Darn o'r archif y tro hwn: rhan o erthygl gan Ellen Maiden (Ephraim gynt), Southampton, a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2014.
Pan fydda i’n gweld rhaglenni ar y teledu am ffermwyr heddiw, gyda phob arf a’r peiriannau diweddaraf sy’n gwneud eu gwaith gymaint ysgafnach nag oedd i ffermwyr saithdeg mlynedd yn ôl, byddaf yn cofio mor galed y byddai ffermwyr bychain yn gorfod gweithio.
Adeg cynhaeaf gwair, byddai fy nhad yn codi’n fore iawn – tua phedwar o’r gloch y bore – yna, ar ôl bwyta ei frecwast, yn syth â fo i’r cae gwair, i dorri darn go fawr o’r cae efo pladur. Wedyn byddai’n rhaid rhedeg am y trên gweithiwrs, a cherdded wedyn i chwarel yr Oclis.
Pwrpas torri’r gwair mor gynnar yn y dydd oedd i’r haul gael cyfle i’w sychu. Ar ôl dod adref tua phump o’r gloch, ac ar ôl cael pryd o fwyd sylweddol, byddai fy nhad yn ei ôl yn y cae gwair yn torri eto.
Lle hynod o gymdogol oedd Pant Llwyd yn y tri degau, a byddai fy Mam yn cael help gan ddwy gymdoges i droi’r rhesi o wair yn fydylau. Yna trannoeth ar ôl haul poeth, byddent yn gwneud “rhenci” o’r gwair. Cofiaf yn dda, pan oeddwn tua deuddeg oed, yn helpu yn y cae yn troi y rhenci, a dyma ufflwm o lyffant mawr du yn neidio ataf! Teflais fy nghribin. Sgrechiais. Chwim iawn oedd fy ymadawiad o’r cae gwair y diwrnod hwnnw, a hyd yn oed heddiw mae gennyf ofn llyffantod.
Byddai’n rhaid i’r gwair fod yn hollol sych cyn mynd â fo i’r das. Byddem ni’r plant yn cael llawer o hwyl wrth neidio yn y das, er mwyn sathru’r gwair i lawr.
< Dyma lun o fy nhad, William Ephraim gyda Goronwy, yr ieuengaf o’m chwe brawd, yn mynd â llwyth o wair i’r das, gyda Polsan, y ferlen fynydd (c.1936)
Yr oedd yna ffermwyr eraill yn yr ardal oedd yn gweithio yn y chwarel yn ogystal â ffarmio – sef Robat Griffith Roberts Tŷ Nant y Beddau, Wil Haf (William Evans) Llety Gwilym, a Dafydd Price, Tŷ’n Ffridd.
Un ‘dda-at ei byw’ oedd fy Mam. Byddem yn rhentu darn go lew o dir tu ôl i’r cartref. Yn ogysal â’r cae gwair (tua dwsin o aceri) roeddem hefyd yn rhentu ychydig o aceri yn ychwanegol. ‘Roedd gennym dair neu bedair o wartheg, dwy hwch fagu; tua deugain o ieir; a rhyw hanner dwsin hwyaden ac un ferlen mynydd.
Byddai fy mam hefyd yn codi’n fore iawn – hi oedd yn godro’r gwartheg. Yna byddwn i yn mynd i fyny ac i lawr Pant Llwyd ddwy neu dair gwaith hefo piseri o lefrith cynnes, yn syth o’r fuwch. Na, nid oedd yna’r ffasiwn beth â ‘Iechyd a Diogelwch’ yn y tri- a’r pedwar degau! Ar ôl i bawb gael eu llefrith, yna byddwn yn rhedeg am y trên i fynd i’r Ysgol Sir (Ysgol y Moelwyn heddiw).
Byddwn yn helpu Mam ar fore Sadwrn wrth garthu’r cwt ieir, a’r ddau gwt mochyn. Cofiaf yn dda y tro cyntaf y gwelais fôr o foch bach (tua 12 i 14 ohonynt yn cael eu geni – mor lân – fel sidan pinc!). Byddem yn gwneud menyn trwy gorddi hefo’r fuddai – gwaith reit galed ac am amser reit hir nes byddai fy mreichiau yn brifo; er y byddai Mam yn cymeryd trosodd reit aml! Wrth gwrs, adeg rhyfel oedd hyn, felly ‘roedd y menyn yn werthfawr iawn achos, os ydwyf yn cofio yn iawn, dim ond dwy owns o fenyn y pen fyddem yn gallu ei brynu o’r siop.
Cefais swllt a chwech am lanhau’r cytiau a’r corddi – pris sêt yn y Forum neu’r Park ar nos Sadwrn. Pan oeddwn yn chwarae hoci hefo’r ysgol, yna, wrth gwrs, nis gallwn wneud y dyletswyddau hyn ar ddydd Sadwrn. (Ac yr oedd gwneud hyn ar fore Sul allan o’r cwestiwn!)
Rhyw ddwywaith y flwyddyn, byddem yn lladd un o’r hychod fagu. Cofiaf fel petai ddoe fel y byddai Dafydd Jones, Ysgubor Hen, yn dod acw ar ei foto beic i wneud y weithred waedlyd. Byddwn yn diflannu i waelod Llan ond, serch hynny, byddwn yn dal i glywed yr hen hwch druan yn sgrechian. Anodd iawn oedd cerdded adref y noson honno, a hyd heddiw pur anaml y byddaf yn bwyta cig moch.
‘Roedd fy Mam yn gogyddes dda iawn, a byddai yn cymeryd archebion am frôn, pwdin gwaed, traed moch ac yn y blaen. ‘Roedd ein cartref yn hynod o brysur am ddyrnodiau wedyn. Byddai’n halltu pedair coes yr hwch, a’u rhoi i hongian o’r nenfwd am fisoedd wedyn (ond nid i mi!).
Edrychaf yn ôl ar y blynyddoedd hapus a dreuliais ym Mhant Llwyd pan yn blentyn gydag atgofion melys am yr Ysgol Sul, a’m cyfeillion annwyl bore oes – cyfeillion sy’n dal i gadw cysylltiad cynnes – er gwaethaf y pellter sydd rhyngom.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon