26.4.15

Stolpia -dilyn sgwarnog

Rhan o golofn reolaidd Steffan ab Owain, o fis Mai 2006.

Yr Ysgyfarnog Wen

Hoffwn sôn ychydig am yr ysgyfarnogod gwyn a gyflwynwyd i’r cyffiniau hyn a’r ardaloedd cyfagos lawer blwyddyn yn ôl.

Wel, ar ôl chwilio’r gist, cefais hyd i’r hanesyn yma amdanynt. Gobeithio y bydd o ddiddordeb. Gyda llaw, codwyd ef o golofn Byd Natur gan Llew Evans - a ymddangosodd yn ‘Y Cymro,’ ar y 7fed o Fawrth, 1952. Dyfynnaf ychydig ohono:

"Sgwarnog Wen:  Mae brîd o ysgyfarnogod ar fynyddoedd Eryri sydd yn troi eu lliw yn wyn yn ystod y gaeaf.
Mae y math hwn yn gyffredin iawn ar fynyddoedd uchel yr Alban, ac oddi yno y cafwyd rhai i’w gollwng ar stad Arglwydd Penrhyn ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, ond nid ydynt wedi cynyddu rhyw lawer er hynny.
Nid dyma’r hanes cyntaf sydd gennym am y sgyfarnog wen. Roedd yn adnabyddus yn ardal Ysbyty Ifan, Llyn Conwy, Y Gamallt a’r Arenig ers ymhell dros gan mlynedd.

Glas neu laslwyd yw eu lliw yn ystod misoedd yr haf, ond tua diwedd Medi, mae eu blew yn dechrau gwynnu, ac erbyn diwedd Hydref neu ddechrau Tachwedd, maent yn hollol wyn-  ag eithrio blaen y glust sydd yn parhau yn ddu trwy’r flwyddyn.
Mae’r newid yn ôl o’r wisg wen i’r wisg haf yn digwydd ddiwedd Mawrth i ddechrau Ebrill, tra bo’r anifail yn bwrw ei flew. Cymer hyn lai o amser.
Nid yw’r ysgyfarnog wen gymaint â’r ysgyfarnog frown ac y mae ei chlustiau yn fyrrach. Ychydig iawn o gig sydd arni. Mae’n denau bob amser, felly, nid yw fawr o werth i’r bwrdd cinio. Y mae hyn yn naturiol, gan ei bod yn byw ar fwyd caled y mynydd trwy’r flwyddyn."
Er fy mod i wedi crwydro dipyn ar hyd  mynyddoedd y cyffiniau hyn a thu hwnt, ac wedi gweld pob math o anifeiliaid ac adar dros y blynyddoedd, ni allaf ddweud imi erioed weld yr ysgyfarnog wen.

Tybed a ydynt wedi hen ddarfod o’r tir yn y rhannau hyn o’r wlad?  Byddai’n braf cael clywed oddi wrthych os ydych wedi gweld un rhywdro.
--------------

Ôl-Nodyn gan PW, Ebrill 2015:

O edrych yn ôl trwy'r rhifynnau a ddilynodd, ddaeth dim ymateb i gais Steffan, felly dyma ychydig o wybodaeth cryno iawn:

Ysgyfarnog fynydd ydi'r enw safonol Cymraeg am y mountain hare (Lepus timidus), sy'n gynhenid i ardaloedd o ucheldir Yr Alban, Iwerddon, a Lloegr, ond nid Cymru. Mae'n rywogaeth gwahanol i'r sgwarnog Ewropeaidd a welir yng Nghymru. Fyddai'r sgwarnogod gwyn a gyflwynwyd i Eryri ddim wedi medru magu efo'r boblogaeth frown felly.

Trwy gyd-ddigwyddiad, ysgrifennodd Twm Elias erthygl (nid yn Llafar Bro) yn yr un mis am sgwarnogod, gweler wefan Llên Natur*. Dyma ddywed Twm:
"Ar fynyddoedd y Carneddau yng ngogledd Eryri y gwelwyd hi ddiwethaf – ond ni welwyd hi yno ers y 1970au, felly mae’n debyg ei bod hi wedi gorffen erbyn hyn."
Mae o hefyd yn cyfeirio'n helaeth at gysylltiad sgwarnogod â'n chwedlau a'n llenyddiaeth ni yng Nghymru.

* Dyma ddolen i Llên Natur. Rhowch "ysgyfarnog" yn y blwch chwilio a thicio 'Pethau Byw' er mwyn gweld erthygl Twm Elias.

Llun o sgwarnog fynydd yn ei chôt aeafol (wedi'i stwffio) dan drwydded Wikimedia Commons.








No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon