Dod yn ôl at dy Goed
Braf iawn oedd gallu gweithredu ar ein cynllun presgripsiynu gwyrdd newydd, Dod yn ôl at dy Goed, ym mis Mai, ar ôl clo arall hir yn cynllunio.
Mae hwn yn gynllun ar gyfer unrhyw un sy’n teimlo fel dod i dreulio ychydig o amser yn yr awyr agored, i ddysgu a rhannu sgiliau, mwynhau natur a chael cyfle i gymdeithasu unwaith eto mewn awyrgylch gyfeillgar a diogel.
Mae’r budd sydd i’w gael o fod ym myd natur yn enfawr – mae’n gallu lleihau straen, codi imiwnedd a gwneud y byd o les i’r corff a’r meddwl. Mae pawb sydd wedi bod yn mynychu yn elwa ohono’n barod ac yn bendant, rydym ni fel staff yn cael budd hefyd!
Hyd yn hyn rydym wedi cynnal nifer o sesiynau ‘Panad yn y Coed’ ynghŷd ag ymweliad i fferm Pen y Bryn, sesiynau casglu sbwriel, Pilates, symudiadau Tai Chi, plannu’r wal werdd yng nghanol y dref a chwynu a phlannu yn yr ardd berlysiau wrth y Llyfrgell.
Mae llawer o gyfleoedd eraill i ddod hefyd – cadwch lygad am ein rhaglen fisol, neu cysylltwch er mwyn iddo gael ei anfon yn uniongyrchol atoch yn fisol.
Y Wal Werdd
Gyda help gan wirfoddolwyr o bob oed, cafodd 160 o focsys a dros 350 o blanhigion eu plannu yng nghanol y dref dros yr hanner tymor. Mae'r gwyrddni ynghyd â'r murluniau newydd ar waliau caffi Antur Stiniog yn ddathliad o hanes a threftadaeth y Fro.
Medd Nina, un o griw y Dref Werdd:
“Mae hwn wedi bod yn ymdrech ryfeddol, gydweithredol yn cynnwys Cyngor Gwynedd, Y Dref Werdd, Antur Stiniog, Cwmni Bro, Canolfan Arddio Bryncir, ac yn bwysicaf oll, aelodau o'r cyhoedd a gwirfoddolwyr lleol. Yn bersonol, rydw i wir wedi mwynhau gweithio ar y prosiect hwn. Mae'n atgoffa ni y gallwn ni i gyd fwynhau bod ychydig yn fwy gwyrdd, ychydig yn fwy ymwybodol o'n hamgylchedd a natur. Mae’r gwenyn a gloÿnnod byw eisoes yn mwynhau! Rwy'n gobeithio bod pobl Blaenau yn teimlo'n falch iawn ohono. Rwy'n gwybod fy mod i.”Diolch enfawr i Nina, yr oll wirfoddolwyr, a gweddill criw Y Dref Werdd am eu gwaith gwerthfawr. Ariannwyd y wal gan gronfa Adfywio Canol Trefi Cyngor Gwynedd.
Sgwrs
Mae cynllun Sgwrs yn parhau yn llwyddianus gyda dros 250 awr wedi ei gyflawni bellach! Cofiwch gysylltu hefo ni os ‘da chi’n hoff o sgwrsio... neu wrando! Diolch i’n holl wirfoddolwyr sydd wedi ac sy’n parhau i roi cefnogaeth a charedigrwydd i eraill yn ystod yr amser rhyfedd hwn.
Digidol
Mae gennym ddigon o ddyfeisiau digidol ar gael i’w benthyg i rywun sy’n awyddus i fynd arlein. Rydym hefyd yn apelio am wirfoddolwyr i helpu’r bobl hynny i ddysgu defnyddio’r dyfeisiau. Cysylltwch os oes angen benthyg dyfais arnoch neu os ydych yn awyddus i helpu.
07385 783340 hwb@drefwerdd.cymru
Eda’ Eco
Mae Eda’ Eco bellach wedi agor! Gofod gwnïo, creu a chymdeithasu i’r gymuned sydd wedi ei leoli ar lawr cyntaf y Siop Werdd. Mae yno ddau beiriant gwnïo gyda’r holl offer a deunyddiau y byddwch angen i drwsio neu greu fel y mynnwch!
Cysylltwch â’r Siop Werdd i ddefnyddio’r gofod – 01766 830750.
--------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2021
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon