14.3.15

O'r Pwyllgor Amddiffyn -Canlyniad Ysgubol y Refferendwm

Canlyniad y Refferendwm (neu’r ‘Pôl Cymunedol’) a gynhaliwyd ar Chwefror 19eg:
Nifer a bleidleisiodd - 1,695
Nifer o blaid – 1,688
Nifer yn erbyn - 5
Nifer pleidleisiau a ddifethwyd - 2.


52% o’r etholaeth wedi bwrw pleidlais, sef y canran uchaf erioed mewn unrhyw refferendwm o’r fath!

A 99.6% o’r rheini yn bendant o blaid ychwanegu gwlâu i gleifion, gwasanaeth mân anafiadau ac adran pelydr-X at unrhyw gynlluniau sydd gan y Bwrdd Iechyd ar gyfer yr Ysbyty Coffa.

Be nesa, felly? Gan mai cyfrifoldeb y Cyngor Tref oedd trefnu’r bleidlais a chyfrifoldeb y Cyngor Sir oedd ei gweithredu hi, yna eu dyletswydd nhw, rŵan, ydi dwyn pwysau ar y Bwrdd Iechyd i gymryd sylw o’ch dymuniadau chi. Ond ochr yn ochr â nhw, mi fydd y Pwyllgor Amddiffyn hefyd, wrth gwrs, yn llythyru at y Betsi ac at Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd, ac yn ceisio trefnu cyfarfod efo nhw, gynted â phosib, i wyntyllu’r sefyllfa.
Cododd hynny'n gynt na’r disgwyl, ar y 12fed o Fawrth, mewn cynhadledd yn Dolfor yng nghanolbarth Cymru; cynhadledd i drafod cyflwr y gwasanaeth iechyd yn ucheldir Cymru ac yn yr ardaloedd cefn gwlad; cynhadledd wedi ei threfnu gan Drakeford ei hun fel ymateb i’r argymhellion yn Adroddiad yr Athro Marcus Longley. (Byddwch yn cofio inni drefnu i’r Athro Longley ymweld â ni yn ôl ym mis Gorffennaf a bod nifer ohonoch chi wedi siarad yn rymus iawn yn y cyfarfod hwnnw a’ch bod chi, yn amlwg, wedi gadael cryn argraff arno.)

Sut bynnag, bu cynrychiolaeth o’r Pwyllgor Amddiffyn yn y gynhadledd, lle'r oedd swyddogion y Betsi a byrddau iechyd eraill yn bresennol, yn ogystal â’r Gweinidog Iechyd ei hun, wrth gwrs. Fe rown adroddiad yn rhifyn Ebrill Llafar Bro ar sut aeth pethau yno. Un bwriad gennym oedd creu arddangosfa (posteri a.y.y.b.) ar gyfer y gynhadledd er mwyn tynnu cymaint o sylw â phosib at gyflwr truenus y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig i’r cylch yma ers i’r ysbyty gau.

Er nad oedd pobol Gellilydan/Maentwrog na Thrawsfynydd yn rhan o’r refferendwm, eto i gyd mae cynghorau cymunedol y plwyfi hynny wedi addo llythyrau o gefnogaeth lwyr i’r ymgyrch, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am hynny ac am eu cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd.

Ac yn olaf, diolch o galon hefyd i’r postmyn hynny a fu’n rhannu’n taflenni melyn ni o dŷ i dŷ, yn y dyddiau cyn y pleidleisio.
..................

Y cyfarfod gyda Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Er mai siomedig, braidd, oedd y nifer a fynychodd y cyfarfod hwn yn Neuadd Sefydliad y Merched, bnawn Gwener 27ain Chwefror, eto i gyd mae’n dda cael adrodd bod y gynulleidfa wedi gadael argraff ddofn ar ein gwestai. Efo Guto Bebb AS eto’n cadeirio, agorwyd y cyfarfod gyda’r cyn-feddyg Dr Walter Evans yn rhoi darlun i Ms Rochira o’r sefyllfa oedd yn bodoli yma cyn cau’r Ysbyty Coffa ddwy flynedd yn ôl, ac o’r hyn sydd yn weddill inni bellach. Wedyn, caed clywed nifer o’r gynulleidfa yn disgrifio eu profiadau anffodus efo’r gwasanaeth iechyd (profiadau personol a theuluol) ac roedd yn amlwg bod y Comisiynydd wedi cael ei chyffwrdd i’r byw gan ddiffuantrwydd y siaradwyr hynny, ac y bydd llawer o’r hyn a gafodd ei ddweud ganddynt yn cael sylw yn ei hadroddiad hithau hefyd i’r Gweinidog Iechyd.

Diolch i bawb ohonoch, felly, a wnaeth yr ymdrech i ddod yno, gan gynnwys rhai o drigolion Dolwyddelan. Diolch hefyd am gefnogaeth y ddau gynghorydd oedd yn bresennol, sef Selwyn Griffiths, Porthmadog (Cadeirydd Cyngor Sir Gwynedd), a’r Cynghorydd Linda Wyn Jones. Yno hefyd roedd dau gynrychiolydd o Age Cymru, sef yr elusen genedlaethol sy’n gweithio ar ran pobol-mewn-oed, a diolchwn iddynt hwythau am eu cefnogaeth.
Mae’n dda cael dweud bod y cyfarfod wedi cyflawni’r hyn roeddem wedi’i obeithio amdano.
GVJ                                       

----------------------------------

Annwyl Olygydd,
Ar ran Pwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty hoffwn ddiolch drwy gyfrwng Llafar Bro yn ddiffuant iawn i’r 53 a wirfoddolodd eu ceir diwrnod y pôl Cymunedol ar y 19eg o Chwefror i gario cymdogion, ffrindiau a pherthnasau i bleidleisio.  Hefyd diolch i’r cyfeillion a wirfoddolodd i eistedd wrth y drysau.  Fel mae’r canlyniadau yn dangos, ni fu eich hymdrech yn ofer.
Diolch yn fawr,
Gwilym Price.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon