18.5.15

Stiniog a'r Rhyfel Mawr- newyddion a barn

Parhad o gyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf:

Ar 21 Tachwedd 1914, cyhoeddodd Y Rhedegydd y gerdd gyntaf yn ymwneud â’r Rhyfel Mawr yn y papur. Yn nodweddiadol o’r nifer fawr o gerddi tebyg a ymddangosodd ar dudalennau’r papur dros gyfnod y Rhyfel Mawr oedd y gerdd am y ‘Kaiser du gorphwyllog’, gan T.W. (Grugyn) o Lanrwst.

Wythnos yn ddiweddarach, roedd gan Grugyn un arall yn taflu atgasedd tuag ‘At y Kaiser’, ynghŷd â cherdd wladgarol Brydeinig gan John Osgar Phillips, Llwyn, Ffestiniog, dan y testun Galwad Prydain. Mab i'r Parchedig R.Talfor Phillips, gweinidog Capel Bethel yn Llan Ffestiniog oedd y bardd ifanc hwn. Roedd John Osgar, fel nifer o'r beirdd lleol, wedi ei drwytho mewn propaganda'r  Swyddfa Rhyfel, a Lloegr a Phrydain, nid Cymru, yn cael y flaenoriaeth yn ei wladgarwch. Cynhwysir y pennill cyntaf o'i gerdd isod:
Cofiwn feibion dewrion Prydain
Sydd yn ymladd dros ein gwlad,
Tra 'rym ni ar aelwyd gynnes
Yn mwynhau cysuron mad;
Maent yn dioddef mawr galedi,
Mae eu gwaed yn lliwio'r llawr,
Rho’wn bob parch i'r bechgyn glewion
Gadwent urddas Prydain Fawr.
Er ei angerdd tuag at ei Brydain Fawr, yn anffodus iddo, ni ddychwelodd John Osgar o'r heldrin. Fe'i lladdwyd yn y ffosydd yn Ffrainc, ychydig cyn diwedd y Rhyfel yn 1918, ac yntau ond yn 18 oed. (Un sy'n ddisgynnydd o deulu John Osgar yw Nan Williams, priod Adrian Williams, cyn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn y Blaenau. Rwy'n hynod ddiolchgar i Nan am wybodaeth parthed John Osgar.)

Yr oedd prinder ŵyn i’r lladdfa yn cael ei adlewyrchu ym mhennawd apêl ar dudalennau’r papur ar 28 o Dachwedd 1914, a ddywedai:
            'Angen am Adgyfnerthion. Appeliadau o’r Ffrynt.' 

Ymddangosodd nifer fawr o hysbysebion yn y wasg, a phosteri ym mhob cymuned ym Mhrydain, yn erfyn ar ddinasyddion i wneud eu rhan, er mwyn eu gwlad a'u brenin.

Daeth newyddion ar dudalennau'r Rhedegydd ar 19 Rhagfyr 1914 fod saith o ddynion ifainc y cylch wedi ymadael i Gaerdydd i ymuno â Brigâd yr Ambiwlans (R.A.M.C. Field Ambulance). Rhestrwyd eu henwau - Thomas Evans, Bryntwrog; Arthur V. Owen, Cae Clyd; William Owen ac R.T. Pritchard, y ddau o Ffordd Manod; Henry Williams, Dorfil; W. Jones Williams, Pencraig, Tanygrisiau a Reynold Williams, Tanygrisiau.

Erbyn diwedd Rhagfyr 1914, yr oedd dros filiwn o ddynion wedi ymateb i alwadau yr Arglwydd Kitchener, y Gweinidog Rhyfel, am filwyr i'r ffrynt. Yn ardal Blaenau Ffestiniog, roedd ymgyrch y swyddog recriwtio lleol, Lewis Davies, yn llwyddiannus iawn hefyd, yn ôl adroddiadau'r wasg.
DAN Y FANER, - deallwn fod Mr Lewis Davies, y swyddog ymrestriadol dros y dosbarth, yn dra llwyddiannus, gan fod 96 o fechgyn ieuainc yr ardal wedi ymrestru y ddau fis diweddaf. Gwna hyn gyfanswm y bechgyn o Ffestiniog sydd wedi ymrestru yn y gwahanol adrannau tua 500.
Gwelwyd eitem dan bennawd 'Cas gwr na charo'r wlad a'i maco', yn rhifyn olaf Y Rhedegydd am 1914, ar y 26 Rhagfyr. Dyfynnir o'r erthygl:
"Rhydd i bob dyn ei farn ac i bob barn ei llafar," ond y mae'n bwysig cofio fod cryn wahaniaeth rhwng barn ac opiniwn. Hyfryd yw gwrando ar ddyn yn traethu ei farn, ond blin yw gwrando ar ambell un yn traethu ei dipyn opiniwn...Dywedir wrthym fod yn ein hardal gryn nifer o bobl sydd yn haeru fod ein Llywodraeth ni mor gyfrifol am y rhyfel presennol ag ydyw'r Kaiser, a'u bod yn dal ar bob cyfle i gondemnio'u gwlad eu hunain ac i ganmol gelyn eu gwlad.
Rho'r wybodaeth uchod fanylion sy'n awgrymu bod peth gwrthwynebiad i'r rhyfel ymysg carfannau o'r boblogaeth yn y Blaenau. Aiff yr adroddiad ymlaen gyda'r geiriau ystrydebol arferol
Os ydyw'n wir fod rhai yn cael mwynhad wrth feio a chablu Prydain a chyfiawnhau a chanmol yr Almaen, dywedwn wrthynt mai hyll ydyw iddynt hwy, tra'n aros gartref mewn diogelwch clyd, gablu'r deyrnas y maent yn ddeiliaid o honni, tra mae brodyr lawer iddynt yn ymladd drosti ac yn marw erddi ar faes rhyfel...
----------------


Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Stiniog a'r Rhyfel Mawr' isod.

[Pabi gan Lleucu Gwenllian]

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon