28.4.15

Merêd

Mae llawer iawn o deyrngedau wedi eu cyhoeddi i Meredydd Evans yn y wasg Gymreig a thu hwnt. Roedd yn braf gweld Merêd yn cael cydnabyddiaeth y byd canu gwerin trwy Brydain o'r diwedd hefyd, wrth i Wobrau Gwerin Radio 2 gyflwyno gwobr 'Good Tradition' er cof am ei gyfraniad amhrisiadwy, yr wythnos diwethaf.

Ail-gyhoeddwyd erthygl gan Merêd yn rhifyn Ebrill Llafar Bro; erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol fel rhan o'r gyfres 'Ar Wasgar' yn y nawdegau, gan bobl Bro Ffestiniog oedd wedi symud i bedwar ban y byd. Fel sy'n amlwg o ragair gwreiddiol Paul y golygydd, bu'r erthygl ar goll yn y post, ond roedd yn werth aros amdani!

Isod hefyd mae darnau a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2015.

Ar Wasgar
Hyfryd yw cael cynnwys cyfraniad Meredydd Evans i’r golofn hon wedi methiant y Post Brenhinol fis yn ôl i gysylltu Cwmystwyth a Maentwrog; (hyn ar adeg pan maent yn ystyried symud adnoddau dosbarthu llythyrau gogledd Cymru dros Glawdd Offa i Gaer!)
Nid oes angen cyflwyniad i’r awdur; mae Merêd wedi cyfrannu sawl gwaith i’r papur hwn, ac wedi arddel ei gariad tuag at ei filltir sgwar erioed.  ‘Roedd yn awyddus i ‘sgwennu eto, a bu’n barod iawn i yrru ail copi o’i erthygl i’r Llafar er gwaethaf y post!!  Diolch.

- - - - - - - -

‘Mi gewch ddewis pa bwnc fynnwch chi’ oedd geiriau y golygydd pan ofynnodd imi am gyfraniad i Llafar Bro.  A dyna fyd cyfan yn agor o ‘mlaen i.  Ond mae’n bosib cynnig gormod o ddewisiadau i ddyn fel na wyr y truan sut i ddewis yn gall.

Wel, pawb at y peth y bo, a sylwais fod Bruce wedi dilyn trywydd tafodiaith yr hen ardal – yn olau a difyr, fel bob amser.  Mae o’n gwirioni ar eiriau ac ymadroddion.  Rydw innau’n mopio ar hen ganeuon ac i’r cyfeiriad hwnnw y carwn i fynd rwan, at un gân arbennig y mae iddi gysylltiadau clos â Stiniog.

Gan ddechrau yn y fan sy’n gwbl naturiol i mi sef aelwyd Bryn Mair yn Nhanygrisiau.  Ar yr aelwyd gynnes honno clywais fy mam droeon yn canu pwt o bennill a alwai hi yn ‘Si hwi hwi’.  Yn ddiweddarach dwedodd wrthyf iddi godi’r pwt cân ar ei chlust o glywed W.O. Jones (Eos y Gogledd) yn canu sawl pennill o’r gân gyfan.  Eithr y cyfan a gofiai hi oedd y pennill cyntaf a ‘doedd hi ddim yn siwr ei bod hi wedi cael hwnnw’n berffaith gywir ar ei chof.

Roedd yn llygaid ei lle; rhan o’r pennill yn unig a lynodd wrthi ond byddai ei chlywed yn canu hwnnw yn fy nghael i bob tro.  Daeth y darn pennill yn rhan ohonof ac ymhen y rhawg, minnau erbyn hynny wedi fy nal gan y swyn sydd mewn dilyn trywydd hen ganeuon, darganfum fod i’r gân gyfan gysylltiadau agos â’r henfro.

Bu’r canwr ei hun yn byw yma ar wahanol adegau o’i fywyd.   Yn gynnar yn ei yrfa bu’n ddisgybl yn ysgol elfennol Tanygrisiau ac am gyfnodau yn weithiwr yn chwareli Cwmorthin a Maenofferen cyn dod yn amlwg ymhellach ymlaen fel cerddor, datgeiniad gyda’r delyn, cyfansoddwr a beirniad eisteddfodol yn Ne a Gogledd Cymru.  Bu farw’n drigain oed yn 1928 a chladdwyd ef ym Mynwent Bethesda.  Fel ‘Wil bach West End’ y siaradai pobl Tanygrisiau amdano ond cofiaf i mi cael cerydd llym gan Miss Annie Roberts, Ysgol y Cownti ‘stalwm pan gyfeiriais at hynny mewn rhaglen radio un tro.  Roedd hi, chwarae teg iddi, am imi gadw at urddas yr ardal wrth gyfarch dieithriaid.

Un o Gongl-y-wal oedd y bardd a luniodd y gerdd y llwyddodd fy mam i gyflwyno rhan ohoni i’w phlant (fe’i ganwyd o yn 1819) a phennawd llawn y gerdd honno oedd ‘Noswaith olaf y Gaethes Ddu a’i Phlentyn’; gyda’r ymadrodd ‘Si hwi hwi’ yn cael ei adrodd deirgwaith drosodd ar ddechrau pob pennill.  Ei enw oedd Rowland Walter, a’i ffugenw Ionoron Glandwyryd.  Bu yntau’n chwarelwr ond cefnodd ar hynny tua’r flwyddyn 1852 a hwyliodd i fyw i’r Mericia lle bu farw yn Fairhaven, Vermont, yn 1884, wedi iddo yn ystod ei oes gyhoeddi rhai cyfrolau barddonol, un ohonynt yn cynnwys cerdd a ddaeth yn boblogaidd iawn ymysg ei gyfoeswyr:  ‘Bedd fy Nghariad’.

Daeth adeg pan oeddwn yn awyddus i gael gafael ar y gerdd gyflawn am y Gaethes Ddu a bum yn ddigon ffodus i ddarganfod, tua 1973, fod mab i W.O. Jones, gŵr o’r enw Arthur Wyn Jones, yn byw yn Y Bermo.  Pan lwyddais i gysylltu ag o bu’n ddigon caredig i anfon copi imi o’r gân fel y cenid hi gan ei dad.  Bu cystal hefyd a chofnodi ar y copi hwnnw gyfeiliant piano a arferai ei chwarae wrth gyfeilio i’w dad.  Bellach ‘does ond un ffaith arall ynglyn a’r gân y dylwn ei nodi sef bod ei halaw yn amrywiad ar un o’n ceinciau Cymreig traddodiadol hyfrytaf, ‘Morfa Rhuddlan’.

A dyna’r cylch yn gyflawn.  Pwt o gân ar aelwyd yn nauddegau’r ganrif yn syrthio’n daclus i’w chyd-destun cyflawn hanner canrif yn ddiweddarach a bardd a chanwr o ‘Stiniog yn ganolbwynt i’r cyfan.

Apêl am gymorth wrth gloi.  Sawl nos Sadwrn, ar y bws olaf, a minnau’n llanc o siopwr, clywais rai o gynheiliaid y tafarnau yn canu cân am filwr yn trengi ar faes y gad.  Mae’r alaw wedi aros hefo mi ond y cyfan a gofiaf am y geiriau oedd fod un o’r penillion yn cloi fel hyn:

Neithiwr cefais ganddi gusan,
Cusan cwsg oedd cusan mam.
A bwrw bod un o ddarllenwyr hyn o lith yn digwydd gwybod y geiriau i gyd byddwn yn hynod o ddiolchgar pe gallai eu danfon imi i Afallon, Cwmystwyth.  Dyna lle y ceir fi, bellach, ar wasgar!
[Rhifyn Chwefror 1998]
 
------------------------------
Hawlfraint y llun- Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cymdeithas Cyfeillion Ysgol y Moelwyn
Gyda thristwch y clwysom y newydd am y Dr. Meredydd Evans.  ‘Roedd yn Llywydd Anrhydeddus y Cyfeillion a phob amser yn gefnogol iawn i’r gymdeithas.  Bu’n haelionus ac ymroddgar er y cychwyn cyntaf ac ni fethodd ‘run cyfarfod erioed. 
Byddai ganddo bob amser air pwrpasol i’w ddweud ac roedd yn hynod o annwyl gyda’r disgyblion pan oeddynt yn dod i dderbyn y wobr.
Er ei fod yn enwog iawn mewn sawl maes, nid oedd dim mawreddog o’i gwmpas – ‘roedd yn un o hogia Stiniog ac yn hynod falch o Ysgol y Moelwyn a’r hyn oeddynt yn ei gyflawni ym myd addysg ac yn y gymuned.
Mae Cymru wedi colli un o’i cewri a bydd yn anodd iawn llenwi’r bwlch.  Danfonwn ein cyd-ymdeimlad llwyraf at Phyllis, Eluned a’r teulu yn eu colled.

O Golofn Tanygrisiau:
Dr Meredydd Evans 1919-2015
Ganwyd y Dr Meredydd Evans yn Llanegryn, Meirionnydd, mab ieuengaf i Charlotte a Richard Evans.  Mered Bryn Mair, oedd y gŵr i ni, yn Nhanygrisiau. Yma yn Nhanygrisiau y’i magwyd, ychydig fisoedd oed oedd o pan ddaeth y teulu yma i fyw. Gydag anwyldeb y galwai cyfoedion Mered yn Macdon.  Credir mai Actiwr neu Gantor o Sgotyn oedd y Macdon gwreiddiol.  Pam y gelwid Mered yn Macdon nis gwn.

Fel aelod o Gôr Plant Tanygrisiau, canu ac actio a chymryd rhan mewn cyfarfodydd ac eisteddfodau ac yn y blaen oedd ei bleserau.  Gweithiai yn y Coparet a byddai yn dal i gofio rhifau y cwsmeriaid, rheiny oedd yn byw yn Nhanygrisiau gydol yr amser.  Byddai yn eu cyfarch yn aml a’r rhif.  Aeth i Goleg Clwyd a wedyn i’r Brifysgol ym Mangor, a graddiodd yn uchel iawn.  Daeth yn enwog tra yn y Coleg, fel un o Driawd y Coleg, a difyrwch oedd gwrando arno yn dweud, sut y bu iddo gyfansoddi rhai o’r caneuon.  Er Enghraifft ‘Hen Feic Pennyfarthing fy Nhaid’. Tra yn trafeilio un diwrnod, ar y bws rhwng Bangor a Thanygrisiau, gwelodd ŵr oedrannus ar ei feic, a dyna weddill y trafeilio yn mynd i gyfansoddi.

Yr oedd yn storiwr di-ail, ac mi oedd ganddo ystôr ohonynt, fel yr adeg pan oedd yn byw yn America ac yn cael prawf gyrru, aeth braidd yn chwithig, ond y Sheriff yn gadael iddo gael yr hawl i yrru modur am fod y Sheriff wedi bod yn yr awyrlu yn y Fali, Sir Fôn.

Gwybu pawb ei fod yn brotestiwr diflino, ond cofiaf fy merch hynaf yn dweud pan oedd hi a Mered yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd iddo ddweud wrthi ei fod newydd anfon llythyr o ddiolchgarwch i Lundain i ryw adain o’r fyddin i ddiolch iddynt am roddi arwyddion Cymraeg ar adeilad o’u heiddo yn un o strydoedd Caerdydd a meddai wrthi “Mae’n rhaid protestio weithiau, ond mae yn braf cael diolch hefyd.”

Cafodd ei ddymuniad o fynd i Gwmorthin pan yn gwneud y rhaglen ‘Portread’. Yr oedd wrth ei fodd; ac wrth ei fodd wedyn cael mynd i Gaffi’r Llyn, lle y cyfarfu a rhai o deuluoedd a adnabu ac yn falch bod rhai o’r teuluoedd yn dal i fyw yn yr ardal.

Pythefnos yn ôl rhoddodd ganiad ar y ffôn.  “Fedri di ddweud wrtha i,’ oedd ei ble, eisiau gwybod pwy oedd gwraig rhywun.  Byddaf yn colli y galwadau unigryw yma.

Tristwch ac annodd yw meddwl am un mor fywiog wedi llonyddu, un mor ffraeth wedi distewi.  Cydymdeimlwn fel ardal â Phyllis, Eluned a John a’r teulu i gyd.  Distawodd y gân yn naear Cymru ond ‘Bydd canu yn y Nefoedd’.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon