol.’
Noda Dafydd Islwyn, sy’n cynnwys yr englyn ymysg ei gasgliad ‘Cant o Englynion’ (Cyhoeddiadau Barddas 2009):
‘Dim ond tyddynnwr sylwgar a allai ganu englyn fel hwn.’
Dywed Alan Llwyd ymhellach na cheir yr un gair llanw ynddo; bod pob ansoddair yn ffitio’n daclus a phob gair ‘yn cydweithio â gweddill y geiriau’n berffaith.’ Mae ‘heb aerwy’ yn awgrymu ‘rhyddid’ lle bu ‘caethiwed y gaeaf,’ a’r ansoddair ‘tawel’ yn awgrymu rhyddid ar ôl anniddigrwydd y tymor hirlwm. Ceir cyferbyniad twt wedyn rhwng ‘diliau mêl’ a ‘rhoswellt’. ‘Hen fuwch’ sydd yma, a’r englyn yn awgrymu fod Mai ‘yn dod â chyffro ieuenctid yn ôl wrth iddo adnewyddu a ffrwythloni’r ddaear o’r newydd’.
Yn niwedd y saithdegau a blynyddoedd cynnar yr wythdegau, cefais y fraint o fod yn gyd-aelod â Ieuan yn nhîm ‘Talwrn y Beirdd’ Ardudwy. A dyna fraint oedd honno! Braint hefyd fu cael llunio teyrnged goffa iddo yng nghylchgrawn ‘Barddas.’
IM
Llun- blodau drain gwynion, PW
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon