8.4.15

Sgotwrs Stiniog -Now Lord

Erthygl o'r archif. Y tro hwn pennod o golofn y diweddar Emrys Evans, a ymddangosodd yn rhifyn Tachwedd 2005.

Englyn – Pluen Sgota
Wrth fynd drwy rifynnau y flwyddyn 1931 o hen bapur wythnosol Stiniog, sef Y Rhedegydd, tarewais ar yr englyn yma i’r ‘Pluen Sgota’ yn un o rifynnau mis Medi.

       ’Cain ei gwedd, dal pysg wna’n gaeth, - gan sugn
        A swyn ei thwyll – weniaeth;
        Un ddel, chwyrn, o ddwylaw chwaeth,
        A delw o hudoliaeth.’

Tybed a oes rhywun yn gwybod am englyn, neu hyd yn oed gywydd sy’n disgrifio pluen sgota? Os oes, beth am eu rhannu gyda ni?

Hefyd, tybed pwy oedd J. Christmas Williams? Does dim yn ‘Y Rgedegydd’ i ddweud lle’r oedd yn byw, beth oedd ei waith, nac un dim amdano. Fedr rhywun ein goleuo ynglyn ag awdur yr englyn?

Pwt o Atgof
Mewn rhifyn [o 2005] o ‘Rhamant Bro’ sef cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, mae gan Keith O’Brien, Trawsfynydd, ysgrif ar ‘Hanes Llyn Trawsfynydd’. Adrodd y mae fel y boddwyd rhan o dir yr ardal a elwid yn ‘Gors Goch’ er mwyn creu y llyn. Yng nghorff ei ysgrif mae’n dweud hyn, ‘Byddai chwedlau sgotwrs di-ri yn bodoli am y pysgod anferth a drigai yn nyfnder pyllau y Gors Goch.’

Cyn creu y llyn bu Afon Prysor, ers cyn cof, yn dolennu ei llwybr drwy y Gors Goch cyn diflannu i lawr Ceunant Llennyrch. Dros y blynyddoedd cafniodd yr Afon Prysor byllau dyfnion a thywyll yn y mawndir. Yn y Gors Goch yr arferai trigolion Trawsfynydd a chodi mawn, hyn eto ers cyn cof, gan gludo beichiau ohono mewn cewyll i’w cartrefi. Dyna’r hyn a ddywedodd un o hen drigolion y Traws wrthyf.

Ond yr hyn a wnaeth darllen am y Gors Goch a phyllau dyfnion Afon Prysor ynddi i mi oedd fy atgoffa’n fyw iawn o rhywbeth a ddigwyddodd pan oeddwn i’n grwt yn Ysgol y Manod. (Yr hen Ysgol y Manod, wrth gwrs). Roedd hynny rywbryd yng nghanol y 1920au, cyn bo’r Gors Goch wedi diflannu o dan y dŵr.

Yn byw drws nesaf ond un i mam a nhad, yn y tŷ a elwir yn Llys Tegid yn Ffordd y Manod, yr oedd Owen Roberts a’i wraig, Gwen. Now Lord y gelwid ef ar lafar, a hynny am ei fod wedi bod yn gwneud gwaith meinar yn Chwarel y Lord am flynyddoedd. Dyna oedd enw-bob-dydd pobl yr ardal ar Chwarel Foty a Bowydd ers talwm.

Diddordeb pennaf Now Lord oedd pysgota, a physgota pry-genwair a wnai bron bob amser, boed yn yr afon neu yn y llyn. A doedd dim dwywaith amdani hi, yr oedd Now Lord yn gryn giamstar ar bysgota pry-genwair.

Now Lord yng nghwch Llyn Bach y Gamallt. Credir fod y llun wedi’i dynnu yn y 1920au cynnar.
Yng ngardd-gefn ei gartef yn Llys Tegid, yng nghysgod coeden gwsberis, roedd twmpath o bridd, digon diniwed yr olwg, wedi tyfu’n las drosto. O’r golwg yng nghanol y twmpath yr oedd casgen bowdwr fach o’r chwarel wedi’i chladdu a llechen gron ar ei gwyneb, ac yna clwt o dywarchen ar honno. Doedd yna mo’r awgrym lleiaf y tu allan o’r hyn a oedd o’r golwg yn y twmpath pridd. Yr adeg hono mewn casgenni bach y deuai y powdwr du i’r chwareli ar gyfer y gwaith o dynnu’r llechfaen o’i wely. Yn rhyw dri-chwarter lenwi y gasgen bach yr oedd migwyn, ac wedi ymgladdu yn hwnnw yr oedd rhai cannoedd o bryfaid genwair, yn gwau drwy’i gilydd. Felly, pan geid llif sydyn yn yr afon, neu pan godai awydd i fynd ar sgiawt i ryw lyn neu’i gilydd am sgodyn, roedd yna gyflenwad parod ar gael o hoff abwyd pysgota Now Lord.

Dyna a ddigwyddod drwy ddydd Sadwrn diwedd mis a dim gweithio’n Chwarel y Lord, pryd yr aeth Now Lord i Drawsfynydd ac i’r Gors Goch i bysgota’r Afon Prysor. Rhywbryd cyn swper y diwrnod hwnnw roeddwn i’n digwydd bod yn stwna gwneud rhywbeth neu’i gilydd o flaen tŷ mam a nhad pan ddaeth Gwen Roberts o’i thŷ, ac meddai wrthyf, gan fynd heibio imi, “Dos i weld y pysgod y mae Now wedi eu dal.”

Ar drot eis innau i Lys Tegid a thrwy’r drws a oedd yn llydan agored ac i’r gegin. Ar ganol y bwrdd yr oedd plât cig, y mwyaf a oedd yn y tŷ, yn eithaf sicr, ac arno ddau bysgodyn – brithyllod – yn llenwi’r plât, gyda’u pennau a’u cynffonnau dros ei ymylon.

Yn y gadair freichiau  wrth ochr y tân eisteddai Now Lord, ei wyneb main yn grychau fel y gwenai arnaf, a rhyw olau bodlon braf yn ei ddau lygaid tywyll, fel y cofiaf. Syllais innau’n geg agored ar y pysgod. Doeddwn i erioed yn fy mywyd wedi gweld rhai cymaint.

Ma hwna,” meddai Now Lord, wedi imi fod yn rhythu arnynt am ysbaid, gan gyfeirio at y mwyaf o’r ddau bysgodyn, “yn bum pwys a chwarter. Ac mae’r llall bron iawn yn bum pwys.

Gyda’r gwaith ar y gweill o greu llyn yn y Gors Goch yn mynd rhagddo, dal ar y cyfle a wnaeth Now Lord i roi ei bryfaid genwair yn rhai o byllau dyfnion Afon Prysor a oedd yno cyn bo’r cyfle i wneud hynny wedi darfod am byth. Ac ohonynt, denodd a bachodd, a chael i’r dorlan ac i dir sych y ddau larp o sgodyn a oedd ar fwrdd cegin Llys Tegid, ac a barodd i bawb a’u gwelodd i ddotio ac i ryfeddu at eu maint, eu graen a’u lliw.

Felly, fe oedd yna wir yn y ‘chwedlau sgotwrs di-ri’, y mae Keith O’Brien yn cyfeirio atynt yn ei hanes difyr am greu Llyn Trawsfynydd. Diolch iddo am godi rhyw bwt o atgof fel yna i’r wyneb.




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon