Cyfres o erthyglau yn edrych ‘nôl ar gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Darn y tro hwn gan W. Arvon Roberts, Pwllheli. Ymddangosodd fersiwl lawnach yn rhifyn Gorffennaf 2013:
Parchedig Owen R. Morris (1828-1912)
Mab Ty’n Ddôl, Blaenau Ffestiniog, a anwyd 18 Gorffennaf, 1828, oedd Owen E. Morris. Ei rieni oedd Robert Morris (g.25 Rhagfyr, 1800, yn Sofl y Mynydd, Ffestiniog – m. 27 Mai, 1871, yn Blue Mounds, Wisconsin); ac Elinor Morris. Un o’i berthnasau oedd y Parch. R.R. Morris, a fu’n weinidog yn y Tabernacl (MC), Blaenau Ffestiniog, awdur yr emyn ‘Ysbryd byw y deffroadau ...’
Yn fachgen ieuanc bu Owen R. yn gweithio fel chwarelwr, ac yna yn 1849 ymfudodd gyda’i deulu i’r Unol Daleithiau. Wedi taith faith a helbulus ar fôr a thir cyrhaeddodd odrau’r Blue Mounds, Wisconsin, yn haf yr un flwyddyn. Roedd eisoes wedi bwrw ei brentisiaeth yng Nghymru, pan adeiladodd Ysgoldy Tanygrisiau. Ar ôl iddo gyrraedd Wisconsin, adeiladodd ddau gapel newydd, un yn Blue Mounds a’r llall yn Bristol Grove, Minnesota.
Yn Hydref 1851 priododd Owen â Catrin, gwraig weddw gydag un mab ganddi. Ganwyd iddynt hwythau bedwar o feibion. Bu Catrin farw 28 Mehefin 1895, yn 79 mlwydd oed. Ar 23 Chwefror 1897, ail-briododd Owen R. eto â gwraig weddw, sef Elizabeth Lewis, a anwyd yn Llanuwchllyn.
Derbyniwyd Owen R. Morris yn aelod o Gymanfa Wisconsin, a gynhaliwyd yn Dodgeville yn 1863, ac fe’i ordeiniwyd yn y dref honno yn 1866. Symudodd o Blue Mounds i Bristol Grove, Minnesota yn 1868, a phrynodd gannoedd o aceri o dir da, oedd ar lannerch nodedig a dymunol.
Gwasanaethodd ar yr achos Presbyteraidd Cymraeg yn Lime Springs, Iowa am rhai blynyddoedd gan ofalu'r un pryd am gapeli Cymraeg Bristol Grove a Foreston, yn Minnesota ac Iowa.
Ymwelodd â Chymru yn 1882-83 a bu’n teithio’r de a’r gogledd yn pregethu. Ar ei daith yn ôl i’w gartref yn yr Unol Daleithiau, bu’n pregethu yn nhaleithiau Efrog Newydd a Vermont. Blwyddyn cyn ei farw cafodd ddihangfa gyfyng pan aeth tŷ Thomas, ei fab, ar dân. Yn y drychineb, llosgodd ei farf, a deifwyd cydynau ei wallt gwyn. Ar wahân i’w Feibl, Llyfr Emynau, ei ffon, a chadair a gafodd yn anrheg gan Gapel Bristol Grove, collodd bopeth arall.
(Llun o gasgliad yr awdur).
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon