24.9.21

Safle Treftadaeth y Byd

Fel y gwyddom bellach, bu’r ymgais i sicrhau dynodiad Safle Treftadaeth y Byd i Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn llwyddianus gyda UNESCO yn rhoi eu penderfyniad cadarnhaol ddiwedd Gorffennaf. Yr ardal lechi yw pedwaredd Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru, yn ymuno â llefydd fel Wal Fawr Tsiena, a’r Taj Mahal ar y rhestr rhyngwladol.  

Inclên enwog y Greigddu, a'r Blaenau yn y cefndir. Llun Paul W
 

Rhoddodd ein hardal do ar y byd, ac mae’r dirwedd llechi yn cael ei dathlu am ei chyfraniad byd eang yn darparu deunyddiau, pobl, sgiliau a thechnoleg i bedwar ban byd yn ystod y 19eg ganrif, yn ogystal a dathlu ein diwylliant, iaith a thraddodiadau arbennig sydd wedi siapio a diffinio ein cymunedau.

Y diwydiant llechi oedd y Cymreicaf o ddiwydiannau mawr Cymru a dyma’r ardal sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg heddiw; Mae dros i 70% o boblogaeth dyffrynnoedd llechi Gwynedd yn siarad Cymraeg, ac yn rhywbeth rydym yn ymfalchïo ynddi.

Fel rhan o ddatblygu’r dynodiad, mae Cyngor Gwynedd ac ystod o bartneriaid wedi bod yn cydweithio gyda chymunedau o fewn chwe ardal y cais ar y cynllun ‘LleCHI’ i ailgysylltu pobl gyda’u treftadaeth gyfoethog, i godi hyder a balchder ymysg trigolion a sbarduno adfywiad ein cymunedau.  Y murluniau ar siop Antur Stiniog ydi un o weithgareddau diweddar y cynllun yn Stiniog. 

 

Llun Cyngor Gwynedd

Hefyd, rhoddwyd brofiadau i bobl ifanc Bro Ffestiniog i ddysgu mwy am eu hanes a’u treftadaeth drwy gefnogi gweithgareddau Clwb Clinc, Cell a oedd yn cynnwys cerfio a hollti llechi, cyfweliadau, creu fideos byw ac ymgyrchoedd lleol.
Gwenan Pritchard, Cydlynydd Llechi Cymru.

----

Llun Paul W

Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog

Mae’r gymdeithas yn cyd-weithio ar hyn o bryd efo Cyngor Gwynedd i ddiweddaru ac ail-argraffu y llyfryn Diwylliant Ymysg Diwydiant - sydd yn manylu ar y dywediadau a geir ar hyd y stryd. 

Fe'i cyhoeddir ar ei newydd wedd yn fuan iawn - ar yr un pryd ac y cytunir i'r cais i ddynodi Ardaloedd y Llechi ar restr Treftadaeth y Byd gobeithio.


----

Effeithiau Negyddol?
Nid pawb sy’n teimlo bod y dynodiad yn llesol, gyda’r mudiad Cylch yr Iaith, er enghraifft yn gweld peryglon difrifol yn codi o or-dwristiaeth ac angen mesurau penodol i warchod y cymunedau.

Dyma grynodeb o’r hyn oedd gan eu llefarydd, Howard Huws, i’w ddweud wrth Llafar Bro:
Mae nifer o fesurau y mae’n rhaid i Gyngor Gwynedd eu gweithredu er mwyn sicrhau na fydd y dynodiad yn cael effeithiau niweidiol ar ein cymunedau a’n hiaith. Mae’n eironig bod UNESCO ei hun, mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai, yn gosod y Gymraeg yn y dosbarth ‘Bregus’ ar ei restr o ieithoedd Ewropeaidd sydd mewn perygl o ddiflannu.

Mae perygl i’r ardaloedd llechi ddod yn fwy o gyrchfannau gwyliau nag y maent eisoes. Mae Croeso Cymru â chwmni Twristiaeth Gogledd Cymru yn amcanu denu mwy fyth o ymwelwyr i ardaloedd fel Blaenau Ffestiniog os bydd yr enwebiad yn llwyddiannus.

Gan hynny, mae angen i Gyngor Gwynedd ateb y ddau gwestiwn canlynol:

1.    Sut mae’r Cyngor am sicrhau na fyddai mwy o stoc dai y Blaenau a’r cylch yn troi’n ail gartrefi a thai gwyliau tymor-byr, a dwysáu’r argyfwng tai? Mae astudiaeth academaidd yn dangos bod nifer dda o ymwelwyr i ardal yn dewis prynu tŷ yno fel ail gartref.

2.    Sut mae Cyngor Gwynedd yn mynd i sicrhau na fyddai denu mwy o ymwelwyr yn cynyddu’r mewnlifiad Saesneg ac felly’n gwanychu’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol? 

Cafwyd astudiaeth gan Bwyllgor Cludiant a Thwristiaeth Senedd Ewrop yn cyflwyno tystiolaeth fod Safleoedd Treftadaeth y Byd yn dioddef effeithiau gor-dwristiaeth, a bod Cymru eisoes yn un o'r lleoedd yn Ewrop sy’n amlygu hynny.

Mae’r duedd i ail gartrefi a thai gwyliau gynyddu mewnlifiad parhaol wedi’i dwysáu gan y pandemig, wrth i ragor o bobl ddod yma ar wyliau yn hytrach na mynd dramor; wrth i ragor benderfynu ymddeol yma’n gynnar; a rhagor symud i fyw yma a gweithio o gartref. Mae hynny’n codi prisiau eiddo, ac yn  gwaethygu’r argyfwng tai oherwydd na all pobl leol fforddio prynu tŷ yn eu hardal eu hunain.

Sut mae atal hynny? Rhaid i Gyngor Gwynedd gymryd camau a gosod mesurau penodol yn eu lle er mwyn sicrhau na fyddai’r dynodiad yn cael effeithiau negyddol ar y gymuned, er enghraifft gwneud Cyngor Tref Ffestiniog yn rhanddeiliad yn y Safle Treftadaeth y Byd trwy roi lle i’w cynrychiolwyr ar y Bwrdd Rheoli. Byddai hynny’n eu galluogi i fynegi barn gymunedol ar strategaeth, prosiectau a datblygiadau; Ail-lunio methodoleg yr asesiad ardrawiad iaith presennol fel ei fod yn llawer cadarnach, er mwyn gwneud yn siŵr na fyddai datblygiadau tai a datblygiadau twristaidd yn niwediol i’r Gymraeg fel iaith gymunedol. Wedi’r cyfan, ein hiaith ydi ein treftadaeth gyfoethocaf fel bro ac fel gwlad, ac mae ei sefyllfa’n fregus. 

Gofynnwn i Gyngor Gwynedd ddangos ymrwymiad i wneud popeth sydd ei angen i sicrhau na fyddai dynodi ardaloedd y llechi yn Safle Treftadaeth y Byd yn gam a allai wneud sefyllfa’n hiaith yn fwy bregus fyth.
-----
Be ydi barn darllenwyr Llafar Bro? Gyrrwch air atom.


- - - -

Addasiad yw'r uchod o ddarnau a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2021



1 comment:

  1. Mae'n rhaid i Gyngor Gwynedd, a chynghorau sirol eraill wneud eu gorau i dod i gytundeb á'r Senedd yng Nghaerdydd yn ymwneud a thai ar gyfer ein pobl ifanc. Beth am sicrhau fod pob tý gwag yn cael eu prynu gan y cyngor sir, gyda chymorth ariannol y Senedd, a'u gosod am rent cymhedrol i'r bobl ifanc sy'n methu fforddio prynu tai ar hyn o bryd? Byddai hyn yn lawer rhatach na cheisio codi stadau o dai newydd ar gyfer yr un pwrpas. Os am sicrhau dyfodol ein hiaith a'n diwylliant, ynghyd a dyfodol ein teuluoedd ifanc, mae'n fater o frys i wleidyddion wynebu'r broblem bresennol, cyn iddi fynd yn rhy hwyr, a phob ty gwag yn cael eu prynu gan fewnfudwyr di-Gymraeg. Cafodd y cynnig uchod ei roi ymlaen yn y 1970, pan godwyd stad o dai newydd yn y dre' am grocbris ar y pryd, pan oedd nifer fawr o dai rhes gweigion yn galw am bobl leol eu prynu am brisiau llawer llai na chost o godi'r tai hynny o'r newydd. Ond anwybyddwyd y ddadl gan gynghorwyr y dydd, gan fynd ymlaen i wario arian y drethdalwyr yn ofer, a gadel i'r tai gweigion gael eu prynu gan newydd-ddyfodiaid fesul un, fel y mae'r sefyllfa hyd heddiw. Deffrwch Senedd Cymru, a Chynghorau sirol!!

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon