25.4.15

O’r Pwyllgor Amddiffyn

Newyddion y pwyllgor amddiffyn, o rifyn Ebrill:

Mae’r wythnosau yn llithro heibio ac mae llawer ohonoch yn gofyn, mae’n siŵr, be sy’n digwydd rŵan, o ganlyniad i’r refferendwm? Falla’ch bod chi’n meddwl bod y Pwyllgor Amddiffyn wedi mynd i gysgu! Ond mae hynny ymhell o fod yn wir.
Er gwybodaeth ichi , felly.

°      Mae’r Gweinidog Iechyd a’r Betsi wedi derbyn neges y bleidlais yn glir iawn, unwaith eto, yn ogystal â derbyn adroddiad ar y cyfarfod a gafwyd ar Chwefror 27ain efo Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

°    Ddydd Iau, Mawrth 12fed, aeth tri chynrychiolydd o’r Pwyllgor Amddiffyn i gynhadledd arbennig yn Dolfor yn y canolbarth; cynhadledd wedi ei threfnu gan y Gweinidog Iechyd oedd hon, fel ymateb uniongyrchol i Adroddiad yr Athro Marcus Longley ar gyflwr gwasanaethau iechyd yng nghefn gwlad Cymru. (Bydd llawer ohonoch yn cofio mynychu’r cyfarfod a drefnwyd gennym efo’r Athro Longley yn Neuadd y WI llynedd ac i rai ohonoch fanteisio ar y cyfle i sôn wrtho am eich profiadau anffodus chi, neu aelod o’ch teulu, yn dilyn cau’r Ysbyty Coffa. Erbyn heddiw, fe wyddom fod yr hyn a glywodd yr Athro Longley y pnawn hwnnw wedi gadael cryn argraff arno a’i fod wedi cynnwys ei bryderon am yr ardal hon yn ei adroddiad terfynol.)

°    Nid yn amal y mae rhywun yn cael achos i ddeud gair o blaid y Gweinidog Iechyd ond rhaid gneud hynny rŵan am iddo ymateb mor gadarnhaol i’r argymhellion yn Adroddiad Longley trwy alw’r Gynhadledd. Yn honno, fe gawsom gyfle i wrando ar nifer o arbenigwyr gwâdd o bob rhan o Brydain (ac un o Michigan yn yr Unol Daleithiau!) yn sôn am ddulliau o ddarparu gwasanaeth iechyd effeithlon mewn ardaloedd gwledig.

°    Gan ein bod ni’n gwybod ymlaen llaw na fyddai cyfle inni drafod problemau’r ardal hon ar lawr y Gynhadledd, yna fe aethom ag arddangosfa o bosteri dwyieithog efo ni. Pwrpas y posteri  hynny oedd tynnu sylw, eto fyth, at anghenion yr ardal yma, sef yr ardal a elwir yn ‘Ucheldir Cymru’, a chyflwyno achos dros sefydlu “cynllun peilot”, efo Ysbyty Coffa Ffestiniog yn ganolog iddo; cynllun arbrofol a allai ddangos y ffordd ymlaen wedyn i ardaloedd eraill yng nghefn gwlad Cymru. (Fel y digwyddodd pethau, roedd ein posteri ni’n awgrymu rhywbeth oedd yn rhyfeddol o debyg i’r hyn yr oedd y siaradwyr gwâdd i gyd yn ei argymell.)

Y posteri yn cyflwyno achos dros sefydlu’r Ysbyty Coffa fel canolbwynt i’r gwasanaethau iechyd yn Ucheldir Cymru
 (gyda diolch i Mr Tom Brooks)
Y cam nesaf inni rŵan fydd ceisio dwyn perswâd ar Mr Drakeford a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ystyried y cynllun yma o ddifrif, fel ffordd ymarferol allan o’r twll y maen nhw ynddo, bellach. (Er enghraifft, fe wyddom fod trefnu meddygon ‘locum’ i ddod yma i Stiniog bob diwrnod yn costio ffortiwn i’r Betsi! Ac o sôn am y meddygon rheini, mae’r cwestiwn yma yn codi’i ben – O gofio cymaint sydd wedi cael ei ddeud gan hwn ac arall dros y ddwy flynedd ddwytha am yr anhawster i ddenu meddygon i’r  rhan yma o’r wlad, yna sut ar y ddaear bod meddygon ‘locum’, drud iawn i’w cynnal, mor hawdd cael gafael arnyn nhw rŵan?)

°    Un ffordd o roi pwysau ar y Gweinidog Iechyd ac ar y Betsi i fabwysu ein syniadau yw trwy ennill cefnogaeth y Cyngor Iechyd Cymunedol (CIC). Felly, ar Ebrill 20fed, bydd cynrychiolwyr o’r Pwyllgor Amddiffyn yn rhoi cyflwyniad i aelodau’r CIC yng Ngwynedd a Chonwy, ac yn trefnu cyfarfodydd mor fuan â phosib hefyd efo’n cynrychiolwyr yn San Steffan ac yn y Senedd yng Nghaerdydd i geisio’u cefnogaeth hwythau.

Gobeithio eich bod, fel ardalwyr, yn cytuno mai cadw’r pwysau arnyn nhw ydi’r unig ffordd ymlaen.   
................

Newyddion cythryblus yn ein cyrraedd yn hwyr
Ydach chi’n cofio’r Betsi ac aelodau’r Bwrdd Prosiect bondigrybwyll, lai na dwy flynedd yn ôl, yn canmol eu syniad gwych i gyflogi tîm o arbenigwyr - yr Intermediate Care Team - a fyddai’n gofalu am gleifion yn eu cartrefi, fel bod dim angen dod â gwlâu yn ôl i’n Hysbyty Coffa? Ac oeddech chi’n gwybod bod tîm o dri wedi cael eu penodi i neud y gwaith hwnnw, sef un nyrs brofiadol Band 6, un ffisiotherapydd ac un nyrs gyffredinol?

Ond rŵan, gesiwch be? Erbyn i’r rhifyn hwn o Llafar Bro ymddangos, fydd y tîm yma ddim mewn bod mwyach! Pam? Wel oherwydd bod y nyrs Band 6 a’r ffisiotherapydd yn cael eu symud oddi yma i Ysbyty Alltwen, i fod yn rhan o ryw gynllun newydd yn fan’no!

Mae’r wybodaeth yn aneglur hyd yma ond does dim dwywaith nad mynd o ddrwg i waeth y mae’r sefyllfa yma yn Stiniog. Ydi o’n ormod gofyn i’n cynrychiolwyr lleol ar y Bwrdd Prosiect edrych i mewn i’r sefyllfa a dangos eu dannedd am unwaith?
 GVJ


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon