4.4.15

O'r Archif - Atgofion Troad Canrif


Cyhoeddodd Cymdeithas Llafar Bro lyfr  'Pigion Llafar 1975-1999' er mwyn dathlu'r milflwyddiant. Mae'r erthygl isod yn un o'r 'pigion' hynny, yn trafod troad y ganrif cyn hynny. Ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Mawrth 1979.


Stiniog yn y ganrif ddiwethaf
Atgofion W. M. Jones, Prestatyn
Tuag adeg yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Blaenau (1898) yr oeddwn yn byw yn 1 Stryd Dorfil, a chofiaf am y llu ceffylau yn tynnu coed a pholion trymion iawn i adeiladu’r tent mawr.  Fe’i codwyd lle mae’r Forum heddiw.

Credaf mai erbyn 7 o’r gloch y bore y byddai’r chwarelwyr yn mynd at eu gwaith, ac yn Y Sgwâr corn yr Oakeleys a glywem bob dydd.  Yn yr ysgol ‘Hogia’r Gors’ y gelwid ni, gan mai craig a chors fawn oedd lle mae’r Sgwâr heddiw.  Byddai corn yr Oakeleys yn canu dair gwaith bob awr – y gyntaf i ddweud y byddai saethu; yna'r saethu; a’r corn olaf i ddweud ei bod yn glir.

Adeg dod adref tua phump dyna olygfa hardd, megis gorymdaith – chwarelwyr yr Oakeley a’r Llechwedd yn llanw’r ffordd a’r orymdaith yn parhau am tua ugain munud neu well.  Roedd y mwyafrif ohonynt mewn trowsusau ffustion, côt ddu a het bowler; eraill mewn melfared – ond pawb ag esgidiau hoelion trwm.   Ambell i greigiwr â chap clustiau, a channwyll frwyn wedi’i stwffio i dwll yn y cap.  Ar ddiwrnod glawog gwelid aml i chwarelwr yn cario llechen o’r maint mwyaf o’i flaen er arbed gwlychu gormod ar ei odrau.  Roedd eraill â’u crysau yn agored a’r frest yn noeth er mwyn dangos mor ffit yr oeddynt.

Ar ‘dâl mawr’ byddai’r chwarelwyr yn setlo’u cownt pen mis ar y maes ger yr Hall.  Yno y cyfarfyddai y ddau bardner twll a’r ddau bardner injan.  Y diwrnod arbennig hwnnw byddai’r lawnt o flaen Siop yr Hall yn llawn o stondinau er teimtio’r chwarelwyr i wario.  Cof hefyd am y car chips cyntaf a ddaeth i’r Blaenau.  Eidalwr, wrth gwrs, oedd piau’r busnes a gosodai ei gert bob amser wrth lle mae Siop y Glorian heddiw.  O Siop y Glorian i lawr hyd at lle mae’r Orsaf Dân heddiw, stablau wyf yn gofio yno ac yn un o’r stablau yma y cedwid yr elor-freichiau drom.

Ar adegau neilltuol byddai ‘rialiti’ mawr – fel y Relief of Mafeking (Rhyfel y Boer), diwrnod Jiwbili y Frenhines Victoria a.a.y.b.  Llosgid casgen pitch ar ben y mynydd uwchben Blaenau, a byddai ffrwydriadau yn y chwareli a fireworks yn y dre.
Mr Dodd oedd Prifathro y County School, a chofiaf i blant yr ysgol honno adrodd weithiau:
Mr Dodd is very odd,
He goes to Church on Sunday
To pray to God
To give him a rod
To whip the boys on Monday.

Un tawel iawn oedd Mr Dodd, ac ar y Sul mynychai Gapel Calfaria lle chwaraeai’r organ.

Daw adeg y Diwygiad i gof hefyd – 1904-5 – a gorymdaith i lawr Church Street a chyfarfod wedyn yng Nghapel Brynbowydd.  Roedd y cyfarfod yn mynd ymlaen hyd at ddeg o’r gloch y nos; y math o gyfarfod oedd yn edrych ar ei ôl ei hun.  Byddai pobl yn mynd ymlaen i’r Sêt Fawr heb i neb eu cymell. Un peth od iawn i mi yr adeg honno oedd clywed Sais ar y llaw chwith yn y galeri yn gweddio yn Saesneg, ac yn gofyn i Dduw i ‘Bless the Welsh people.’

Yn ystod y cyfnod yma beiciodd cyfaill a minnau i gyfeiriad y Penrhyn, ac wrth Caerfali pwy ddaeth i’n cwrdd mewn horse and trap ond Evan Roberts, y Diwygiwr.  Nid oes gennyf gof o’r gyrrwr, ond arhosai Evan Roberts gyda Mr Ellis yn Penmount, Llan.  Tirfeddiannwr oedd Ellis ac ef oedd perchennog Chwarel Diffwys – neu o leiaf ran go helaeth ohoni.  Twrnai oedd wrth ei alwedigaeth.

Adeiladwyd Capel Maenofferen, y Church Hall, Capel Gwylfa a’r Neuadd Gynnull yn Llan yn y cyfnod yma.  Roedd y capeli’n orlawn a meinciau yn cael eu cario i mewn er mwyn cael lle i ragor o bobl – yn enwedig i gyfarfod pregethu.

Yr oedd y Band of Hope yn boblogaidd iawn yr adeg yma.  A dyna ichi ‘Y Demel’ ar ddydd Sadwrn yn Jeriwsalem.  Bu’r Capeli o fantais fawr i blant yr ardal.  Heblaw’r addysg Feiblaidd gaed, fe ddysgid cerddoriaeth, canu lleisiol, adrodd a sgwennu traethodau.

Bu perfformiad da iawn yng Nghapel Seion, Lord Street, o Gantata’r Adar (Joseph Parry).  Gwelais fedydd hefyd yn y Capel hwn, a’r gweinidog cyntaf a gofiaf yno yw’r Parch Cefni Jones.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon