22.4.15

Geiriau Coll

Erthygl fer o rifyn Ionawr 2005:

Gyda threigl amser a gyda’r newid byd, fe aeth llawer o ddywediadau a geiriau ar goll yn yr ardal hon fel ag mewn sawl ardal arall.

Er enghraifft, pwy o blant 'Stiniog, erbyn heddiw, sy’n gwybod mai rhywun digywilydd iawn ydi’r un a gaiff ei gymharu i ‘wagan gynta’r run’?

Neu mai rhywun wedi gneud llanast o betha ydi’r un sydd ‘wedi gyrru’r wagan dros ben doman’?

Llun PW

Neu bod ‘cael pen bar’ yn gyfystyr â chael ail, neu faglu trwy flerwch?

Roedd rhain i gyd yn ddywediada-pob-dydd rai blynyddioedd yn ôl, pan oedd bri ar y chwareli.

Gair cyffredin arall ers talwm, ond un na chlywais ei ddefnyddio ers tro byd bellach, oedd ‘wàs’. Yn yr ardal yma, mi fyddai’n arferol cyfarch ffrind neu gydnabod trwy ofyn ‘Sut wyt ti, wàs?’ Mae ystyr hen iawn i’r gair, yn tarddu o ‘gwas’ yn golygu ‘gŵr ifanc’ (nid y Saesneg ‘servant’, sylwer!). Doir ar ei draws yn eitha amal yn chwedlau’r Mabinogi, er enghraifft. Yr un gair yn union yn ei darddiad ydi’r ‘wâ’ (‘Sut wyt ti wâ?’) sy’n dal ar dafod leferydd pobol y Bala, a’r ‘washi’ (< ’ngwas i) a geir o hyd yn Sir Fôn.

Chwith meddwl ein bod ni, yn yr ardal yma, wedi colli gafael arno.

A be am rywbeth fel ‘Sut wyt ti ers talwm, ’achan’? Neu’r ebychiad ‘Achan, achan!’ i fynegi syndod? Mae hwn, wrth gwrs, yn tarddu o’r gair ‘fachgen’ ond erbyn heddiw mae yntau hefyd yn prysur farw o’r tir.


A be am ‘stèm’ a ‘hanner stèm’ am ddiwrnod neu hanner diwrnod o waith?
Oes geiria neu ddywediada eraill i chi’n ffeindio’u colli? Os oes, yna cyfrannwch i’r golofn.
[Neu yn wir, erbyn heddiw yn 2015, gallwch yrru sylwadau yma i'r wefan, neu i'n tudalen Gweplyfr/Facebook]






No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon