6.4.15

Stiniog a'r Rhyfel Mawr- Newid Cymdeithasol

Vivian Parry Williams yn parhau'r gyfres sy'n cofnodi canmlwyddiant y rhyfel mawr. Ymddangosodd y darn yma'n wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2014.

Daeth y gyflafan erchyll â newidiadau mawr i'r fro, fel i bob ardal arall trwy Brydain ac Ewrop. Mewn cymuned fel Blaenau Ffestiniog, gwelwyd newid mewn sawl ystyr. Gadawodd effaith gweld cymaint o'i dynion ifainc yn ymuno â'r fyddin ei farc ar ffordd o fyw arferol y plwyf.
 

Caewyd y rhan fwyaf o chwareli'r cylch dros gyfnod y rhyfel, oherwydd diffyg gweithwyr, a hefyd oherwydd diffyg archebion am y cynnyrch. Effeithiai hynny ar economi'r ardal gyfan, a chan fod nifer o ddynion ifainc yn gwasanaethu gyda'r lluoedd arfog, bu'n rhaid i lawer o deuluoedd orfod wynebu tlodi enbyd.

Er i'r Blaenau gael ei hystyried yn dref gymdeithasol, hyd yn oed yn y cyfnod hwnnw, nid hawdd oedd ceisio cynnal yr un gweithgareddau ag arfer, am resymau amlwg. Gohiriwyd a chanslwyd nifer o ddigwyddiadau diwylliannol a chymdeithasol, a oedd wedi bod yn rhan o fywyd y fro cyn y rhyfel. 

Effeithiwyd ar weithgareddau'r Seindorf Arian Frenhinol Oakeley, wrth i nifer o'r offerynwyr ymrestru â'r fyddin. Cafwyd ambell adroddiad i'r band gael 'benthyg' offerynwyr o fand Llan 'Stiniog, tra ar orymdaith recriwtio, neu achos tebyg, o dro i dro. 

Achosodd rhai o ymgyrchoedd recriwtio'r rhyfel ddrwgdeimlad ymysg ambell garfan o'r boblogaeth, wrth i rai dynion gael esgusodiad rhag gorfod ymrestru i'r fyddin. Wrth i bropaganda’r rhyfel greu ymdeimlad gwladgarol, yn yr ystyr Brydeinig, rhoddid pwyslais ar y trigolion i ddangos eu teyrngarwch i'w gwlad a'u brenin. Byddai elfen o gywilyddio'r rhai nad oeddynt wedi ymrestru yn rhan annatod o fywyd y cyfnod, a swyddogion recriwtio'n cael eu penodi o blith y werin-bobl i annog bechgyn ifainc i ymuno â'r fyddin. Yr argraff a geir, wrth ddarllen adroddiadau o ddigwyddiadau oedd yn ymwneud â'r rhyfel yn ardal 'Stiniog, fod mwyafrif y trigolion yn gefnogol i'r rhyfel.


Byddai'r holl ystrydebaeth ryfelgar a siaradwyd gan ffigurau cyhoeddus o lwyfannau'r dref wedi bod y ffactor tuag at drwytho'r werin-bobl â'r ysbryd hwnnw. Felly hefyd anogaeth pregethwyr, a oedd yn amlwg yn anwybyddu'r cyntaf o'r deg gorchymyn, yn galw ar fechgyn ifainc i ymrestru i ladd cyd-ddyn. Roedd y cyfan wedi ei gynllunio i gyflyru meddyliau'r bobl ei bod yn rhyfel gyfiawn.

Yr oedd colli oddeutu 300 o ddynion ifainc 'Stiniog a'r cylch ar feysydd y brwydro, yn golled enfawr yn nhermau diwylliannol ac ieithyddol i ardal mor Gymreig â Chymraeg a 'Stiniog. Lle bu cymaint o bwyslais ar grefydd, a mynychu lleoedd o addoli, gwelir gostyngiad graddol yn niferoedd aelodau'r capeli dros y blynyddoedd.  Priodolir hyn i ddadrithiad nifer o'r milwyr a fu'n rhan o'r rhyfel, a llawer ohonynt wedi colli ffydd wedi dychwelyd o'r gyflafan.


Ond er y newidiadau hynny, fe welwyd sawl achos o ysbryd cymunedol ar ei orau, wrth i bobl glosio at ei gilydd, fel ym mhob adeg o argyfwng. Mewn tref sy'n adnabyddus am ei chydweithio a'i chymwynasau, sefydlwyd nifer o gymdeithasau brawdgarol yn y Blaenau dros gyfnod y rhyfel. Cafwyd sawl enghraifft o grwpiau ac unigolion yn mynd ati i weu a gwnïo dillad ar gyfer milwyr a chlwyfedigion y rhyfel. Sefydlwyd canghennau newydd o'r Groes Goch ac Ambiwlans St Ioan yma, ynghyd â chymdeithasau elusengar eraill yn y plwyf.



[Pabi gan Lleucu Gwenllian]



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon