11.10.21

Stolpia- saethu a chwympo

Atgofion am Chwarel Llechwedd... pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Fel y crybwyllwyd o’r blaen gennyf, roedd yr 1960au yn gyfnod cyffrous mewn llawer ystyr ymhell ac agos, ac un o’r pethau a gofiaf parthed Chwarel Llechwedd a dynnodd gryn sylw pan oeddwn yno, oedd saethu craig uwchlaw’r Bôn gyda siels o wn mawr,  yn hytrach na’r ffordd arferol o dyllu’r graig ag ebillion a’i thanio gyda ffrwydron. 

Os cofiaf yn iawn, drychfeddwl Capten ‘Sandy’ Livingstone-Learmonth, Tanyrallt, Tremadog, oedd hyn, neu fel y’i gelwid gan rai o’r hen chwarelwyr - ‘Capten Lionmouth’. Roedd yn briod a Cecily, merch John Ernest Greaves, ac yn gyfranddaliwr yn y chwarel. 

Beth bynnag, aflwyddiant a fu i bob pwrpas, dim ond malurio ychydig o’r brig a’r graig a wnaeth y siels, ac felly, troi at y ffordd arferol i ddatgymalu’r graig a wnaed wedi’r cwbl.

Un peth am ymweliadau yr hen Gapten, byddai’n reit hael efo’i sigarets, ac roedd llawer ohonom yn ysmygu y pryd hynny, a’r mwyafrif ohonom wedi gorffen ein paced ffags erbyn tua dau o’r gloch y prynhawn, os nad cynt.

Fel rheol, byddai ei ddau gi yn ei ddilyn yn ffyddlon ogylch y chwarel, sef un daeargi bach ac un labrador du. Beth bynnag, un diwrnod pan ar un o’i ymweliadau achlysurol daeth i mewn i'r ‘ffitin siop’ gyda’r cŵn a chan bod cryn dipyn o fân beiriannau wedi eu gadael yno ar gyfer eu trwsio, roedd hi’n ddigon cyfyng i droedio mewn sawl lle yno. Wel, fel yr oedd yr hen labarador du yn ei ddilyn heibio’r injian fach a oedd wedi ei gadael uwchlaw’r pit syrthiodd y creadur i lawr i'w waelod. Nid oedd fawr gwaeth ar ôl ei godwm, ond gan fod hen oel ac irad yn ei waelod, yn ogystal ag ar y waliau, roedd cryn olwg ar yr hen gi, gan fod ei goesau a’i gefn wedi ei orchuddio ag oel budr. Estynnais ychydig o hen garpiau oddi ar y fainc, a cheisio sychu’r irad oddi ar ei gefn, ac fel ei werthfawrogiad am fy mharodrwydd i lanhau côt y ci, rhoddwyd dwy sigaret imi gan yr hen Gapten- un i ysmygu yn ei gwmni ef ag Emrys ac imi roi’r llall ar ochr fy nghlust. Credaf mai’r tro olaf imi weld yr hen Gapten oedd ar set ffilmio ‘Macbeth’ gan Roman Polanski yn 1970.

A sôn am gwympo, y mae gennyf gof ohonof innau yn cael coblyn o godwm tra’n rhedeg i lawr Llwybr Gwaith, Chwarel Llechwedd ryw dro ar amser mynd adref, sef ychydig ar ôl caniad a ‘chael ein gollwng’ am 4 o’r gloch. 

 

Hen lun yn dangos y Llwybr Gwaith, ar y dde

Os cofiaf yn iawn, roedd hi’n ddiwrnod braf ac yr oeddwn am geisio cyrraedd adref i fy nghartref yn Rhiwbryfdir, llyncu fy nhe a mynd i bysgota i Gwm Orthin, neu Gwm Corsiog. Beth bynnag, tua hanner ffordd i lawr y llwybr bachais flaen fy esgid ar un o’r cerrig a fyddai wedi eu gosod ar eu cyllyll arno a dyma brofi hedlam go hegar a glanio yn glemp ar fy mag a’r tun bwyd a oedd ynddo. 

Gallwch fentro bod y tun bwyd, sef tun oxo sgwâr, a oedd yn boblogaidd y pryd hynny, wedi ei wasgu a phlygu yn ddi-siap. Wrth ryw lwc, nid oeddwn wedi cael anaf ddrwg, ond digon araf deg oedd y troedio i lawr at y ffordd fawr wedyn.
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2021


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon