Dyddiadur
 Phil Mostert
Darn o'r erthygl sy'n ymddangos yn rhifyn Hydref:
SADWRN - Teithio i Faes Awyr Manceinion,
teithio drwy Amsterdam a chyrraedd Helsinki a theithio ymlaen i Forssa.  
![]()  | 
| Ymarfer yn ystod y daith | 
SUL - Cyngerdd
yn  Somero,  yng nghwmni’r côr meibion lleol a Maija
Parko, pianydd broffesiynol.  Cawl eog
blasus iawn ar y diwedd.  
LLUN - Canmol mawr yn y papur lleol i
gyngerdd Nos Sul, yn enwedig y canu gwladgarol. 
Dau gyngerdd yn yr Ysgol Uwchradd heddiw.                                                  Y disgyblion yn ymateb yn dda a rhai yn
ymholgar ar y diwedd.  
Cyfle i
ymlacio a phrofi  barbeciw a sauna yn
westeion i Gôr Forssa.  Wel, dyma beth
oedd  cymdeithasu go iawn.  Manteisiodd bron bob aelod i brofi’r sauna
chwilboeth cyn trochi yn y llyn [nifer dda yn noethlymun] ond nid oes gennym
luniau i’w cyhoeddi!  Cydganu wedyn i
gyfeiliant piano accordian.  Noson i’w
chofio!
MAWRTH - 
Bws i’r Ganolfan Amaeth yn y pnawn. 
Roedd cyfle i’r amaethwyr yn ein plith holi am gynnyrch lleol a holi a
oedd yma farchnad arall am eu cig oen!   
Cyflwynwyd plac llechen yma, wedi ei gwneud gan Dewi Williams a mawr
fu’r gwerthfawrogiad ohoni.                       
Cyngerdd
min nos yn yr Eglwys Lutheraidd.  
Rhannu’r llwyfan efo Côr Forssa. 
Y côr ar ei orau.  Clod mawr i
Iwan Morus Lewis ein hunawdydd 18 oed, i Olwen Jones a Kevin Lewis ac i Iona
Mair.  
MERCHER– Symud ymlaen i Helsinki a phrofi’r
atyniadau.  Cawsom gyfle i ganu Finlandia
ger cofgolofn Sibelius.  Bu amryw yn
ymweld â’r farchnad ddifyr ger y cei, ac aeth rhai ar y cwch  ar draws i Ynys Suomenlinna . Mymryn yn ddrud
oedd y bwyd a’r ddiod yn y brif ddinas, felly roedd pawb yn weddol  gymedrol! 
![]()  | 
| Iwan yr arweinydd, a Iona'r gyfeilyddes | 
IAU-  Cyrraedd adref - a’r côr wedi gwneud llawer o
ffrindiau newydd, ac wedi llwyddo i fod yn llysgenhadon  teilwng iawn i Gymru.

,+Iona++Mair+(Cyfeilyddes).jpg)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon