14.3.15

Senedd Stiniog

Newyddion o’r Cyngor Tref   
(wedi'i addasu o'r erthygl yn rhifyn Mawrth 2015)

Ym mis Chwefror penderfynwyd y dylid gosod adeilad y Pafiliwn ym mharc chwarae y Sgwâr i Carys Jones er mwyn iddi agor caffi. Enw’r caffi fydd Caffi’r Parc ac mae bellach wedi agor ers yr 2ail o Fawrth. Pob lwc i'r fenter.

Cafwyd adroddiad ar lafar bod Partneriaeth y Parc yn gweithio’n brysur ar gynlluniau i ail-osod bandstand, cae chwarae amlbwrpas (addas ar gyfer pêl-droed, hoci a phêl-fasged ...) ac offer chwarae i blant anabl yn y Parc. Adroddwyd bod nifer o fusnesau a chymdeithasau eisoes wedi ysgrifennu llythyrau yn cefnogi’r cynlluniau a bod angen mwy er mwyn dangos yr angen cyn y gellid mynd am grantiau.

I’r rhai sydd â'u gwydrau'n hanner gwag mae'n rhaid adrodd newyddion drwg i drethdalwyr y cylch, sef penderfyniad y Cyngor i godi’r presept ar gyfer 2015/16. Bydd cynnydd o £10.52 y flwyddyn i bob tŷ ym mand D. Ond mae newyddion da i’r rhai â gwydrau hanner llawn, sef bod y Cyngor drwy godi 20c yn ychwanegol yr wythnos mewn sefyllfa dda i gynnal y gwasanaethau presennol i’r dyfodol ac i fedru ymdopi'n well efo unrhyw doriadau mae Cyngor Gwynedd yn ei gynnig.

Cafwyd gwybodaeth na fu cais am etholiad yn ward Conglywal na ward Tanygrisiau, felly mae’r Cyngor Tref yn rhydd i gyfethol aelodau newydd. Gyda llaw bu i un o aelodau o’r cyhoedd eistedd mewn ar gyfarfod arferol Chwefror er mwyn cael blas ar waith y Cyngor. Mae pawb yn rhydd i fynychu’r cyfarfodydd, sydd yn cael eu cynnal ar yr ail ddydd Iau o bob mis. Yn anffodus nid oes te a choffi yn cael ei ddarparu ond pe byddai hynny’n rheswm dros eich atal rhag mynychu ‘rydym yn sicr y gallwn sortio rhywbeth allan ar eich cyfer.

Derbyniwyd cais gan Ysgol Tanygrisiau i’r Cyngor benodi cynrychiolydd i eistedd ar fwrdd Llywodraethwyr yr Ysgol. Cytunodd y Cynghorydd Ronwen Roberts i wasanaethu dros dro tan y byddai sedd Tanygrisiau yn cael ei lenwi.

Mae rheolau sefydlog y Cyngor yn datgan na ddylai cyfarfodydd fod yn hirach na dwy awr. Gyda rhestr hir o eitemau ar Agenda'r cyfarfod arferol mae’n anodd cadw at y rheol dwy awr a gyda hyn mewn golwg cynigiodd y Cynghorydd Ronwen Roberts, sydd yn gynrychiolydd y Cyngor ar Bwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty, y dylid sefydlu is-bwyllgor Iechyd er mwyn caniatáu mwy o amser i drafod materion yn ymwneud ag iechyd. Dirprwyir rhai materion fel caeau chwarae er enghraifft i’r Is-bwyllgor Mwynderau er mwyn sicrhau bod sylw digonol yn cael ei roi i gyflwr yr offer a sicrhau diogelwch plant wrth eu defnyddio.

Yn anffodus gyda Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn cyfyngu ar gyfrifoldebau Cynghorau Tref a Chymuned cafwyd gair gan y Clerc nad oedd gan y Cyngor yr hawl i sefydlu is-bwyllgor iechyd. Felly bu i’r Cyngor benderfynu i sefydlu is-bwyllgor o’r enw Lles Cymunedol yn hytrach nag Iechyd. Gyda’r penderfyniad yma penderfynwyd y dylid ymweld â meddygfa Penrhyndeudraeth er mwyn canfod sut maent mor llwyddiannus yn denu meddygon newydd ac y dylid gwahodd Rheolwr Meddygfa'r Blaenau i’r Siambr.

Cytunwyd i gais Antur Stiniog bod y Cyngor Tref  yn trefnu cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol y rheilffordd rhwng y Blaenau a Traws. Hefyd, fe benderfynwyd y dylid estyn gwahoddiad arbennig i Network Rail, aelodau o Gyngor Gwynedd, Cynghorau Cymuned Trawsfynydd a Maentwrog, y Gweinidog Edwina Hart AC a swyddogion Parth Menter Eryri.

Cofiwch, gan ei fod yn gyfarfod cyhoeddus mae croeso ichi fod yno hefyd! Manylion i ddilyn.

Gyda’r cyfle i adrodd yn ôl yn dilyn presenoldeb ar bwyllgorau allanol fe ddywedodd y Cynghorydd Kevin Baldwin bod y Siambr Fasnach yn gweithio ar ddatblygu digwyddiadau newydd i’r dref ac y bydd pamffled i hyrwyddo’r ardal yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

Bedwyr Gwilym

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon