31.3.15

Stiniog a'r Rhyfel Mawr -recriwtio

Vivian Parry Williams yn parhau'r gyfres sy'n cofnodi canmlwyddiant y rhyfel mawr. Ymddangosodd y darn yma'n wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2015.

Rhan Lewis y Gloch yn yr ymgyrch recriwtio

Yng ngholofn newyddion lleol Blaenau Ffestiniog, 14 Tachwedd 1914, cyhoeddodd Y Rhedegydd fod nifer dda o’r dre’ wedi ymuno â ‘byddin Kitchener’, gyda Mr Lewis Davies, yn swyddog recriwtio. Ychwanegwyd fod wyth o ddynion ifainc eraill yn mynd i Rhyl, am ymarferion gyda’r North Wales Comrades Brigade. Roedd y mwyafrif ohonynt yn weithwyr yn chwareli Foty a Bowydd a Maenofferen. Adlewyrchir yr ysbryd a fodolai ymysg y chwarelwyr, a’r cwmniau a weithient iddynt yn y dyfyniad isod. Gwelir hefyd feddylfryd gohebydd y papur:

"Dywed fod cwmni Maenofferen yn rhoddi 2/6 yr wythnos i bob dyn ieuanc, a 5/- i/r gwyr priod a ymunent a’r fyddin. Rhagorol iawn, Mae swn ymuno i’w glywed yn fwy o lawer y dyddiau hyn".

Roedd gohebydd Y Genedl Gymreig yn orfoleddus ei eiriau yn rhifyn 17 Tachwedd o'r papur. Roedd hefyd, yn amlwg, yn gefnogwr brwd i'r swyddog recriwtio lleol. Yng ngholofn newyddion Ffestiniog, meddai:

"Llawenydd oedd deall, ddechrau'r wythnos, fod adfywiad wedi cymeryd lle yma mewn RHESTRU MILWYR. Ddydd Mawrth, anfonodd Mr Lewis Davies, Shop y 'Gloch', wyth o fechgyn glandeg a chyhyrog i ffwrdd..."

Gŵr busnes o'r dref oedd Lewis Davies y swyddog recriwtio hwnnw, ac yn berchennog siop ac argraffwyr Y Gloch, papur wythnosol oedd yn cystadlu â'r Rhedegydd am gylchrediad ar y pryd. Fe'i penodwyd yn swyddog recriwtio dros ardaloedd Blaenau Ffestiniog a'r cylch, a Thrawsfynydd, ym Medi 1914, yn lle R.Gwynedd Jones, a fyddai ond wedi gwneud y gwaith am gyfnod byr iawn. Daeth y cyfrifoldeb am recriwtio yn ardaloedd Penrhyndeudraeth, Talsarnau a Llanfrothen dan ei adain yn 1915. Ond yn dilyn y Ddeddf Gorfodaeth Filwrol, a ddaeth i rym yn Ionawr 1916, daeth ei orchwylion fel swyddog recriwtio i ben.

Yn Hydref 1916, cafodd ei benodi, ynghyd ag R.E.Roberts, Llanuwchllyn, yn  Ddirprwy Gynrychiolydd Milwrol ar Dribiwnlys Gwledig Penllyn. Byddai ei ddylanwad ar y penderfyniadau i anfon, neu atal apelwyr yn erbyn gorfodaeth yn dal i fod yn bellgyrhaeddol. Dyrchafwyd ef yn lifftenant yn fuan, ac oherwydd "ei lwyddiant anarferol fel swyddog a chynrychiolydd milwrol", chwedl adroddiad o'r wasg, gwnaed ef yn gapten yn Hydref 1917. Oherwydd hynny, roedd ganddo'r hawl i wisgo gwisg milwrol yn rhinwedd ei swydd.
   
Oherwydd ei ran yn anfon nifer o fechgyn ifainc i'w tranc ar faes y gad, ni fyddai Lewis Davies wedi bod yn ddyn poblogaidd yn yr ardal. Gweler y dicter amlwg mewn cerdd ddychan, ddeifiol a ysgrifenwyd ar y pryd am ŵr arall o Lanuwchllyn, oedd yn gwneud gwaith tebyg yn yr ardal honno. Mae brith gyfeiriad at Lewis Davies, Y Gloch yn y gerdd, a gyfansoddwyd gan Caradog Rowlands, Tŷ'n Llechwedd, Llanuwchllyn. Ceir nifer o enghreifftiau ym mhapurau newyddion y cyfnod o'r drwgdeimlad a fodolai rhwng teuluoedd y sawl a anfonwyd i'r fyddin, yn groes i'w hewyllys, ac aelodau'r tribiwnlysoedd, a swyddogion megis Lewis Davies a’i fath. Mae geiriau cerdd Caradog Rowlands yn cyfleu'r casineb oedd yn bodoli tuag at y swyddogion hynny i'r dim.

Rwy'n hynod ddiolchgar i Beryl Griffith, ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Meirionnydd, am ddod o hyd i'r gerdd, ac anfon copi ata'i. Ychwanegodd Beryl y geiriau canlynol o eglurhad imi: "Pen Gwaliau ydi'r rhan o Lanuwchllyn sydd o gwmpas y Neuadd Bentref. Fe gollodd Caradog Rowlands, awdur y gerdd, ddau frawd, a hanner brawd yn y rhyfel, a bu'n rhaid iddo yntau wynebu tribiwnlys ei hun."  Ond 'does dim gwybodaeth a orfodwyd ef ymuno â'r fyddin a'i pheidio.

1917-18. Palas Pen Gwalia', Llanuwchllyn

Mae Palas ar ben Gwaliau
A bradwr ynddo'n byw.
Pen ffrind y Gloch  a'r diafol,
Pen blaenor uffern yw.

Mae genau uffern heddiw
Yn agor gyda ffydd,
I lyncu'r hwn sy'n ennill
Ei bymtheg swllt y dydd.

Edrychwch bobol annwyl
Mewn difrif ar ei fab,
Fe ddylai yntau roddi
Ei fywyd dros ei wlad.

Mae'n hawddach iddo fyned
Na neb o fewn y wlad,
A rhoddi'r siop yng ngofal
'Rhen satan sef ei dad.

Ni fynnwn y fath sothach
I'w gyrru i ffwrdd mor slei,
Cydunwn bobol annwyl
I'w wneud o yn fins pei.

Rhown ben ar fradwr Uwchllyn
Nac oedwn ddim yn hwy,
A chodwn tano fechgyn
I yrru'r diawl o'r plwy'.

Ni welwyd y fath anifail
Mi ddwedaf un o gant
All fod mor galon galed
A gwerthu gwaed ein plant.

Mae melltith yn dy enw,
A hefyd yn dy waith,
Rwyt wedi troi yn Jiwdas
I'th ardal, dyna'r ffaith.

Rwyt wedi bod yn llyfnu
Wrth dwyllo'r truan tlawd,
Doi dithau i dribiwnal
Rhyw ddydd a ddaw, 'rhen frawd.

Bydd barnwr ar ei orsedd
O fewn y Nefoedd  wen,
A'r ddedfryd arnat tithau
Fydd uffern dros dy ben.

Ganed Lewis Davies yn Llandanwg, ger Harlech yn 1872, a bu iddo symud i Flaenau Ffestiniog rywdro cyn 1891. Cofnodir ef ar ystadegau cyfrifiad y flwyddyn honno fel printer, ac yn lojio yn Stryd Glynllifon. Bu iddo sefydlu busnes argraffu'r Gloch yn y dre' ychydig wedyn, gan gyhoeddi'r papur wythnosol, ynghŷd â chyhoeddiadu eraill. Profodd alar trist ei hun pan fu ei ferch chwe mlwydd oed, Megan, farw yn ystod cyfnod y rhyfel, ar 27 Mai 1917. Collodd ei fab John hefyd, ac yntau ond 29 oed, ar 26 Mehefin 1936. Ymhen cwta dwy flynedd, ar 23 Mai 1938, yn 66 oed, ymunodd Lewis Davies gyda'i ddau blentyn yn y bedd ym mynwent Bethesda, Blaenau Ffestiniog. Claddwyd ei wraig, Laura yn yr un beddrod ar 13 Awst 1961, a hithau'n 85 oed. Erbyn heddiw, mae'r garreg fedd wedi'i dymchwel, ac yn gorwedd ar ei gwastad, yn ddiseremoni ymysg y cerrig eraill.  Anodd iawn yw darllen yr arysgrif arni bellach, ac enw Lewis Davies, Y Gloch, y gŵr blaenllaw a fu'n gyfrifol o anfon rhai cannoedd o feibion, brodyr a gwŷr i wynebu eu tynged ar faes y gad, fel y cof amdano, bron a diflannu'n llwyr erbyn hyn.



Llun o fedd Lewis Davies gan VPW

[Pabi gan Lleucu Gwenllian]


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon