10.5.15

Bwrw Golwg- W.O.Thomas, Califfornia

Bwrw Golwg: Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Darn arall gan W. Arvon Roberts; un a ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Tachwedd 2014.

William O. Thomas
Ganwyd ef ym mhlwyf Maentwrog yn 1845. Symudodd i Lechwedd, Blaenau Ffestiniog gyda’i rieni, Owen a Margaret Thomas, pan oedd yn dair blwydd oed.  O naw oed nes oedd yn ddeunaw bu’n gweithio yn y chwarel. Yn ystod y cyfnod hwnnw anfonwyd tri chwarelwr i weithio mewn chwarel yn yr Iwerddon, ar lan Bae Bantry, a William O oedd un ohonynt. Methu setlo i lawr fu ei hanes yno; nid oedd yn hoffi’r lle na’r bobl, ar wahân bod hiraeth mawr arno i ddychwelyd yn ei ôl i’w gartref yn Ffestiniog.

Dychwelodd ymhen rhyw dri mis, ond roedd yn anfodlon ei fyd yn Ffestiniog hefyd, a daeth awydd arno i fynd i America. Nid oedd ei rieni yn fodlon ei fod yn mynd mor bell a gohiriodd fynd am o leiaf flwyddyn arall.

Yn Ebrill, 1865, caniataodd ei fam iddo gael mynd cyn belled â Lerpwl, i ddanfon dau o’i ffrindiau oedd yn cychwyn ar eu taith i America - hynny ar yr amod ei fod ef yn dychwelyd i Ffestiniog ymhen yr wythnos. Pan gyrhaeddodd Lerpwl, rhoddodd ei feddwl  ar fynd i America, a phenderfynodd yn y fan a’r lle ymuno â’i ddau ffrind fel ac yr oedd.  Ar ôl talu am ei gludiant i Efrog Newydd, yr oll oedd ganddo yn ei boced i wynebu dirgelion y Gorllewin oedd deg swllt.

Cafodd fordaith dymhestlog ar fwrdd y City of Cork, a bu ar y môr am 17 diwrnod, ond cyrhaeddodd pawb Efrog Newydd yn ddiogel.  Anturiodd William O  gyda’i ffrindiau cyn belled â Hydeville, Vermont, lle cafodd waith gan y bardd Ionoron Glan Dwyryd.  Ar ôl gweithio digon i dalu ei ddyledion, ac i deimlo yn annibynnol, dechreuodd anesmwytho.  Symudodd o Hydeville i Middle Granville, Efrog Newydd, lle bu’n gweithio mewn chwarel hyd y Nadolig.  Yn ddiweddarach symudodd i Maryland am bedwar mis. Roedd yn anfodlon â’r lle hwnnw hefyd ac fe gyfeiriodd ei wyneb tua thaleithiau Georgia ac Alabama yn y De, lle bu am naw mlynedd.  Bu’n llwyddiannus yn y fasnach lechi, yng Ngogledd a De Carolina, yn Florida, a hefyd yn Texas.

Ymhen tair blynedd cafodd ei benodi yn asiant teithio i gwmni'r Tennessee Car Roofing, ac aeth i Galiffornia yn 1874. Erbyn hyn roedd wedi cael cyfle i ymweld â phob un o’r taleithiau oddieithr Maine. Hoffai Galiffornia gymaint fel nad oedd yn teimlo unrhyw awydd i ddychwelyd yn ei ôl i’r dwyrain fel yr oedd wedi bwriadu ynghynt. Ar ôl treulio wythnosau difyr yn San Francisco cafodd waith mewn mwynglawdd arian byw yn Knoxville, ym mhen uchaf sir Napa, Califfornia.  Bu yno am bedwar mis cyn dychwelyd i San Francisco, a chan nad oedd neb wedi darganfod chwareli llechi ar lannau’r Tawelfor, penderfynodd fynd ati o ddifrif i chwilio am y llechfaen yn Califfornia. Gyda’i wrthban ar ei gefn, aeth i gyfeiriad y mynyddoedd a cherdded glannau’r afonydd a’r ffrydiau gan arsyllu’n fanwl arnynt i gyd.  Treuliodd ddau fis yn crwydro mynyddoedd a dyffrynnoedd, a chredu ei fod wedi darganfod llechfaen o’r fath orau ger Placerville, sir El Dolrado. Sicrhaodd y tir drwy'r hwn y rhedai’r llechfaen, torri nifer fawr o lechi, ac yna ffurfio cwmni stoc yn San Francisco i weithio’r chwarel.  Gan fod amryw o adeiladau yno wedi eu toi â llechi, a phawb yn eu hoffi, gwerthodd y stoc llechi am bris uchel dros gryn amser. Nid oedd y cwmni oedd yn gweithio’r chwarel wrth ei fodd a gwerthodd ei gyfranddaliadau yn yr anturiaeth chwarelyddol.

Teulu W.O
Yna cychwynnodd ar ei daith oddi amgylch y byd.  Ceir hanes y daith honno yn ei gyfrol Dwywaith o Amgylch y Byd, sef hanes teithiau yn Ewrop, Asia, Affrica, America ac Awstralasia, yn ystod pum mlynedd o amser (Utica, 1882).  Bu hefyd yn ohebydd i’r papur newydd Y Drych.

Mae’r wybodaeth sy’n fy meddiant, sef Bywgraffiadur Cymry America (sydd heb ei gyhoeddi), yn dweud fod rhieni William O. Thomas wedi ymfudo o Ffestiniog yn 1875, a’u bod wedi byw yn Arvonia, Virginia, am gyfnod.  Yno, yn Norfolk, Virginia, y claddwyd ei dad, Owen Thomas, a chladdwyd Margaret, ei fam yn Efrog Newydd.  Bu farw brawd William O, David, 17 Mehefin, 1915, yn 56 oed, yn Norfolk, Virginia.  Bu’n dilyn ei alwedigaeth fel töwr llechi yn Petersburgh, Virginia, ac yn Norfolk ar ol hynny.  Ar 21 Hydref, 1885, priododd â Jennie, merch i John a M.J. Roberts, Arvonia, Virginia.  Ganwyd iddynt bump o blant.  Claddwyd David O wrth ochr ei dad yn Norfolk, Virginia.




Daw’r llun o gasgliad personol yr awdur.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon