Cyfres am yr awyr agored a bywyd gwyllt oedd 'O Lech i Lwyn' ar ddiwedd y nawdegau. Dyma erthygl o rifyn Mai 1998 gan Myfyr Tomos, Llawrplwy oedd bryd hynny yn gadeirydd Clwb Mynydda Cymru – cymdeithas a sefydlwyd ym 1979 i hyrwyddo datblygiad mynydda yng Nghymru a threfnu gweithgareddau a theithiau mynydd, trwy gyfrwng y Gymraeg.
Faint o amser sydd ers i chi fod ar gopa’r Moelwyn, y Rhinog Fawr neu’r Cnicht? Mis, blwyddyn, neu fwy na hynny efallai? I lawer, mae’n siwr, maent yn lleoedd hollol ddieithr nad oes gennych awydd mynd ar eu cyfyl.
Ers blynyddoedd bellach rydw i’n crwydro mynyddoedd Eryri ac wedi cyfarfod â miloedd o bobol o bob rhan o’r byd. Syndod i mi yw cyn lleied o Gymry Cymraeg sy’n troedio’r uchelfannau gwych yma. Ai rywbeth i ymwelwyr yn unig yw ein mynyddoedd, ac i Saeson yn arbennig?
Yn sicr, fel yna yr oedd rai blynyddoedd yn ôl, ond bellach mae nifer o glybiau mynydda a chymdeithasau cerdded Cymraeg wedi eu sefydlu.
Mae’n gyfle gwych i fwynhau awyr iach, dod i adnabod byd natur, hanes lleol, cael ychydig o ymarfer corff hyd yn oed. Ond i mi, cael mwynhau rhai o’r golygfeydd gorau yn y byd – ie, yn y byd! Dyna yw’r prif fwynhad.
Beth sydd well na bod ar gopa’r Rhinog Fawr, a’r haul yn machlud ar noson o haf, a Bae Porthmadog, Pen Llŷn a gweddill mynyddoedd Eryri yn gylch o’ch cwmpas.
Gan fod y mynyddoedd ar garreg ein drws ac mor gyfleus, mae’n drueni fod cyn lleied ohonom ni’r Cymry yn mynydda. Efallai y gall ysgolion Gwynedd gynorthwyo trwy fanteisio mwy ar yr adnoddau naturiol gwych sydd yn y sir. Mae addysg awyr agored yn gyfle gwych i gyflwynoi’r disgyblion y natur, hanes a’r tirwedd arbennig yng Ngwynedd, yr ydym mor barod i’w gymeryd yn ganiataol.
O.N. Peidiwch dod i gyd efo’ch gilydd i ben Rhinog Fawr – ‘does dim digon o le!
Gwyliwch y golofn ddigwyddiadau am deithiau lleol y clwb. Mae’r tâl aelodaeth [£15 y flwyddyn yn 2015] yn sicrhau gostyngiadau mewn sawl siop awyr agored.
Gwefan Clwb Mynydda Cymru
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon