30.5.15

Gwynfyd- pryfeta

Ymddangosodd cyfres 'Gwynfyd' am dair, bedair blynedd yn y nawdegau, yn trafod bywyd gwyllt a llwybrau troed ein bro. Dyma ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Mai 1996, yn crwydro ym Maentwrog.


Un o ddyddiau hyfrytaf y gwanwyn fu'r pumed o Ebrill, ac felly yr es i dow dow a dilyn fy nhrwyn yng nghoedydd Maentwrog. Wrth gychwyn dros y ffordd i Dafarn Trip ar lan Llyn Mair, mae'r cilomedr cyntaf trwy blanhigfa gonifferaidd, ond mae'r llwybr yn un llydan ac agored, felly'n caniatau i ddigon o oleuni gyrraedd y llawr.

Yma y gwelais löyn byw cyntaf y flwyddyn -peunog- yn torheulo ynghanol y llwybr. Treuliodd beth amser wedyn yn hedfan hyd a lled ei diriogaeth, yn fflachio ei lygaid ffug a esblygwyd i ddrysu neu ddychryn adar. Mae'r peunog yn un o'n glöynod sydd yn treulio'r gaeaf fel oedolyn, felly y genhedlaeth yma fydd yn cynhyrchu'r glöynod y gwelwn yn ein gerddi o fis Gorffennaf ymlaen; mae'r lindys du, blewog i'w gweld ar ddail poethion yn ystod Mehefin -daw hyfryd fis....

Gloyn peunog (mantell paun)- llun PW
Wrth gadw at ochr chwith y wal, daw'r llwybr i lannerch braf lle'r oedd glöynod eraill yn hedfan ymysg y gweiriau tal; yr adain garpiog a'r iar fach amryliw, dau arall sy'n gaeafu fel oedolion (imago) ac yn manteisio ar wres achlysurol yr haul i fwydo a chanfod cymar.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen ar y tir yma a Choed Bronturnor, a fydd cyn bo hir efallai yn ffurfio rhan o 'Ardal Cadwraeth Arbennig' Coedydd Maentwrog, cynllun newydd gan y Gymuned Ewropeaidd i ddynodi cynefinoedd naturiol gwerthfawr i'w gwarchod.

Mae'r llwybr yn mynd yn ei flaen tua Coed y Bleiddiau a'r Dduallt (ac at Ystradau), ond troi i'r dde wnes i ar hyd y wal gerrig, a thrwyddo yn ôl i'r blanhigfa lle'r oedd dryw eurben a thitwod yn canu yn y brigau uchaf. Ymhen ychydig mi ddewch at barth lle mae'r canopi trwchus yn agor i ddatgelu rhyw lys Ifor Hael o furddun. Yma 'roedd suran y coed yn tyfu ymysg y mwsog' a'r cerrig, a'r mieri a'r brigau yn fwrlwm gan hedfan hwnt ac yma a chanu gwyllt ceiliog dryw bach, efallai yn amddiffyn y nyth yr oedd wedi, neu yn ei godi. Es yn fy mlaen rhag ei ddigio a dod at gronfa fechan, sydd erbyn Mehefin yn le da i wylio sawl math o was neidr.

O'r pwll yma gallwch droi i'r dde ac ail ymuno â'r llwybr gwreiddiol, neu gerdded ymlaen i mewn i Goed Ty Coch, hyd at y ffordd fawr uwchben gwesty'r Oakely Arms. Bu'r Ymddiriedolaeth yn clirio Rhododendron ponticum o'r goedlan yma y llynedd, ond eisioes mae llwyni ifanc yn tyfu yma eto. Mae ceisio difa'r pla yma yn Eryri (sydd yn cynhyrchu miloedd o hadau i bob blodyn) fel aredig tywod, ond mae'r clirio llynedd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i dyfiant llawr y goedwig, ac ar lethr yn wynebu'r de, yng ngwres yr haul 'roedd chwilen prydferth a elwir yn Saesneg, green tiger beetle, sydd yn olygfa doniol wrth hela pryfed bychan, mae'n hedfan pellter bach ac yna rhedeg o le i le i'w dal -hwn mae'n debyg yw'r rhedwr cyflymaf ymysg pryfetach Ynys Prydain! Mae ei gorff yn
wyrdd llachar gyda marciau melyn arno, a genau dychrynllyd yn ei wneud yn drawiadol iawn.
---------------------

Paul Williams oedd awdur cyfres Gwynfyd.Bydd mwy o erthyglau yn dilyn o dro i dro.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon