PATAGONIA 150. Cyfres achlysurol fydd yn ymddangos trwy'r flwyddyn, i nodi canrif a hanner y Cymry yn y Wladfa. Dyma wthio'r cwch i'r dŵr efo rhan o golofn Rhod y Rhigymwr, Iwan Morgan, o rifyn Chwefror 2015.
Eleni, mae’n ganrif a hanner er pan hwyliodd 153 o Gymry ar fwrdd y ‘Mimosa’ o Lerpwl i Batagonia yn Ne America, gyda’r Capten George Pepperell a chriw o ddeunaw. Cychwynnwyd o Lerpwl ar yr 28ain o Fai a glanio ym Mhorth Madryn union ddeufis yn ddiweddarach, ar yr 28ain o Orffennaf. Ymysg y teithwyr, enwir rhai o Ffestiniog, sef John a Mary Roberts, 27 oed a’u tri phlentyn, Mary, Thomas a John. Dau Stiniogyn arall a enwir oedd James Berry Rhys, 23 oed a John Moelwyn Roberts, 20 oed. Cyfarfu’r teithwyr ag Edwyn Cynrig Roberts a Lewis Jones ym Mhorth Madryn. Eu bwriad hwy oedd sefydlu Gwladfa Gymreig, lle cawsai’r Iaith Gymraeg a’i diwylliant eu meithrin. Ym Medi’r flwyddyn honno, cyrhaeddwyd Dyffryn Chubut.
Ym Mlaenau Ffestiniog, ym 1902 y ganwyd y bardd a’r llenor Richard Bryn Williams. Yn blentyn seithmlwydd oed, ymfudodd gyda’i rieni i Drelew, Chubut. Dychwelodd i Gymru ym 1923, i Ysgol Eben Fardd, Clynnog. Aeth nifer o fechgyn ifanc i’r hen ysgol honno i baratoi ar gyfer bod yn weinidogion. Yn ei lyfr ‘Atgofion am Bymtheg o Wŷr Llên’ (a enillodd wobr ym Mhrifwyl y Fflint ym 1969 ac a gyhoeddwyd gan y Cyhoeddiadau Modern Cymreig ym 1975), mae fy ewyrth (brawd hyna’ Mam), sef y Parch Aneurin Owen Edwards, Prestatyn, yn ysgrifennu’n gynnes iawn am un a ddaeth yn gyfaill triw iddo tra yng Nghlynnog.
Ym Mhrifwyl Abertawe ym 1964, ‘Patagonia’ oedd testun yr awdl. Pan ymddangosodd y rhestr testunau ym Mhrifwyl Llandudno flwyddyn ynghynt, cofiaf f’ewyrth yn proffwydo pwy fyddai’n sefyll ar ei draed ar ddydd Iau’r cadeirio yn Abertawe. Cefais innau’r fraint o fod yn y Pafiliwn mawr pan gyhoeddodd yr Archdderwydd Cynan enw’r bardd buddugol .
Meddai Geraint Bowen, un o’r beirniaid:
“Fel cynganeddwr, fel triniwr geiriau a lluniwr cerdd, y mae Y Gelli Grin yn rhagori ar weddill yr ymgeiswyr.”
Mae cyffyrddiadau hynod swynol i’r awdl ganadwy hon. Dyma flas ohoni:
Perffaith y gorwel porffor,
Heulwen Mai ar lan y môr;
Hwyl ar gwch fel aur a gwin
Ar y lliwiog Orllewin;
A daw o sisial y dŵr
Heriol lais yr Arloeswr.
Eiddil Fimosa drwy ddylif misoedd
Hwyliai i’w hantur ar wamal wyntoedd.
Ei chragen yn herio’r llydan foroedd,
A rhoddwyd i’w llywio freuddwyd lluoedd:
Anelu o fro’r niwloedd – digariad,
A morio i wlad y mawr oludoedd.
Yn eu breuddwyd ’roedd pob rhyw awyddu,
Heb waed na phoen, eu bywyd yn ffynnu;
Agor maes heb un lord i’w gormesu;
O dlodi afiach câi’r genedl dyfu.
A’r Gymraeg ei mawrygu – heb air croes,
Ni ddeuai loes wrth addoli Iesu.
Yng Nghamwy lydan codi cabanau,
Troi âr ei daear dan Groes y Deau:
O fedel dioddefiadau – dôi llwyddiant,
Eu hil a’u cofiant mewn heulog hafau.
Y Gymraeg ddigymar oedd
Yn lleisiau dysg a llysoedd;
Iaith ddilediaith aelwydydd,
Iaith y ffair ac iaith y Ffydd.
Ar y Sul bu glir eu siant
A melys eiriau moliant;
Doi awel Pantycelyn
Yn frwd o Galfaria fryn....
Yn iach i Walia! Mwy dychwelaf
I aelwyd gwerin gwlad a garaf;
O Gymru hen os i Gamwy’r af,
Yn ei harafwch mwy hydrefaf,
Os dêl gwae, bydd fy ngaeaf – dan las nen,
Daw hedd a heulwen i’m dydd olaf.
Llwyddodd ‘Bryn’ i ennill cadair y Genedlaethol drachefn ymhen pedair blynedd – ym Mhrifwyl y Barri – am ‘Awdl Foliant i’r Morwr.’ Mae honno hefyd yn awdl hynod ganadwy. Bu’n Archdderwydd o 1975-1978. Ymgartrefodd yn Aberystwyth, lle bu farw ym 1981.
Pan welais raglen Huw Edwards ar Patagonia, daeth i'm cof (nid yn hollol gywir):" Os o Gymru i Gamwy'r af". Cofiwn y geiriau "Eiddil Fimosa". Diolch am ddyfynnu rhagor o linellau - byddant eto'n canu yn fy ngof.
ReplyDeleteCroeso; diolch am eich sylwadau.
Delete