28.5.15

Blas ar y Wladfa

Ar yr 28ain o Fai, 1865, union ganrif a hanner yn ôl i heddiw, yr hwyliodd y ‘Mimosa’ o Lerpwl am Batagonia bell. Gan fod sawl cysylltiad rhwng ein hardal ni a’r Wladfa, mae cyfres o erthyglau wedi ymddangos am Batagonia. Y tro hwn, rhan o erthygl o rifyn Mai gan Pegi Lloyd-Williams.

A ninnau yma’n ardal Ffestiniog yn gobeithio gefeillio â thref Rawson ym Mhatagonia, roeddwn yn meddwl y byddai o ddiddordeb i ddarllenwyr ‘Llafar Bro’ gael blas o’r hyn a geir yn ‘Y Drafod’ (‘El Mentor’) - rhifyn Haf 2015. Dyma eu papur Cymraeg.

Mae 'na gyfeiriad wrth gwrs at y dathlu mawr fydd draw yno eleni - dathlu canmlwyddiant a hanner ‘Y Wladfa’ (pe bawn i ond yn iau!), a choeliwch fi, maen nhw’n gwybod sut i ddathlu.

Yn y golofn ‘Gair gan y Golygydd’ – mae Esyllt Nest Roberts yn apelio’n daer am i rywrai fynd ati i ysgrifennu er sicrhau parhad ‘hen bapur newydd Cymraeg De America.’

Mae yma ysgrif - ‘Hunangofiant Hen Gist’ - a gafodd ei gwneud ‘ymhell dros y môr ... o bren derwen da.’ Cafodd ei gorchuddio â ‘sinc da,’ a rhoddodd y saer ‘glamp o glo arni.’ Fe’i prynwyd gan bâr ifanc oedd am ymfudo i Batagonia. Ynddi, rhoddwyd llawer o bethau pwysig - blanced fawr o frethyn da wedi ei gwneud mewn ffatri yn yr ‘Hen Wlad’, Beibl mawr mam un o’r pâr ifanc ac ynddo  restr ‘enwau’r teulu’; defnyddiau drud wedi eu pacio’n daclus a set o lestri ‘bone china.’  Nodir fod y geiriau “FRAGILE- PORTH MADRYN” i’w weld ar y gist pan ddodwyd hi ar y ‘Mimosa’ ym Mai 1865.

Ceir gair gan Sara Alis, Bangor o dan y pennawd ‘Taith yr Urdd 2014’ - cychwyn o Gymru i San Paolo ym Mrasil, ymlaen i Buenos Aires ac i Drelew, a chlywed y Gymraeg yn cael ei siarad. Daliwyd ar y cyfle i fynd i Punta Tombo i weld y pengwiniaid, cyrraedd Esquel, dysgu sut i yfed ‘te mate’ yn iawn (ia! mae’n grefft), mynychu sawl asado anhygoel, mynd draw at fedd ‘Malacara’* yn Nhrevelin - hynny’n brofiad teimladwy, a chael hanes John Daniel Evans. Mae’n gorffen trwy ddiolch am y cyfle i’r Urdd a ‘Menter Patagonia.’

llun- gyda diolch- o dudalen Gweplyfr/Facebook Y Drafod

Cafwyd hyn a llawer mwy yn y papur bach yma - difyr iawn. Daliwch ati draw yna!
--------------

* Manteisiaf ar y cyfle i ddweud fod John Daniel Evans - a wnaeth y naid anhygoel ar gefn ‘Malacara’, ei geffyl ffyddlon, yn frawd i wraig Y Parch John Hughes -gweinidog Jerusalem, Y Blaenau yn ystod y Rhyfel Mawr. 

Pan oeddwn ar fy ymweliad cyntaf â’r Wladfa, cefais fynd at fedd yr anhygoel ‘Malacara’, a Milton Evans, gŵr y tŷ, yn dod allan i’n cyfarch gan ofyn o ble roedd pawb ohonom yn dod? Pan atebais i mod i’n dod o Flaenau Ffestiniog, roedd wedi rhyfeddu’n lân. Y rheswm am hynny oedd mai yn Stiniog y treuliai ei holl wyliau ysgol tra’n cael ei addysg ym Mhrydain, a chael aros efo’i fodryb a’i gŵr. Yn naturiol felly, siarad am y Blaenau fuon ni wedyn am sbel, nes iddo ofyn oeddwn i wedi byw yno erioed. Wel ‘na’ oedd yr ateb, wrth gwrs, gan ddweud fy mod yn enedigol o Aberpennar. Roedd dweud hynny yn fwy syfrdanol fyth, gan mai yno ganwyd ei dad, John Daniel Evans, a’i chwaer.

Diweddglo’r ymweliad oedd cael fy ngwahodd yn ôl i’w gartref am bryd nos y diwrnod wedyn - mewn steil go iawn, efo gwas a morwyn yn gweini arnom. Nid dyma ddiwedd yr hanes - dychwelais yno ymhen rhai blynyddoedd. Ond stori i’w hadrodd rywbryd eto ydy honno!


Pegi Lloyd-Williams
---------------------


Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y dolenni 'Patagonia' neu 'Y Wladfa' isod.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon