8.5.15

Peldroed yn y Blaenau

Ddegawd yn ôl bu cyfres ar hanes peldroed Stiniog yn Llafar Bro, o gofnodion y diweddar Ernest Jones. Bydd yr erthyglau yn ymddangos ar y wefan yma dros yr wythnosau nesa', y cyntaf ohonynt isod (o rifyn Mehefin 2004) efo rhagair gwreiddiol Vivian Parry Williams. Diolch i Gareth T Jones am ganiatâd i'w cyhoeddi eto. 

Ychydig o hanes y bêl-droed yn y Blaenau.

Y mis hwn, dyma ddechrau cyfres newydd a fydd o ddiddordeb i'r sawl sydd wedi bod, ac yn dal i ddilyn ffawd timau pêl-droed yr ardal.  Ffrwyth llafur ymchwil y diweddar wych hanesydd lleol, Ernest Jones yw'r cynnwys, ac wedi'i grynhoi gennyf ar gyfer Llafar Bro yn fisol. Gan nad oedd dim bron wedi'i ysgrifennu am hanes clybiau pêl-droed Stiniog, roedd Ernest, a oedd yn gefnogwr brwd o'r Town team wedi bwriadu mynd ati i gyhoeddi cyfrol i'r perwyl hwnnw.  Ond, yn anffodus, bu i afiechyd ei lethu cyn cwblhau'r dasg. Felly, o  barch i ymdrechion gwych Ernest yn casglu'r holl wybodaeth am brif dîm y dref, yn bennaf, gobeithio y caiff yr erthyglau eu derbyn yn gynnes gennych.  Rhaid diolch i Ronnie Jones, Heol Bowydd am drosglwyddo gwaith Ernest i'm gofal dros dro. (Crynodeb o'r hyn sydd i ddod dros y misoedd nesaf yw'r isod)

Yn ôl Ernest Jones, yn 1890 y sefydlwyd tîm pêl-droed y Blaenau, neu Blaenau FC, a chwaraewyd y gemau cynnar ar gae yn Rhiwbryfdir ar dir sy' wedi'i gladdu dan domeni llechi ers achau.  Ers y dyddiau hynny symudodd y clwb ei gartre' sawl gwaith - i'r Manod, Dorfil, Glanypwll, Tanygrisiau ac erbyn hyn i Gae Clyd.  Enw urddasol oedd i'w maes cyntaf, Holland Park, - wedi'i enwi ar ôl chwarel o'r un enw, ond cae digon di-urddas oedd hwn mewn ffaith, ac yn wlyb iawn dan draed. Lleolwyd yr ail faes, yn 1898, yn y Manod, a elwid yn Manod Recreation Field, ar safle isaf y gwaith Setts, rwy'n credu.  Er i hwnnw fod yn gae eitha' sych i'w gymharu â Pharc Holand gostyngodd arian y gwylwyr yn syfrdannol, oherwydd i nifer fawr weld y gemau am ddim, trwy ddringo'r llethrau o amgylch y maes.  Cwynai'r awdurdod lleol hefyd fod rhai yn gwylio'r gemau o fynwent Bethesda gerllaw.

Wedi naw mlynedd symudodd y clwb pêl-droed i ganol y dref, i Barc Newborough, a dyna pryd y daeth Blaenau F.C. yn dîm o safon ymysg clybiau Gogledd Cymru. Er hynny, roedd sawl anhawster ynglŷn â'r safle hwn;  roedd yr ystafelloedd newid 700 llath o bellter o'r maes, ac er i'r cae fod yn dwt ac yn gryno, ac wedi'i gau i mewn yn daclus, roedd yn rhy fach i'r tîm gynnal gemau pwysig arno, ac i ddal y tyrfaoedd mawrion o wylwyr.

Bu bron i'r clwb beidio â bod yn 1922, ond daeth adnewyddiad, a bu'r pwyllgor yn ffodus o gael gafael ar gae mawr yng Nglanypwll yn 1929, Haygarth Park, ar rent.  Yn nes ymlaen gosodwyd ystafelloedd newid yno, mewn hen gytiau Nissen.  Symudwyd o Barc Haygarth ym 1952, oherwydd bod angen y safle i godi ffatri barod, ffatri Metcalfe bresennol.  Y maes nesaf oedd ger yr hen ysgol yn Nhanygrisiau, a'r ysgol honno a ddefnyddid fel ystafelloedd newid.

Yn 1956 daeth maes ardderchog ar gael, yng Nghae Clyd, Manod, a symudodd y clwb peldroed o un pen i'r dref i'r pen arall.  Cyn codi ystafelloedd newid pwrpasol, defnyddiwyd adeilad yn perthyn i dŷ  cyfagos fel lle i newid ac ymolchi wedi'r gemau. Fel cysgodfan i'r cefnogwyr prynwyd rhan o hen stesion Rheilffordd Ffestiniog a safai yn Sgwâr Diffwys*, sy'n dal i wrthsefyll glaw Stiniog hyd heddiw. [Mae o wedi mynd yn ôl i'w wreiddiau ar y rheilffyrdd eto erbyn hyn, ar y lein Ucheldir rhwng Port a Chaernarfon -Gol.]

Yn ystod yr holl fudo o faes i faes, bu i dîm y Blaenau ennill pencampwriaeth Gogledd Cymru ddwywaith, yn 1913 a 1962.  Enillwyd pencampwriaeth yr ail adran hefyd, yn 1928.

Wedi'r mudo i Gae Clyd, bu i glwb y dre' wneud yn dda iawn yn rheolaidd mewn cystadlaethau rhanbarthol.  Er na fu llawer o lewyrch ar eu hymdrechion yng Nghwpan Cenedlaethol Cymru dros y blynyddoedd, cafwyd sawl llwyddiant mewn cystadlaethau eraill, megis Cwpan Cookson, Cwpan Her y Gogledd (y Challenge Cup) a Chwpan Alves.

Pinacl llwyddiant y clwb oedd yn 1958-59, trwy ennill y Gwpan Her a'r Cookson, a dod yn uchel yn y gynghrair.
 
Ymysg y cewri o'r Blaenau a fu'n chwarae i glwbiau yng Nghyngrair Lloegr gwelir y canlynol: Robert Mills Roberts (Preston North End a Chymru); Caradog Davies (Bolton Wanderers, a gapiwyd fel amateur dros Gymru);  W.J.Hughes (Dinas Caer); Bob Davies (Notts. Forest a Chymru);  Glyn B.Jones (Man.Utd. a Chaerdydd - chwarae dros Gymru yn yr Alban yn 1928);  Gwilym (Peniel) Roberts (Bolton);  Gwynfor Hughes (Northampton);  David Jones (Stoke City); William Parry (Gillingham) a Gwyn Morgans (Wrecsam).       

(I'w barhau)

*Cafwyd cywiriad yn yr ail bennod: "O stesion y lein fach draws y ffordd i hen orsaf BR- ac nid o Ddiffwys y daeth y gysgodfan i Gae Clyd. Gyda diolch i Mel ap Ior ac eraill am dynnu sylw". -VPW

Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau' isod. (Rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar ffôn).


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon