Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Ebrill 2015:
Calonogol iawn fu’r ymateb i’m sylwadau am y bardd Ionoron Glan Dwyryd a ‘Brwydr Moel-y-Don’ yn Rhifyn Mawrth.
Diolch o galon i Neris Thomas, Bryncir House am gysylltu ac anfon dwy o gerddi Ionoron i mi. Fe’u derbyniodd nhw dros ugain mlynedd yn ôl gan Catherine Wood o Benrhyndeudraeth, oedd yn arddel perthynas â’r bardd. Cyhoeddwyd y delyneg ganlynol yn ‘Lloffyn y Gweithiwr’ (Bala, 1852):
DEIGRYN HIRAETH
Lle bo hiraeth, gwelir deigryn
Ar y rudd yn mynych ddisgyn,
Ac yn llithro drosti’n araf
Gan arswydo’r teimlad dwysaf.
Deigryn yw yn tarddu allan
O ffynhonnell dagrau’i hunan,
Ffynnon nad oes sychu arni
Tra bo hiraeth yn bodoli.
Gwres yr haul a sycha’r deigryn
Gwlith ar ruddiau’r siriol rosyn,
Ond nid oes trwy’r greadigaeth
Ddim all sychu deigryn hiraeth.
Yn sicr, llwyddodd Ionoron i ddelio â’r testun yn yr un modd ag y gwnaeth y bardd di-enw hwnnw gynt a holodd ‘fawrion o wybodaeth o ba beth y gwnaethpwyd hiraeth?’
Yn ‘Caniadau Ionoron’ (Utica, 1872), ymddengys awdl oddeutu can llinell o hyd ar y testun ‘Crwydriaid Awen.’ Mynegi ei hiraeth am fro ei febyd yma’n ‘Stiniog a wna’r bardd. Mae ganddo ddisgrifiadau grymus, ac yn sicr, dengys ei fod yn feistr ar y gynghanedd. Hoffwn pe byddai gofod i gynnwys yr awdl gyfan, ond ofnaf fod yn rhaid bodloni ar ddyfynnu pytiau ohoni.
Dyma’i ddisgrifiad o ysgithredd yr ardal:
Ceir gweled caerog olwg
Ac ôl elfennau mewn gwg.
Y ceunant yn y pant pell
Ar fin du’r afon dywell;
Y graig gref, hoff gartref gwynt
Lle cyrraedd llaw y corwynt,
A niwl byth ar ei chêl ban,
A thoir ei chrib â tharan.
Mae’r hir a thoddaid canlynol yn adrodd fel y cofia’r bardd alltud am fan a fu’n gymaint dylanwad arno yn ieuenctid ei ddyddiau:
O, Ffestiniog! Ar riniog Meirionnydd,
Gywrain a gloywdeg goron y gwledydd,
Ei daear annwyl huda’r awenydd,
A châr ymweled ag ochrau moelydd;
Man rhwng bronnau’r mynydd – draw yng Nghymru,
Lle i awenu – fy nghartref llonydd.
Mentra i lawr Dyffryn Maentwrog gan ddilyn:
Afon Dwyryd hyfryd wedd,
A wrida mewn anrhydedd
I ddyfrhau y werdd fro hon
A llonni ei dillynion.
I fin hon gyda fy nhad
Rhedwn, â heinif droediad
I wrando’r llif, genllif gwyn,
Ac i hudo’r pysgodyn.
Meddai am y Dyffryn:
Cadwyn o fryniau coediog – a welir
Hyd aeliau Maentwrog,
A llawr hir sy’n lle i’r og,
Dolydd a choedydd deiliog.
Sonia am yr ‘Allt Fawr’ a’r ‘chwarelydd’ oedd ar ei gwaelod. Dyma fel y disgrifia dwrw’r ffrwydro yno:
... Mellt byw’n ymwylltio o’i bol,
Dirgras dwrw daeargryn,
A gwraidd y mynydd a gryn.
Ceir cyfeiriadau at ‘ael ddu’r Moelwyn’ yn ‘gwgu.’ A chawn yr englyn hwn ganddo:
Tynnu gwres mae Tanygrisiau – o’r haul
I fron ei llechweddau;
Llu yn hon sy’n llawenhau
Ystryd ‘Gwilym Ystradau.’
Tybed a ŵyr rhywun ohonoch pwy oedd ‘Gwilym Ystradau?’
Dwysáu mae hiraeth y bardd yn niwedd yr awdl, a hynny mewn cwpledi crefftus ddigon:
Dy lwybrau flynyddau’n ôl
Ddynodwn yn ddeniadol,
A mwyn fu eistedd i mi
Ganwaith ar dy glogwyni.
Tyn fy serch at lannerch lwyd
I olwg yr hen aelwyd –
Aelwyd fy nhad anwylaf,
Yn ei chongl - hwnnw ni chaf,
A disgyn mae ‘neigryn i
Ar riniog bedd rhieni!
Wylaf wrth gofio aelwyd
A llawr yr hen fwthyn llwyd.
Ar dystiolaeth y ddwy gerdd a drafodwyd, ynghyd â’i gerdd i frwydr Moel-y-Don, mae lle i gredu y gellir ystyried Ionoron yn fardd da iawn yn ei gyfnod. O ddarllen awdlau a phryddestau tila Eisteddfodau Cenedlaethol diwedd y 19eg ganrif, mae ei waith yn cyrraedd tir dipyn uwch.
----------------
Cliciwch ar y ddolen Ionoron Glan Ddwyryd isod i weld mwy o wybodaeth amdano.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon