22.5.15

Pobl y Cwm -Dyddiau Fu yng Nghwm Cynfal

Yn y misoedd bob ochr i'r milflwydd bu cyfres o erthyglau yn Llafar Bro yn cofnodi atgofion am Gwm Cynfal. Bydd y rhain yn ymddangos fesul dipyn ar y we dros yr wythnosau nesa'. Dyma'r cyntaf ohonynt (o rifyn Mawrth 1999), yn dilyn y rhagair i'r gyfres wreiddiol gan VPW.

Hoffem fynegi ein diolchiadau i Elwyn Williams, Dorfil, am ganiatad i gyhoeddi cyfres o atgofion ei ddiweddar nain, Ellen Williams (Price gynt) yng ngholofnau Llafar Bro dros y misoedd nesaf. Yn enedigol o Drawsfynydd, treuliodd Mrs Williams ran helaeth o'i hoes yn Nhyddyn Gwyn Bach, Cwm Cynfal, cyn symud i dy rhes o'r un enw yn Llan Ffestiniog yn 1946.
Yn amlwg, roedd y Cwm yn agos iawn at ei chalon, a bu wrthi'n ddiwyd dros y blynyddoedd yn cofnodi'r atgofion ar dri llyfr copi. Pleser mawr yw cael rhannu'r perlau difyr hynny gyda'n darllenwyr, atgofion sydd yn teithio'n ôl rhwng y cyfnod cyn troad yr 20fed ganrif a'r 1940au. Hyfryd yw cael blas ar gyfnod sydd bellach ddim ond rhan o'r gorffennol pell i ni, ddinasyddion yr oes dechnolegol hon. Rhag colli dim o naws wladaidd, hen ffasiwn y cofnodion, fe'i cyhoeddir yn union fel yr ysgrifennwyd hwy, air am air gan Mrs Williams.  (Bu farw Ellen Williams yn Llan Ffestiniog ar ddechrau'r 1980au).

Adgofion Mebyd
Ganwyd fi yn Wern Ucha, ffarm ryw bedair milltir o Drawsfynydd yn mis Ebrill y 4ydd yn y flwyddyn 1895. Roeddwn yn wythfed blentyn ar yr aelwyd, a daeth pedwar ar fy ôl wedi hynny. Does dim cof genyf fy mod wedi cael dim mwytha na moethau, ond pa ryfedd, yn un o'r holl griw. Er hynny, roedd genyf fam anwyl a hoffus yn ofalus o'i phlant. Clywais fy nhad yn dweyd lawer gwaith y byddai rhai pobl yn gofyn i mam, sut ar y ddaear oedd hi yn gallu côpio hefo ni i gid? Wel, meddai hithau rwyn ei caru nhw i gid, ond yn caru mwy ar yr un ieuengaf o hyd.

Bedyddiwyd fi yn Ellen Price, ond Nel oedd fy hoff enw. Roedd hi'n eira mawr iawn pan anwyd fi, eira ar y ddaear ers tri mis. 'Gaua mawr, gaua caled' oedd yr hen dadau yn galw y gaua hwnw. Roedd nhad a mam wedi son gymaint yn fy nghlyw am y gaua mawr a'r gaua caled hwnw nes mae'r hanes wedi glynu yn fy nghof. Bu chwarelau y cylch yn mhob man ar gau am dri mis, ac yr oedd yr adeg hono rhai miloedd yn gweithio yn y chwarelau gylch Ffestiniog yn unig, a'r ffermwyr yn cael colledion, a'i hanifeiliaid yn marw. Doedd dim son am Undeb na dole na grant y pryd hyny.

Hanes arall sydd wedi glynu yn fy nghof, wrth glywed fy nhad a fy mam a fy mrawd yn adrodd y tro trwstan pan oeddwn i ryw ychydig fisoedd oed. Ar ddiwrnod braf o haf, a nhad a mam wedi mynd allan i'r cae gwair ger y ty i drin y gwair, ac wedi rhoi fy ngofal i i Dei fy mrawd i siglo crud nes i mi gysgu, a cofiwch, nid carring cot oedd y ffasiwn y pryd hyny, ond crud pren yn siglo ar sodlau. Ac yn siwr i chwi mod i wedi bod yn hir heb fynd i gysgu, a Dei fy mrawd wedi blino siglo. Clywais i o yn dweyd lawer gwaith "mi rhois i sgwth fawr i'r crud, nes ddaru o droi ar ei ochr, a rhedeg allan o'r ty tan grio". A mam yn ei ffwdan a'i dychryn yn redeg i'r ty, a fy nghael yn swp swnllyd tan y crud, ond roedd y dillad a'r pillow wedi fy arbed rhag cael llawer o niwed.

Nid wyf yn cofio fawr ddim amdanaf fy hun yn Wern Ucha. Y cof cynta sydd genyf am danaf yn cael fy nghario ar ben y llwyth mudo o Trawsfynydd i Bron Goronwy, Cwm Cynfal, ryw dair oed oeddwn i y pryd hyny, a fy mrawd llai na fi ryw flwydd a haner ar ben y llwyth mudo. Nid oeddwn erioed wedi bod o'r lle tan hyny, ac roeddwn yn meddwl fod ryw ryfeddod ar fod, roeddem wrth ein bodd, ac yn mwynhau ein hunain ar ben y llwyth, nes i ni flino wrth ein ysgwyd a'n hongian dros fryn a phant, a chysgu yn y diwedd. Does gen i fawr o gof beth ddigwyddodd wedi i mi gyrraedd pen y daith.

Byddai mwy o bobl ddiarth yn galw yn Bronronw na fydda yn y Wern. Roedd Capel bach y Babell heb fod ym mhell o olwg y ty, a hen Babell erbyn hyn, nid oes ond adfeilion o hono. Er hyny y mae yn lle cysegredig iawn yn fy ngolwg i. Yno yn yr Ysgol Sul y cefais i ddweyd fy adnod am y tro cynta yn gyhoeddus. Rwyn cofio mynd i'r Ysgol Sul am y tro cynta, roedd tri neu bedwar arall yn y dosbarth. Hen wraig anwyl a siriol oedd yr athrawes, Mrs Jones Bronerw.

Rhaeadr y Cwm; Cwm Cynfal. Llun VPW
Cof am dani hi yn gwisgo bonet ddu wedi ei thrimio hefo mwclis duon a ruban llydan yn ei chlymu dan ei gên, a chape ddu a hono wedi ei thrimio hefo mwclis duon, yr oeddwn yn meddwl ei bod hi yn grand. Byddai hi yn eistedd yn y canol, a dau neu dri o'r plant bob ochr, a thra byddai hi yn rhoi gwers i plant un ochr byddwn inau ochor arall yn cyfri y mwclis ar y cape, mi wnes i hyny llaweroedd o weithiau.

Rwyn cofio i mi fynd i adrodd am y tro cynta yn y Cyfarfod Cystadleuo. Chwe neu saith o honom dan pum oed. Yr adroddiad oedd 'Mae genyf ddwy law'.

Ddaru fi ddim enill, ond oedd dim wahaniaeth gen i am hyny, mi gefais wobr o geiniog mewn bag bach sidan glas a ruban gwyn yn ei crychu i'w roi am fy nghwddf. Bobl anwyl, yr oeddwn yn meddwl fy mod wedi cael ffortiwn, roedd y bag bach sidan glas yn fwy gwerthfawr yn fy ngolwg na'r geiniog, er mor brin oedd hono.

I'w barhau....

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon