25.10.12

Stolpia Hydref

Dyma flas o erthygl boblogaidd Steffan ab Owain, o rifyn Hydref:

Glaw Stiniog!


 Nid oes dwywaith amdani hi ein bod ni wedi cael ein gweddill a’n gwala o law ‘Stiniog yn ystod y  misoedd diwethaf  ‘ma. Efallai  bod gennych  rhyw led-gof  inni gael tywydd teg ym mis Mawrth eleni, ond prin bod angen imi eich atgoffa mai ychydig iawn o dywydd heulog a welsom ers hynny .

Beth bynnag, erbyn i’r rhifyn hwn ymddangos  o’r wasg bydd mis Medi wedi dod ac wedi mynd, ac er ein bod yn rhyw hanner disgwyl cael ‘sgrympia’ Gwyl Grog’  yn ystod y mis hwn, y mae hi wedi bod yn ddigon sgrympiog drwyddo  .Y newid yn hinsawdd y byd,efallai. Gyda llaw, cawodydd trymion sydyn yn parhau am ychydig yw ‘sgrympiau’ a gawn ogylch  gŵyl y Grog,  sef Medi 25. 

  Ond beth am y dywediad ‘glaw Stiniog ? O beth gasglaf  y mae’r dywediad yn bodoli ers   1886, o leiaf, yn y ffurf canlynol a welir ym mhapur newydd Baner ac Amserau Cymru am Dachwedd y flwyddyn hon :

Agoriad Clwb Torïaidd- Prydnawn ddydd  Gwener diweddaf, cyd-ymgynullodd blaenoriaid y blaid Dorïaidd yn sir Feirionnydd, i ganol gwlaw mawr Ffestiniog, i agor eu Clwb Torïaidd sydd wedi ei sefydlu yn y Gors New Market Square ….
 Erbyn y flwyddyn ganlynol,  ceir y sylwadau hyn yn yr un papur :
Gwlaw Ffestiniog – llawer o sôn a siarad sydd am wlaw Ffestiniog, ac nad oes un man tebyg iddo am dywydd gwlyb. Dywedai Mr.E.P. Jones, U.H. y dydd o’r blaen ein bod wedi cael yn ystod y flwyddyn ddiweddaf 196 o ddyddiau teg, a 169 yn wlyb; ac felly, nad oedd ond 27 o wahaniaeth rhyngddynt a bod yn gyfartal.

   Fel y gwelwch roedd E.P.Jones  a fu’n preswylio yng Nghefn y Maes, Manod ac wedyn ym Mhlas Blaenddol, Llan Ffestiniog yn cadw manylion am y tywydd am flynyddoedd. Byddaf yn rhyfeddu wrth glywed yr arbenigwyr tywydd yn cyfeirio at  y flwyddyn  1914  fel yr un pan ddechreuwyd cofnodi’r  tywydd ym Mhrydain. Wrth gwrs, cyfeirio at gofnodion y gorsafoedd meteoroleg a sefydlwyd gan y weinyddiaeth y maent a’r rhai sy’n rhoi darlun o dywydd Prydain gyfan,  ac nid  o un man arbennig.

Pa fodd bynnag, y mae cofnodion lleol yn llawer mwy diddorol yn fy marn i. Dyma un cyfeiriad arall at law Ffestiniog o bapur Baner ac Amserau Cymru, Hydref 10,1896.:-
Gwlaw ! Gwlaw! -Nid oes yr un dydd ers mis, o leiaf, nad ydym wedi cael ein mwydo gan wlaw, a hwnnw yn wlaw mawr, fel gwlaw Ffestiniog. Nid yw yn ddiogel myned allan heb rhyw ddarpariaeth i ochel y gwlaw. Cwynir yn dost gan y mân ffermwyr sydd ag ychydig ŷd ar y mynyddoedd, ei fod wedi pydru ac yn ddiwerth i ddyn ac anifail a’u gweddi yw, O ! na byddai’n haf o hyd.

Yn ddiau, dyna yw  gweddi llawer ohonom ninnau hefyd, a phwy a ŵyr, efallai y cawn ni dywydd teg yn ystod yr wythnosau nesaf a chyn i’r gaeaf  ddod ar ein gwarthaf. Gyda llaw, yn ‘Y Genedl Gymreig’ am y flwyddyn 1898 cyfeirir at ein glaw fel ‘Glaw ‘Stiniog. Tybed a ydych chi wedi gweld cyfeiriad ato cyn y dyddiadau uchod ?
---------------------------------

Diweddariad [Gol- Hydref 2018]: 
cyfres o erthyglau am bwysigrwydd dŵr i Fro Ffestiniog, gan gynnwys un am fesur glaw yng Nghae Clyd.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon