16.4.15

Gwynfyd- Un wennol...

Mae erthyglau am fywyd gwyllt ein bro wedi ymddangos o dro i dro ers sefydlu Llafar Bro ym 1975. Ymddangosodd cyfres 'Gwynfyd' gan Paul Williams am dair, bedair blynedd yn y nawdegau. Dyma ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 1996, yn dathlu dyfodiad y gwanwyn.

Dyma yn bendant gyfnod gorau'r flwyddyn i mi. Mae'r cefn gwlad yn dechrau adfywio, ac ymwelwyr (nace, dim twristiaid!) yn dechrau cyrraedd eto.

Erbyn dyddiad cyhoeddi rhifyn Mawrth, yr oedd wyau llyffant wedi ymddangos mewn llawer o byllau, a gwelais glwstwr yn uchel iawn ar lethrau Moel Hebog. Erbyn cyhoeddi'r rhifyn yma, mae'n debyg y bydd cryn dipyn o wennoliaid wedi cyrraedd y fro; mae ambell aderyn unigol wedi ei weld ar yr arfordir ers canol Mawrth.

Gwennoliaid yn nythu mewn gweithdy yn Stiniog. PW

Y ceiliogod sy'n teithio cyntaf o'u safle gaeafu yn ne Affrica, gyda'r ieir yn dilyn, a dychwelant i'r un ardal bob blwyddyn. Mae'r adar yma yn treulio rhan helaeth o'r dydd yn yr awyr, ac felly un o'r golygfeydd rhyfeddaf ohonynt yw eu gwylio yn plymio dros wyneb llyn neu afon i yfed. Os cawn haf poeth a sych eto eleni, safle da i wylio hyn fydd Llyn Trawsfynydd: mae llwybr delfrydol ar draws argae Hendre Mur (rhwng y clwb cymdeithasol a chanolfan ymwelwyr yr atomfa) a enwir ar ôl un o'r ffermydd a foddwyd wrth greu y llyn yn y 1920au.

Hefyd yn cyrraedd yn ôl i'r ardal fydd gwennol y bondo, ac erbyn mis Mai, y wennol ddu, sydd yn debyg, ond ddim o'r un teulu.

Faint ohonom fydd wedi clywed y gog erbyn i hwn ymddangos dybed? Mi glywais ddeunod y ceiliog am y tro cyntaf ym 1995 ar Ebrill y 14eg yng Nghernyw.

Golygfa a'm plesiodd ym mis Mawrth oedd pâr o wyachod mawr copog yn eu plu haf yn cynnal 'dawns' paru ar lyn Traws. Treuliodd y ddau ugain munud yn nofio at eu gilydd tra yn ysgwyd eu pennau a siglo eu gyddfau o ochr i ochr, cyn i'r iar hedfan yn isel dros y dŵr a disgwyl i'r ceiliog ei dilyn, a dechrau'r ddawns eto.

Mae ceiliogod gylfinir wedi bod yn galw gyda'r nos ym mis Mawrth, uwch ben Heol Jones a Fron Fawr, i hawlio eu tiriogaeth. Dyma aderyn arall sydd wedi dioddef dirywiad oherwydd sychu tiroedd a phori mwy dwys; er enghraifft yn ôl yr RSPB, magodd 15 pâr ar y Migneint ym 1977, ond erbyn 1994 dim ond 7 pâr nythodd.

Taith ddifyr y mis yma fyddai i Gastell y Bere yn ne Meirionnydd. Ar y 25ain o Ebrill 1283, ildiodd y Cymry eu castell olaf i fyddin Lloegr ar ôl marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf. Gerllaw, mae Craig Aderyn, lle gwelir mulfrain (neu bilidowcars) yn clwydo cryn bellter o'r môr, ac hefyd cyfle i weld y frân goesgoch a'r hebog tramor.

Cofiwch hefyd, mai rwan, cyn i'r coed ddeilio yw'r amser gorau i weld adar eraill fel y gwybedog brith a'r tingoch.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon