24.4.15

Llên Gwerin

Erthygl o rifyn Mawrth 2006 gan Nesta Evans, yn adrodd ar benwythnos difyr iawn ym Mhlas Tanybwlch.

Dyro Gân i Mi
Dyna oedd teitl y Cwrs Llên Gwerin a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mhlas Tanybwlch. Braf oedd cyfarfod ffrindiau a gwneud rhai newydd yn ystod y cwrs, a hynny o fewn ffiniau croesawus y Plas.

Eleni, mae Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn gant oed, a chynhadledd ar y cyd rhwng Plas Tanybwlch a Chymdeithas Llafar Gwlad i dynnu sylw at benblwydd Cymdeithas Alawon Gwerin oedd hwn. Roedd hoelion wyth y Gymdeithas yno a chawsom wledd wrth wrando arnynt.


I ddechrau’r cwrs ar nos Wener, ‘Canrif y Gân’ oedd darlith Dr. Rhiannon Ifans, Penrhyn Coch, Cadeirydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Mwynhawyd y ddarlith hon yn fawr, gyda phersonoliaeth hyfryd, diymhongar y darlithydd yn cyfrannu’n fawr at y cynnwys.

Fore Sadwrn, daeth un arall o hoelion wyth y Gymdeithas atom, sef Mrs Buddug Lloyd Roberts, Cricieth. Ei thestun hi oedd John Morris – casglwr cynnar o fro Ffestiniog. Wrth gwrs, roedd y ddarlith hon yn apelio’n fawr ataf, a diddorol oedd clywed amdano yn chwilio ac yn casglu rhai o’r alawon gwerin hyfrytraf megis ‘Lliw gwyn rhosyn yr haf’ ymhlith tua hanner cant a gasglwyd ganddo. Diddorol oedd ei glywed yn darlithio ac yn canu ar dâp o eiddo Mrs Roberts. Pleser prin hefyd oedd gwrando arni hi ei hun yn canu dwy alaw werin inni a’i llais yn dal yn hyfryd i wrando arno.

Yna cawsom ddarlith ddiddorol gan Myrddin ap Dafydd ar y teitl ‘Geiriau newydd, hen fesurau’, pan drafododd Myrddin eiriau newydd a gaiff eu cyfrif yn nhraddodiad alawon gwerin – mae hyn eisoes wedi digwydd gyda rhai penillion mwy diweddar.

Ar ôl cinio blasus aeth Twm Elias â ni i Sarn Meillteyrn ac yno yn ein disgwyl yn y neuadd hardd roedd y ddau frawd, y Parch Emlyn Richards a Harri Richards – sgwrs gan un a chanu baledi, rhai hen ac ambell un ar eiriau gan Gruffydd Parri gan y llall. Te bendigedig gan ferched caredig Sarn ac yn ôl i fwyta cinio blasus eto!

I orffen nos Sadwrn daeth Twm Morus gyda’i delyn fechan a’i gitâr, a’i destun oedd ‘Tw rym di ro radi rwdl idl ol’. Roeddem yn siomedig na chanodd fwy ar y delyn, ac na chwaraeodd y gitâr o gwbl! Cas ganddo eiriau’r testun sydd yn ei dyb yn difetha aml i alaw werin, a chred mai geiriau llenwi a chwareuid gan wahanol offerynnau oedd y geiriau rhain un waith.

Fore Sul, roeddem yn ôl eto, i wrando ar Dr Rhidian Lewis, Aberystwyth, yn trafod ‘Alawon ac Emynau’ – darlith feistrolgar oedd yn dangos dylanwad y naill ar y llall. Pleser oedd ei glywed ef yn canu’n hyfryd a’r gynulleidfa wrth ei bodd yn ymuno.

Siwgwr a Halen’ oedd testun y ddarlith olaf gan y cymeriad hynaws Gwilym Morris o Lanufydd. Eto, cyfrannodd personoliaeth hynaws y darlithydd hwn at ddarlith a roddodd fwynhad arbennig i ni a bu canu gydag o hefyd.

Rhy fuan o lawer, fe orffennodd! A dyno fo y cwrs drosodd am flwyddyn arall. Soniwyd am lawer enw cyfarwydd i ni megis Bob Roberts Tai’r Felin, a Merêd a Phyllis wrth gwrs – dau a wnaeth gyfraniad gwerthfawr dros ben. Wrth sôn amdanynt hwy eu dau, cofiaf fynd i Theatr Ardudwy gyda Mary, fy ffrind, flynyddoedd lawer yn ôl i wrando ar Merêd a Phyllis yn canu. Nid anghofiaf hwy’n canu ‘Tra Bo Dau’ – gallaf eu clywed wrth ‘sgwennu hyn!

Cyn gorffen, hoffwn som am Benja Williams. Pwy oedd o? Wel, hen-daid i Mary (Parry) sef taid ei mam. Clywodd John Morris ef yn canu hen alaw i fabi bach yn ei freichiau yng ngardd gefn ei gartref, sef drws nesa i gartref John Morris yn y Manod. Roedd Dr John Lloyd Williams o Brifysgol Bangor wedi siarsio’r myfyrwyr i chwilio am hen alawon yn eu hardal. Clywodd yr hen ŵr yn canu am hwyaid ar y llyn, ac aeth ato i ofyn iddo ei chanu ei mwyn iddo gael ei chofnodi. Yr eilwaith y canodd yr hen wr hi nid oedd y geiriau’n union run fach – peth cyffredin iawn. Benja Williams a’i cychwynodd ar ei gasglu gan ei annog i fynd i weld rhai eraill y gwyddai ef amdanynt yma ac acw yn yr ardal. I mi, mae’r alawon rhain yn drysorau sy’n swynol dros ben – weithiau’n drist (halen) ac weithiau’n hapus (siwgr) fel bywyd, fel y dywedodd Gwilym Morris yn ei ddarlith. Mae’n hynod bwysig cofio am lafur y casglwyr a’r rhai sy’n cynnal y Gymdeithas heddiw.

Gan fod gennym sianel Gymraeg buaswn wrth fy modd petai rhaglen neu raglenni yn cael eu dangos yn ystod blwyddyn can mlwyddiant y Gymdeithas Alawon Gwerin i nodi’r ffaith ac i roi mwynhad i lawer ohonom. Beth amdani S4C?


[Lluniau PW]
---------------------------------

Ôl-nodyn:
Erthygl arall -o 1975 gan Merêd- am y casglwr alawon John Morris, i ddilyn (Trem yn ôl- Y Gŵr Diwyd).

Erthygl gan Ffion Mair am y gân 'Lliw gwyn rhosyn yr haf ', yn fan hyn.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon