25.3.15

O'r Archif -Trem yn ôl

Pegi Lloyd Williams yn dewis pigion o’r archif.
Y tro hwn, darn a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 1984.

Cipdrem ar hanes “Yr Hall”
Annodd iawn yw cyfleu darlun teg o’r holl ddigwyddiadau cyffrous a fu ynglŷn â Neuadd y Farchnad ac Ystafell Gynnull y Blaenau drwy ychydig eiriau.  Fodd bynnag, ceisiaf dynnu braslun o’r hyn a ddigwyddodd yno yn ystod y can mlynedd ac ugain diwethaf.

Wel, ar ôl amryw gyfarfodydd yn nechrau chwedegau’r ganrif ddiwethaf i ystyried yr angen am Farchnadfa a Llyfrgell i’r Blaenau, ac ar ôl cryn ddadlau ynglŷn â’r safle, fe benderfynwyd ei chodi ar y lle y saif heddiw.  Agorwyd ei drysau i’r cyhoedd yn y flwyddyn 1864.

Efallai y rhydd y dyfyniad nesaf yma o ysgrifau ‘Rownd y Rhiw’ gan Dulyn lun eithaf byw o’r Farchnadfa yn ystod y ganrif ddiwethaf:
‘Wrth geisio rhoddi disgrifiad o’r hen Hall, erfyniaf ar y darllenydd gau ei lygad ar y rhan newydd, ac edrych ar lawnt lydan ac ambell i drol neu gar butcher, a’i lorpiau ar y llawr.  Tro dy gefn ar y gwesty ac fe weli ffenestri tal ar y llawr ac ar y llofft, grisiau cerrig i fyned i’r llofft a’i godrau yn y gongl gerllaw hen Swyddfa Barlwydon.
Canllaw haiarn cryf er diogelwch rhag cwympo i lawr, a drws llydan yn arwain i’r neuadd gyhoeddus ar ben y grisiau.  Dos i mewn i’r neuadd ac fe weli yn union faint yr hen adeilad cyn ei helaethu.  O dan y grisiau crybwylledig yr oedd y porth i’r farchnad.  Ar y chwith yr oedd bwrdd hir yn llawn melysion, yn cael ei wylio gan foneddiges ieuanc lanwaith, yn cynrychioli yr hen William Griffith, Llan a’i Indian Rock enwog.  Ymbriododd Hannah ag Evan Jenkins, a buont mewn masnach yn Heol yr Eglwys am flynyddoedd.  Ar y talcen chwith yr oedd Owen Jones, Cloth Hall, yn cario ei fasnach ymlaen, ac yna Butcheriaid Trawsfynydd a’r Llan, Robert Hughes, Robert Jones, John Brynsaeth, Griffith Jones masnachwyr hen ffasiwn, ond gonest bob un ohonynt.  Wedi hynny down at Gryddion Llanrwst gyda’u hesgidiau dihafal, Hannah Davies, Jane Thomas, William Williams.  Teithient mewn cerbyd tros y Crimea bob wythnos, a llawer helynt gawsant, yn neilltuol yn ystod misoedd y gaeaf.  Ond yr oeddynt yn cael cynhaeaf bras.  Yr oedd eu nwyddau bob amser yn ennill cwsmeriaid.
Hen gymeriad annwyl arall y cawsom lawer o’i gwmni a’i ffraethineb ydoedd yr hen Dafydd Davies, Trawsfynydd, a’i stôr o lyfrau.  Yr oedd ef a’n hystôr ni yn wynebu ei gilydd.

Yn y pen arall byddai Ellis o’r Nant a’i blu pysgota a’i lyfrau, a byddai ei gyfaredd yn denu lliaws ato bob Sadwrn.  Ar y talcen pellaf y byddai Thomas Edwards, yn enwog am ei hetiau 7/6 a 15/- am het silc.  Byddai dau Iddew yma’n gyson, sef Abraham, pryd du fel y frân, a’r hen Harries tad Mrs Polecoff, Bangor.  Cofier, roedd llawer o cheap Jacks a stondinau eraill ar y lawnt ar gyfer y Neuadd a masnachdai’r Market Place hefyd!’

Llyfryn Steffan ab Owain ar ran Cyfeillion Neuadd y Farchnad, 1995. Gwasg Carreg Gwalch

Ar Ebrill 26, 1871 agorwyd Ystafell Gynnull uwchben y Farchnadfa.  Gosodwyd golau nwy yno a chafodd y cyngerdd agoriadol ei gynnal mewn ystafell wedi ei goleuo am y tro cyntaf â golau nwy.

Yn wir, mae’r gweithgareddau a gymerodd le yn yr Ystafell Gynnull yn aneirif, cynhaliwyd peth wmbredd o Eisteddfodau Chwarelyddol llewyrchus ynddi.  Cafwyd llawer o Gyfarfodydd Gwleidyddol pwysig yn digwydd yno.  Bu ugeiniau o ddramâu yn cael eu perfformio ynddi o dro i dro a chodwyd cannoedd o bunnoedd i wahanol deuluoedd anghenus yr ardal drwy Gyngherddau a Chyfarfodydd Elusennol.

Gwelodd yr hen le nifer o wleidyddion mawr ein cenedl.  Dyma un hanesyn diddorol am gyfarfod yno yn y flwyddyn 1886 gan Dr Pan Jones.
‘Yr oeddwn i er yn gynnar wedi trefnu i ysgrifennu ar y ‘Ddaear i’r Bobl’ a threfnodd Michael D. Jones a minnau i gael Michael Davitt i Cymru mewn gobaith y gellid deffro y wlad …  Yr oedd Neuadd Gynnull, Blaenau Ffestiniog yn fwy na llawn, ond cafwyd trafferth i gael un i gynnig penderfyniad.  Yr oedd cywilydd neu ofn yn gwneuthur i bob siaradwr ofyn cwestiwn yn ddieithr iddynt neu yr oedd ofn Michael Davitt arnynt.  O’r diwedd, bodlonodd David Lloyd George gymryd y gorchwyl mewn llaw.  Nid wyf yn cofio clywed neb yn siarad yn well, yn fwy difyr ac ymarferol.  Dywedai i’r diafol gael lle poeth gynt gyda Michael yr Archangel, ond dyma ddau Fichael yn ymosod ar y landlord a gobeithio y gwnânt drefn arnynt.  Yr oedd yno guro dwylo a bloeddio mwy brwdfrydig nag arferol.  Pan eisteddodd troes Michael D. Jones ato a dywedodd wrtho, ‘Casgl dy glud, machgen i, San Steffan yw dy le di.’ 
Tybed ai yn yr Hall y dechreuodd gyrfa wleidyddol un o Brif Weinidogion Prydain?

Oddeutu’r flwyddyn 1910 daeth sinema i’r hen Neuadd ac yn ôl rhai, un o’r enw Mr Codman o Landudno oedd yno gyntaf.  Fodd bynnag, yn nyddiau bachgendod fy nhad a’i gyfoedion, ceiniog a fyddai’r tâl mynediad i’r pictiwrs p’nawn Sadyrnau ac un Mrs Griffiths a fyddai yn rhannu’r tocynnau.  Yr adeg honno byddai’r lle o dan ei sang gyda phlant bywiog yn gwingo yn eu seddau wrth wylio ffilmiau Tom Mix, Buck Jones, Buster Keuton ayyb.

Cynhaliwyd llawer o Nosweithiau Llawen ac Eisteddfodau yno o dan arweiniad Bryfdir ar hyd y blynyddoedd ac ‘rwyf yn siwr fod gan amryw o drigolion ‘Stiniog atgofion melys am y dyddiau hynny.  Byddai pethau fe Grand Bazaar, Amgueddfa a Sale of Work yn cael lle o dan ei tho ar adegau hefyd.  

Yn ystod y tri degau hefyd yr agorwyd y Forum, a chanlyniad hynny fu symud llawer o’r gweithgareddau cyhoeddus i’r fan honno.  Er hynny, bu’r Hall yn dal yn lle cyhoeddus i drigolion ‘Stiniog tan ganol yr Ail Ryfel Byd.  Yna oddeutu 1944, er mwyn denu diwydiannau newydd i ‘Stiniog fe osododd y Cyngor y lle ar rent.  Ymhen ychydig, cymerodd cwmni o’r enw Ackett y Neuadd o dan rent a defnyddiwyd hi fel ffatri i ailglytio a thrwsio hen esgidiau a beltiau ar ôl y Lluoedd Arfog.  Gyda llaw, gweddillion hen esgidiau wedi’u llosgi gan y cwmni o’r Hall yw’r Domen ‘Sgidiau’ sydd i’w gweld ar y dde i’r ffordd fawr sy’n arwain i ben Bwlch Gorddinan a gerllaw llwybr pysgotwyr Llyn Barlwyd.

Ar ôl y cwmni yna daeth ffatrioedd gwneud dillad yno a buont hwy yno am beth amser.  Nid oes cymaint â hynny o amser ers pan adawodd ffatri Wallis a Linell y lle.  Heddiw, y mae’r lle yn ôl yn nefnydd y Cyngor unwaith eto a defnyddir yr hen Neuadd enwog fel ystorfa ganddynt.  Tybed beth fydd hanes yr hen Hall ymhen 20 neu hanner can mlynedd eto?

------------------------------------

*Cyhoeddodd Cymdeithas Llafar Bro lyfr  'Pigion Llafar 1975-1999' er mwyn dathlu'r milflwyddiant, gyda Mrs Elizabeth Jones yn arwain tîm o olygyddion, gan gynnwys Pegi.
Os ydych yn hoffi'r gyfres Trem yn ôl -ewch i chwilio am gopi o'r llyfr. Bron i gant o dudalennau am £3 yn unig!




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon