Wrth chwilota yn archif Prifysgol Bangor rhyw ddydd, mi ddois ar draws y darn isod, gan W. Barnes, yn y cylchgrawn Archaeological Journal, 1856 (t.287).
“I might here, in speaking of the British people, caution antiquaries against the too hasty conclusion that bits of charcoal found thinly scattered in the up-dug soil must be traces of body cremation, as among the British, as early, at least, as the 6th century, a fire was kindled in March to clear the ground of scrub & other such growth. It was called Tân Goddaith 'scrub fire', or tân mawr, 'the great fire'. By the laws of Hywel Dda, a fine was set for the kindling of the scrub fire at any other time than between the middle of March and the middle of April, and that the scrub fire was in use in the 6th century is shown by a line of a poem of Llywelyn Hen, who says that the onset of the men was like the scrub fire on the hill:
-Rhuthr goddaith ar ddiffaith vynydd.”Y Llywelyn Hen uchod mae’n debyg oedd Llywelyn Goch ap Meurig Hen, y bardd llys o Feirionnydd (tua 1330 – 1390) a ysgrifennodd ‘Marwnad Lleucu Llwyd’.
Dro arall, dois ar draws y bennill isod yng ngherdd ‘Y Llwynog’, o’r un cyfnod, gan Dafydd ap Gwilym (1320 - 1370):
Goddaith a roi’r mewn eithin,
Gwanwyn cras, mewn gwynnon crin
Anodd fydd ei ddiffoddi
Ac un dyn a'i hennyn hi.
O'r gair 'goddaith' y daw'r gair 'goddeithio/gydeithio' a ddefnyddid gennym dros y cenedlaethau ym Mhenmachno am losgi eithin crin, rhedyn a glaswellt, ac ati ym misoedd y gaeaf. Dyna, yn ddi-os yw tarddiad y gair 'creithio' sydd mewn defnydd yn 'Stiniog hefyd.
Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn cydnabod bod cydeithio mewn defnydd ar lafar yn y gogledd ond ddim yn cynnwys creithio. Mae’r GPC hefyd yn rhoi enghreifftiau eraill o ddefnydd hanesyddol, gan gynnwys un o Lyfr Coch Hergest, tua 1400:
Kalan gayaf llwm godeith.
Un o 1672 gan Rees Prichard am y pla yn ymledu trwy’r wlad:
Ac fel gwaddaith ar sych fynydd,
Yn gorescyn ei holl drefydd.
Mae Iolo Morgannwg hefyd yn son yn 1829 (Cyfrinach Beirdd Ynys Prydein) am y:
Mellt yn goddeithio gelltydd.
Ar ôl sawl noson o losgi o amgylch ‘Stiniog, yn hytrach na goddeithio –dwi’n gobeithio, er mwyn yr adar a’r gwasanaeth tân, ein bod wedi gweld diwedd ar yr arfer am flwyddyn arall.
Lluniau o Gefn Trwsgl a Ben Banc Fron Fawr, gan PW, Pasg 2015.
Ystyr gwynnon gyda llaw ydi crawcwellt, neu wair hir sych.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon