Degau o erwau’n troi’n anialwch du ...
Yng nghyfarfod mis Ebrill, trafodwyd y tanau gwair a grug a dorrodd allan yn yr ardal. Ni wyddys, wrth gwrs, pwy oedd yn gyfrifol. Ond un peth a wyddom yw eu bod yn troi degau o erwau o dir - yn eithin, gwair a grug, yn anialwch du, gan ladd creaduriaid prin megis madfallod a nadredd, a dinistrio nythod adar megis yr ehedydd. Mae’r dynion tân lleol wedi gorfod treulio oriau lawer yn brwydro’r tanau hyn. Y peth gwarthus yw fod hyn yn digwydd yn llawer rhy aml mewn cyfnod o sychder. Fe gytunodd y Cyngor i wneud popeth o fewn ei allu i dynnu sylw at y broblem, ac i erfyn ar unrhyw rai sy’n amau eu bod yn gwybod pwy sy’n gyfrifol i rannu’r dystiolaeth honno gyda’r heddlu.
Creithio Ebrill. Llun PW. |
Dyfodol iechyd ...
Mater ymfflamychol arall a drafodwyd oedd iechyd - y bleidlais leol, gwelyau yn yr ysbyty a’r gwasanaeth meddygon teulu lleol. Pan ganhaliwyd y cyfarfod, nid oedd y Cyngor wedi derbyn ymateb o’r Bwrdd Iechyd ynglŷn â’r pynciau yma. Ond fe gyrhaeddodd llythyr rai dyddiau wedyn, ac mae cyfarfod yn cael ei drefnu i drafod ei gynnwys.
Y Cynllun Datblygu Lleol ...
Rhywbeth arall sy’n digwydd ar hyn o bryd, fydd yn effeithio ar yr ardal am flynyddoedd i ddod, yw’r ‘Cynllun Datblygu Lleol’ a gaiff ei lunio ar gyfer Gwynedd a Môn. Fe gynhaliodd y Cyngor Tref gyfarfod arbennig i drafod hyn, a gwnaed llwyth o sylwadau. Mae’r Cynghorwyr yn pryderu am gynlluniau i godi tai ar Y Ddôl yn Nhanygrisiau, - hen safle’r Clwb Rygbi. Y broblem yw fod y Cyngor wedi derbyn gwybodaeth glir oddi wrth Asiantaeth yr Amgylchedd yn y gorffennol, fod y tir yma’n dioddef gan lifogydd mewn cyfnodau o law trwm. Barn ‘Senedd ‘Stiniog’ yw na ddylid codi tai yma, oni bai eu bod nhw wedi cael eu haddasu’n arbennig i wrthsefyll llifogydd. Golyga hynny y byddai’n rhaid iddyn nhw sefyll ar ‘stilts’!
Wedi dweud hyn, fe groesawodd y Cyngor y ffaith fod y ‘Cynllun Lleol’ yn dynodi Ffestiniog fel ‘Canolfan Gwasanaethau Trefol’ ar y un lefel â Bangor a Chaernarfon. Gallai hyn fod yn bwysig o ran cynllunio trafnidiaeth gyhoeddus, addysg a phethau eraill sydd mor hanfodol yn ein hardal.
Rory Francis
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon