PATAGONIA 150.
Cyfres achlysurol fydd yn ymddangos trwy'r flwyddyn, i nodi canrif a
hanner y Cymry yn y Wladfa. Dyma erthygl gan W.Arvon Roberts, o rifyn Chwefror 2015.
Ar 28 Gorffennaf, 1865, glaniodd mintai fach ond dewr o Gymry gwladgarol o fewn tiriogaeth Patagonia. Yr oeddynt wedi cyfarfod â thrallodion a phrofedigaethau, ond nid gwŷr i gael eu digaloni oeddynt.
Wedi mordaith faith dros y tonnau gwynion, yn cael eu symbylu i ddal yng ngwyneb pob gwrthwynebiad, mwynhâd i’w hysbryd gwrolfrydig oedd cyrraedd yr hafan, a adnabyddwyd fel Porth Madryn ar ôl hynny, er anrhydedd i’r Barwn Love Jones Parry, Madryn, Llŷn; un a fu’n archwilio’r wlad yn 1863.
O’u blaen ymestynnai cyfandir o wastadeddau maith. Ysgydwai y gwair hir o flaen yr awel wrth iddynt gyflymu eu camrau i fwynhau gwleddoedd bras bwrdd y dyffryn. Nid oedd yn y llennyrch llonydd hynny fawr o ôl traed gwareiddiad, nid oedd distawrwydd y fro wedi ei thorri ers bore byd, ond gan waedd march cyhyrog yr Indiaid brodorol. Er iddi ymddangos yn dywyll i’r fintai, ymhen deuddeng mis gwelid hwy yn cael eu cynorthwyo gan ragluniaeth, ac yn cynnal y cyntaf o’r hyn a elwid ar ôl hynny yn Ŵyl y Glaniad.
Eleni y mae’n ganrif a hanner ers yr achlysur hwnnw. Am flynyddoedd lawer ar ôl hynny fe fu sawl man yng Nghymru yn dathlu Gŵyl y Glaniad yn flynyddol.
Gydag eithriad 1884 hyd at ddegawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg o leiaf bu gŵyr Ffestiniog yn cynnal y glaniad mewn cof yn ddi-dor. Cynhaliwyd Gŵyl y Glaniad 1885 ar raddfa ehangach na’r arfer a chafwyd presenoldeb gŵyr mwyaf blaenllaw yn Ffestiniog. Am ddau o’r gloch, 28 Gorffennaf, yn un o ystafelloedd Coco, Sant Dewi, cynhaliwyd pwyllgor o gefnogwyr y sefydliad gyda’r Prifathro Michael D. Jones, Y Bala, yn y gadair a’r Parch D. M. Lewis, Trawsfynydd, yn cofnodi’r gweithgareddau.
Dyma grynodeb o’r pwyllgor hwnnw:
1. Cynigiodd Robert Pugh, Tŷ Capel Calfaria, a’i eilio gan Mr Roberts, meddyg anifeiliaid, Wrecsam, fod y pwyllgor mewn cysylltiad â Gŵyl y Glaniad yn Ffestiniog, o’r farn y byddai’n ddoeth i Lewis Jones ymweld â Phwyllgor Undeb y Chwarelwyr, gyda golwg ar wneud trefniadau i gyfeirio ymfudwyr i’r Wladfa.
2. Cynigiodd D. G. Williams Tanymarian, a’i eilio gan Edward Jones, Llwynygell, eu bod yn credu yn wyneb y llwyddiant a fu eisioes ar y Wladfa, ei fod yn amser i agor cymdogaethau newydd o fewn tiriogaeth y Camwy.
3. Cynigiodd Lewis Jones (o’r Wladfa) a’i eilio gan D. Merfyn Lewis, eu bod o’r farn fod rheidrwydd mawr am Swyddfa Wladfaol yng Nghymru, ac yn y Wladfa.
4. Cynigiodd R. Roberts, Wrecsam, a’i eilio gan Robert Jones, Manod House, Ffestiniog, eu bod yn cymhell ar y llywodraeth yn dymuno fod yna nawdd-dŷ cyfleus yn cael ei ddarparu ar gyfer ymfudwyr i’r Wladfa.
5. Cynigiodd T. Griffiths, Bangor, a’i eilio gan Llwyd ap Iwan, Bala, eu bod yn dymuno galw sylw at yr angen a deimlwyd yn y Wladfa am ddiwydiant yn arbennig gweithdai gwlad.
6. Cynigiodd Lewis Jones a’i eilio gan Llwyd ap Iwan fod y personau canlynol i’w penodi yn bwyllgor lleol, i weithredu yn y cysylltiadau gwladfaol: Meistri Robert Jones, Manod House; D. G. Williams, Tanymarian; Edward Jones, Llwynygell; Robert Pugh, Tŷ Capel Calfaria; Owen S. Jones, Pembroke House; E. Griffiths C.M. Glanypwll; R. Roberts, Wrysgan; John Hughes, Penygelli; G. Davies, Llanbedr; Asaph Collen, Francis Evans, Llan; O. Rowland Jones, Dorfil St; W. C. Williams, Beudymawr; William Thomas, Bethania; Owen Evans, Tanygrisiau; Griffith Jones, Penygelli.
Yn dilyn y pwyllgor mwynhawyd gwledd o ddanteithion yn yr un ystafell.
Nos Fawrth, 28 Gorffennaf, 1885, yn cyd-fynd â dathliad Gŵyl y Glaniad, cynhaliwyd darlith gan Hwfa Môn yng Nghapel Brynbowydd, ar ‘Y Dyn Ieuanc’, ac ychydig i ffwrdd o’r capel canai Lucas Williams ynghŷd â nifer o rianod o Gaerdydd, yn ystafelloedd yr Assembly; tra yr oedd Lewis Jones, yn Ysgoldy Jerusalem yn rhoi gwahanol ddisgrifiadau o’i Wladfa Gymreig, pryd y daeth nifer dda ynghŷd.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon