Erthygl arall yn ein cyfres am lwybrau Bro Ffestiniog, gan Edwina Fletcher
Er fy mod wedi fy ngeni a'm magu yma, doeddwn erioed, tan ychydig o wythnosau yn ôl, wedi bod yng Nghwmorthin. Dwi'n clywed nifer ohonoch yn dal eich gwynt ac eraill yn ochnedio, ond, gan fy mod wedi bod yn gweithio llawn amsar am jyst i hanner can mlynedd ac wedi cymryd ymddeoliad buan diwedd flwyddyn diwetha, doedd y modd na'r amsar wedi bod gen i tan flwyddyn yma i neud gymaint a fedrwn o grwydro ardal hardd fy mebyd.Felly, ar ddiwrnod braf ddiwedd Mehefin, aeth Mags Williams a finna i fyny am y Cwm a chael amsar i edrych o'n cwmpas. Wedi "dringo'r" llwybr heibio’r tomennydd, aethom dros y bont fach ac i fyny at y teras - rhai wedi eu dymchwel yn gyfan gwbwl ond crawiau rhai erall yn dal yn sefyll. Diddorol iawn oedd gweld fel oedd y tai wedi eu hadeiliadu ar dir uchel uwchben y llyn, ond hefyd yn agored i dywydd garw o bob cyfeiriad. Bechod gweld eu cyflwr ond da oedd darllen bod ymgais wedi ei wneud, a chlod i bawb oedd wedi bod yn gyfrifol, i achub un corn ar y tŷ pen.
I lawr wedyn yn ôl ar y llwybyr i'r chwith o'r llyn a'i ddilyn nes daethom at adfeilion Capel y Gorlan. Dim ond tair wal sydd ar ôl, ond mae siap y ffenestri i'w gweld yn glir. Deall bod cynllun y capel tu chwith, h.y. bod y pulpud yn y tu blaen gyda'r gynulleidfa yn wynebu’r drysau wrth i chi fynd i fewn (fel Capel Bethel, Tanygrisiau dwi'n credu?).
Roeddan wedi mynd a phicnic efo ni ac wedi aros â'n cefnau at y capel o dan ddwy goeden. Roedd yn dawel iawn yno nes ddoth yna ychydig o wynt i fyny'r cwm a sibrwd yn y cangennau a'r dail yn rhoi ysbryd gwahanol i'r distarwydd.
Aethom wedyn at Blas Cwmorthin. Roedd hwn mewn ychydig gwell cyflwr na'r teras ac mewn man tawel a chysgodol yn mhen pella'r llyn - oedd hi felly dros ganrif a hannar yn ôl dwn i ddim.
Yn ôl i'r llwybr ac at Dai Conglog - adfeilion llwyr ond modd i weld sefyllfa y chwarelwyr pan ddim wrth eu gwaith.
Gwnaethom benderfynu peidio mynd i fyny at Rhosydd - hwnnw at ddiwrnod arall wyrach - ac felly troi ar ein sodlau ac yn ôl ac i ochor arall y llyn at Dŷ Cwmorthin. Mae hwn wedi cael ei 'neud i fyny ac wedi ei baentio yn wyn. Siebiant am ychydig wrth ymyl y llyn yn fan honno i fwynhau'r lleoliad.
Doedd dim llawer iawn o bobol yn y cwm y diwrnod hwnnw, ond roedd plant ysgol lleol yn mynd i fyny o'n blaenau. Aethont ymlaen am Rhosydd ac roeddant yn dod i lawr yn eu holau fel roeddan ni yn dod at y man parcio. Dangos eu bod nhw yn llawn mwy egni na ni!
Wedi deud hynna, os mae rwan oedd y tro cynta i mi weld Cwmorthin, fydd o ddim y tro diwetha - o bell ffordd!
- - - - - -
Lluniau gan yr awdur.
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021
Erthygl ddifyr gan un á chariad at ei bro. Angen rhai fel chdi a'th debyg i ddod yn rhan o dím Llafar Bro Edwina. Mae croeso mawr atom yn eich aros.
ReplyDelete