19.3.15

STOLPIA- Pontio

Rhan o golofn reolaidd Steffan ab Owain, y tro hwn o rifyn Mehefin 2013. Bu'n cyfeirio at rai o hen bontydd y fro, ac yn yr achos yma, awn i'r Migneint yn ei gwmni.

Hen bont y mae llawer yn dotio ati wrth deithio tros y Migneint yw’r hen bont fach ddel sydd ar ochr ddwyreiniol i Lechwedd Deiliog a chyn cyrraedd pont ac adfeilion Tai Hirion, sef Pont Rhyd y Porthmyn.


Y mae llawer o ddyfalu wedi bod pa mor hen yw’r bont hon a phwy a’i cododd.

Wel, yn ôl un ffynhonnell, sef Ywain Meirion -a anwyd yn y Gopsiol ar y Migneint- y mae hi’n dyddio’n ôl i tua 1514 a dywed ymhellach eu bod wedi cario calch yn bynnau o Gemlyn ar yr afon Ddwyryd fel morter iddi hi.

Pan dynnais y llun ohoni, edrychais yn y muriau er mwyn gweld os yr oedd morter ynddi o gwbl heddiw, ond methais a gweld dim. Cred llawer o bobl bod hen ffordd yn arwain ohoni draw am gyffiniau Ysbyty Ifan, ond mewn gwirionedd, dyma oedd llwybr yr hen ffordd o Lan Ffestiniog i’r Bala a’r mannau cyfagos cyn gwneud Pont Tai Hirion. Gallwn weld hyn ar rai o’r hen fapiau.

Gyda llaw, ceir cyfeiriadau at y bont yn Parochialia Edward Llwyd oddeutu 1698 ac ym mhapurau Llys Chwarter Sir Feirionnydd am y 18fed ganrif. Cwynid yn 1745 bod y bont mewn cyflwr drwg ac angen ei hatgyweirio, ac yn 1763 talwyd £1.5.0  i William Prichard am ei atgyweirio. Eto yn 1765, talwyd  £1.16.0  i Owen Siôn y saer maen am atgyweirio 300 troedfedd o’r ffordd ar ochr ddwyreiniol y bont.

Adeiladwyd pont newydd yn ei lle oddeutu 1795, sef yr un sydd yn y pant ac a ddefnyddir gennym heddiw. Gyda llaw, hon yw Pont Tai Hirion, ac nid y llall, fel y mae amryw wedi camgymryd.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon