Erthygl gan Gwyn Thomas, a ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2015:
Rai blynyddoedd yn ôl mi gefais ychydig dudalennau o nodiadau gan Bleddyn Jones y Ffatri, sef Melin y Moelwyn, neu Ffatri Tanygrisiau ar lafar. Roedd o wedi rhoi’r teitl barddonol hwn uwchben ei sylwadau: ‘Tipyn o Hanas gan Sgwennwr Anaddas’.
Isod mi geisiaf ddilyn sylwadau Bleddyn.
1. RHAI TERMAU
I ddechrau y mae’n rhoi ychydig o dermau cyffredin a ddefnyddid mewn melin wlân:
Nyddu Spinning
Cyrdeddu (Cordeddu) Doubling or Twisting
Dylifo Making the warp
Cannu Bleaching
2. YCHYDIG O’I HANES
Cefais fy nysgu i ‘gannu’ gyda sylffyr (brwmstan) gan fy nhad, a chyda peroxide gan Laport (o Luton).
Fe ddaeth dau ddyn yma o Amgueddfa Bradford i ofyn iddo a oedd yn gwybod am waith ‘pannwr’. ‘Chi ydi’r unig un a all ein helpu ni,’ meddan nhw.
Y diwrnod cyntaf y dechreuais i weithio ym melin Pant yr Ynn roeddwn yn dod adref efo Charles Williams am bump y prynhawn pan stopiodd yna ddyn i siarad efo ni. Gofynnodd i Charles pwy oeddwn i, ac ar ôl esbonio mai mab y Ffatri oeddwn i, dyma’r dyn yn dweud fod ‘cyw o frîd yn well na phrentis’.
Ar ôl i’r dyn fynd mi ofynnais innau i Charles pwy oedd o, a’r ateb a gefais i oedd:
Wil Lloyd y Gelli
A ddaliodd dunelli
O slwod a mâg –
A’i gawell yn wag.
Fe ddaeth Charles Williams o Lodge Cyffdy, Llanrwst, i’r Blaenau i weithio yn wyth oed. Fe gafodd ei ddysgu gan John Jones, Sir Fôn, a oedd yn dramp, ond yn ‘weuwr’ ardderchog. Charles a ddysgodd fi i ‘nyddu’ efo Spinning Mule efo ‘spindles’ 300 x 2 fodfedd a hanner ar y ‘cythraul ffatri’ fel y’i gelwid, sef [peiriant] Willey ar beiriannau ‘gardio’. Fy nhad ddysgodd fi efo ‘cribwr’ (jig) neu ‘nap raiser’ neu ‘godi (cotwm)’ a ‘chyrdeddu’, a ‘phressio’.
Yn 1927 y digwyddodd hyn. Doedd John Jones ddim eisio cerdded hefo ni trwy’r stryd am adref yn lle codi cywilydd arnom ni.
Mi fuodd John Jones yn ffeind iawn wrth Charles. Pan fyddai o’n mynd efo trip yr Ysgol Sul i Landudno byddai John Jones yn gwatsiad bod ganddo fo bres yn ei boced, gan roi tipyn o sylltau iddo fo.
Gan gofio hyn, ymhen blynyddoedd wedyn mi fues i a Charles rownd Sir Fôn yn chwilio am ei fedd o. Roedd Charles eisio rhoi carreg fedd yn y fan, ond ddaru ni ddim ffeindio’r bedd.
Fel hyn yr oedd y ‘pressio’ yn gweithio. O dan y ‘press’ 100 tunnell yr oedd tân, ac o dan y tân yr oedd yna ddŵr – yr hen ddywediad oedd fod ‘y tân yn licio gweld ei lun’ yn y dŵr. Dyma esboniad o’r broses yn yr ‘odyn’:
(a) Roedd yna fariau dur ar draws y top yn dal y gwlân, a oedd wedi ei lifo, i’w sychu.
(b) Yna roedd yna lechen, tua dwy droedfedd sgwâr, sef ‘llechen yr odyn’. Roedd hon yn rhyw 3 modfedd o drwch ac yn llawn o dyllau bach.
Hanes y lein styllennu. Roedd y llin yn cael ei nyddu yn Perth, yn Scotland gan ffýrm o’r enw ‘John Knox’. Roedd hi’n cael ei ‘chyrdeddu’ yn ffatri Melin y Moelwyn ar ‘twistar’, gan wneud y lein yn 2, 3, 4 neu 5 ‘cainc’ (ply). Fe werthid y lein wrth yr owns, ac nid wrth yr hyd – am tua hanner coron yr owns. Byddai Richard Evans, Ty’n Ddôl yn gweu rhwydi, rhai efo tyllau bach a rhai efo tyllau mawr, efo’r lein, a fo oedd y gweuwr rhwydi gorau a welais i erioed
3. ENWAU GWEHYDDION YR YDW I YN EU COFIO A FU’N GWEITHIO YM MELIN Y MOELWYN O 1871 YMLAEN
Jacob Jones; Shadrach Jones; Richard Lewis, Rhyd y Sarn; John Robert Jones; Charles Williams; John Jones (Tramp), Sir Fôn; Richard Edwards, Hafod Ruffudd; Dafydd a Wil John, dau frawd o Bant yr Ynn; Iorwerth Evans, Arial (?) House; Idris Pen-bryn, Manod; Bleddyn a Maldwyn (dau frawd), Ffatri Tanygrisiau; Owen John Jones, fy mrawd-yng-nghyfraith, Dyffryn; John Isgoed Williams, Trawsfynydd; Gladys Williams (Price), Jones St a Dolau Las; Glyn Roberts, Tanygrisiau; Jonathan Thomas, mab Ffatri Pentre Llawen, Cerrig-y-drudion; Jacob Jones, Barlwyd St, Tanygrisiau.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon