Y tro hwn y testun oedd:
Llynnoedd Gwneud y Cambrian
Mae ardal Ffestiniog - ‘Hen ardal y chwareli’ fel y byddai’n cael ei galw - wedi’i donio’n eithaf helaeth â llynnoedd. Yn y mynyddoedd sydd yn cwmpasu’r fro, ceir aml i glwt o ddŵr mewn rhyw gwm neu’i gilydd neu’n llechu mewn rhyw gilfach glogwynog.
Mae rhain yma ymhell cyn i’r un llechen gael ei chloddio a’i llunio; ymhell, mae’n debyg, cyn bo’r arloeswr cynharaf wedi mentro i blith y mynyddoedd i chwilio ei chymoedd a’i chilfachau - i weld ystad y wlad, fel petae. Roedd rhain yma, megis ‘dagrau Duw’ yn disgleirio, a neb i’w gwerthfawrogi.
Ond, er y nifer o lynnoedd a oedd yma’n barod, a’r rheini wedi eu cronni’n naturiol ers rhyw amser maith yn ôl, pan ddarganfuwyd y llygadau llechfaen cyfoethog yng nghreigiau’r ardal ac i’r diwydiant llechi dyfu a datblygu a blodeuo, aeth y galw am ddŵr gan y gwahanol chwareli yn fwy hyd yn oed nag y medrai llynnoedd ‘Stiniog ei ddiwallu.
Doedd dim amdani hi wedyn ond ychwanegu atynt - creu mwy o lynnoedd.
Yn y man, wedi ffurfio Cymdeithas Enweiriol y Cambrian yn 1885, daeth y Gymdeithas i ddal yr hawl pysgota ar rai o’r llynnoedd gwneud hyn, gan eu cyflenwi â brithyllod.
Dyma rhyw nodyn ar ddau neu dri o’r llynnoedd hyn, gan ddechrau efo Llyn Dŵr Oer, a fyddai’n ffefryn gan aml i bysgotwr.
Llyn Dŵr Oer
Yn yr hen bapur newydd ‘Baner ac Amserau Cymru,’ rhifyn 24ain o Dachwedd, 1866, mae yr adroddiad a ganlyn i’w weld dan y pennawd ‘Llyndoriad a Llifeiriant Mawr’.
‘Ychydig uwch law Bethania, ar ben un o’r bryniau, y mae llyn newydd wedi ei gau gan Gwmpeini y Graig Ddu, at wasanaeth peiriandy a fwriadant ei wneud yn y lle. Pa fodd bynnag rhoddodd y gwlawogydd trymion a ddisgynodd yma ddoe (Iau) a neithiwr y fath brawf ar ei nerth, nes yr ymollyngodd, gan anfon cenllif o ddyfroedd tua’r gwaelodion islaw - a gwnaeth alanastr dychrynllyd ....'Llyn Dŵr Oer sydd dan sylw yn yr adroddiad yna, a dyna’r flwyddyn, - sef 1866 - pryd y codwyd argae yn Nant Dŵr Oer er mwyn ei ffurfio.
Y rheswm dros wneud y llyn ydoedd, fod y Cwmni a weithiai Chwarel y Graig Ddu wedi penderfynu ehangu. Cyn hyn roedd y chwarel wedi cael ei gweithio yn lle’r oedd y gwelyau llechfaen, sef ym mhen gogleddol y Manod Mawr. Yn y cyfnod yma roedd mwy a mwy o fecaneiddio yn digwydd yn y diwydiant llechi, a rhaid oedd codi melinau, - ‘peiriandy’ medd yr adroddiad yn y papur newydd, - i roi y peiriannau llifio a naddu ynddynt. Rhaid, hefyd, oedd sicrhau y grym i droi y peiriannau hyn, a’r adeg hynny dŵr oedd hwnnw.
Gan fod adnoddau dŵr yn brin yn rhan ucha’r chwarel dyma felly benderfynu ffurfio ponc yn Nant Dŵr Oer a chronni llyn yno. Hefyd gwnaed inclên i gysylltu’r bonc newydd â rhan ucha’r chwarel, er mwyn dod â’r deuynydd crai i lawr i’r bonc newydd. Codwyd cei trwy ganol Llyn Dŵr Oer i gysylltu troed yr inclên â‘r ‘peiriandy’ gan rannu’r llyn yn ddau.
Yn fuan ar ôl iddi gael ei sefydlu ym mis Mehefin 1885 daeth Cymdeithas Enweiriol y Cambrian i ddal yr hawl pysgota ar Lyn Dŵr Oer, hawl sydd wedi parhau hyd heddiw.
Llyn Newydd Dubach
Ar wyneb argae Llyn Newydd Dubach arferai bod llechen mewn ffrâm, ac wedi’i dorri arni, -
‘Built by the Craig Ddu Slate Quarry Company 1915’
Dyna’r flwyddyn, felly, pryd y codwyd yr argae ac y cronnwyd Llyn Newydd Dubach.
Llyn naturiol yw’r Hen Lyn Dubach. Fe’i dangosir ar fap 1846, a hynny flynyddoedd cyn bod sôn am ffurfio Ponc Dŵr Oer gan Gwmni Chwarel y Graig Ddu. Wedi ffurfio Ponc Dŵr Oer a chronni Llyn Dŵr Oer yn 1886, tynnid dŵr o Hen Lyn Dubach i Lyn Dŵr Oer. Roedd yna rediad tir naturiol o’r Hen Lyn i Ddŵr Oer.
Fel y tyfai Ponc Dŵr Oer cynyddai’r galw am ddŵr, a chodwyd argae ym mhen isaf Hen Lyn Dubach gan ei ehangu rywfaint. Yna, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918) penderfynwyd crynhoi holl waith cynhyrchu y chwarel ar Bonc Dŵr Oer. Ychwanegwyd melin newydd at y dair a oedd yno’n barod, ac i geisio sicrhau cyflenwad digonol o ddŵr ffurfiwyd Llyn Newydd Dubach yn 1915.
Gan fod Cymdeithas y Cambrian eisioes yn dal yr hawl pysgota ar yr Hen Lyn daeth Llyn Newydd Dubach hefyd i gael ei gynnwys ymhlith llynnoedd y Gymdeithas. Ers hynny mae aml i bysgodyn da wedi dod o’r Llyn Newydd.
Hen Lyn Bowydd - Llyn Newydd Bowydd
Yn ei lyfr, ‘Hanes Plwyf Ffestiniog’ (1882) mae gan Griffith John Williams y nodyn hwn ar Lyn Bowydd -
‘Yr oedd yma lyn bychan yn yr hen oesau, ond ehangwyd ef, er ei ddefnyddio at wasanaeth y chwarelau. Ciliodd y pysgod ohono, a rhoddwyd dynion ar waith i ddal rhai yn y llynnoedd eraill, a’u dwyn yno i’w ail-gyflenwi.’I ategu’r hyn mae G.J. Williams yn ei ddweud, sef fod ‘yma lyn bychan’, fe’i dangosir ar fap 1846, a’r enw arno yw ‘Llyn Bowydd’. Tynnid dŵr ohono gan Chwarel y Bowydd - ‘Chwaral Lord’ ar lafar - ar y dechrau. Fel y datblygai ac y tyfai y chwarel, ac fel y mecaneiddiwyd y diwydiant llechi, cynyddodd y galw am ddŵr i droi’r melinau a godwyd yno. Buan yr aeth y dŵr o Hen Lyn Bowydd, hyd yn oed wedi iddo gael ei ehangu, yn annigonol, a bu’n rhaid ffurfio cronfa arall, sef Llyn Newydd Bowydd. Dyma gofnod neu ddau ar y mater allan o Lyfr Cofnodion Chwarel y Foty a Bowydd (wedi eu cyfieithu) -
‘18 Ebrill 1883. Methwyd a gweithio’r chwarel am oddeutu hanner mis Mawrth oherwydd fod y cronfeydd wedi mynd mor isel, ac yna cael eu tagu gan rew. Does dim amheuaeth fod y cronfeydd yn annigonol i roi digon o ddŵr ar dymor sych, a bydd yn rhaid inni ystyried cael un arall ar unwaith. Mae y pedwar haf wedi bod yn rhai gwlyb, ac ym mhob un ohonynt mae ein cronfeydd wedi bod bron yn sych rywbryd neu’i gilydd.’Ymhen pum mis, ar y 27ain o Fedi 1883, ceir cofnod pellach-
(Cyfarfod o’r Bwrdd yn y Chwrael) 'Aethant i weld y gronfa newydd a ystyrid yn ychwanegiad sylweddol, ac a adlewyrchid yn ffafriol iawn ar Reolwr y Chwarel’.Y gronfa hon a ddaeth i gael ei galw’n Llyn Newydd Bowydd, er mwyn ei gwahaniaethu oddi wrth Hen Lyn Bowydd, a rhwng Ebrill a Medi 1883 y’i ffurfiwyd hi.
[lluniau- PW]
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon