16.5.15

Sgotwrs Stiniog -tywydd Mai

Erthygl o rifyn Mai 1998, o gyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans.

Wrth weld yr eira’n disgyn yn ystod y Pasg, ac hefyd y dyddiau’n dilyn yr wyl daeth hen ddywediad i’m cof’:
‘Ni saif eira ym mis Ebrill
Mwy na dwr ar gefn brithyll.’
Roedd yr hen sylw yma yn eithaf gwir gan yn fuan iawn yr oedd haul y gwanwyn yn ei fwyta ac yn ei symud o’n golwg, ar wahan i gopaon y mynyddoedd.

Ond i’r rhai a oedd wedi dechrau pysgota yn o gynnar yn y tymor daeth yr eira yma yng nghanol Ebrill fel rhyw huddugl i botas (fel yr arferid a dweud), a difetha rhywfaint ar yr hwyl yn anffodus.  Gobeithio na chawn ni ddim o’r un peth ym mis Mai.  Mae yna hen ddywediad arall sy’n dweud;
‘Haf hyd Galan, gauaf hyd Fai.’
A gwyddom pa mor dyner y bu y gauaf a gawsom, ac hynny hyd y flwyddyn newydd.

Daeth y rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn ‘Glas y Dorlan’ i law ym mis Ebrill.  Cylchgrawn ydyw gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, ac mae cryn dipyn ynddo am ymdrechion yr Asiantaeth i wella ansawdd afonydd a llynnoedd Cymru.

Wrth gymharu sut y mae pethau heddiw a’r hyn oeddent tua un-mlynedd-ar ddeg yn ôl, dywedir fod yr hyn a chwydir o gyrn pwerdai a ffatrioedd ayyb, wedi lleihau rywfaint, ac fod yna lai o sylffar erbyn hyn yn nŵr afonydd Cymru.  Mae ansawdd y dŵr ar draws Cymru wedi gwella ryw ychydig, ond does yna fawr o arwydd fod bioleg y dŵr a’r pysgodfeydd wedi gwella.  Felly, yn ôl pob dim a ddywedir, mae yna gryn dipyn o waith eto i’w wneud.

Canmolir peiriannau calchio sydd wedi eu rhoi ar ddwy afon sy’n llifo i Lyn Brianne, sydd i lawr yng Nghanolbarth Cymru, ac fod hynny wedi codi’r pH ac wedi lleihau yr aliminiwm yn y dŵr.  Da yw deall fod yr ymdrechion yma yn llwyddo, er yr hoffai rywun weld mwy o lwyddiant ac hynny’n digwydd yn gynt.

Sut y bydd hi, tybed, ar y ddau Lyn Gamallt pan fydd effaith y calch a wasgarwyd ym mhen uchaf y Llyn mawr a phen isaf y Llyn Bach yn 1991 wedi darfod?  Ac hynny erbyn hyn saith mlynedd yn ôl, y mae effaith y calch yn sicr o fod wedi gwanhau erbyn eleni.  Beth sydd i ddigwydd nesaf?

Pluen sy’n weddol ddieithr i Sgotwrs Stiniog yw yr un sy’n cael ei galw yn ‘Harri Tom’.  Un o blu Dyffryn Nantlle ydyw, ac yn gryn ffefryn yn yr ardal honno.
Rydw i wedi bod yn rhoi cynnig arni ers rhai tymhorau erbyn hyn, ac mae wedi dod ag ambell i bysgodyn i’r gawell i mi.  Oherwydd hyn mae'n bluen sydd wedi tyfu yn dipyn o ffefryn gennyf innau.  Dyma ei phatrwm fel y cefais ef gan rai o sgotwrs Dyffryn Nantlle:

Bach – Maint 12 a 14
Cynffon – 4-5 blewyn fel y traed
Corff – Blewyn tywyll oddi ar glust ysgyfarnog, a rhoi cylchau o weiar arian amdano.
Traed – Oddi ar war ceiliog, o liw melyniadd; lliw mêl.
Adain – Ceiliog hwyaden frown

Yn ôl llyfr Moc Morgan, ‘Fly Patterns for the Rivers and Lakes of Wales’ (a gyhoeddwyd rai blynyddoedd yn ôl bellach), mae patrwm Harri Tom rywfaint yn wahanol ganddo ef.  Mae y gynffon a’r traed o liw glas-lwyd – lliw mwg fel y’i disgrifir gan rai, a weiar aur sydd am y corff ac nid weiar arian.

Bum yn ei chawio ac yn ei physgota yn ôl y patrwm sydd yn llyfr Moc Morgan ar y dechrau.  Yna, pan mewn cyfarfod o rai yn cawio plu yng Nghaernarfon beth amser yn ôl, ac wrth son am blu ac wrth gymharu plu ‘Stiniog hefo plu Dyffryn Nantlle, dywedwyd wrthyf mai patrwm gwreiddiol a chywir Harri Tom yw fel y’i rhoir yn nechrau y nodyn yma.

Mis Mai a mis Mehefin yw’r adeg yr ydw i wedi gwneud orau hefo Harri Tom, a’i rhoi hi yn bluen agosaf-at-law ar flaen-llinyn o dair pluen.
Hwyl ar y dal!


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon