28.10.12

Nofio

Blas ar erthygl reolaidd John Norman, TROEDIO'N  ÔL.
Cewch ei weld yn llawn yn rhifyn Hydref. Bydd hwnnw yn y siopau tan ganol Tachwedd felly brysiwch i'w brynu. Mae 40 ceiniog yn fargen anhygoel, am y fath gyfoeth o erthyglau. newyddion, a lluniau.



Yn rhifyn mis Medi soniais am wlychu yn yr afon wrth hel ein pêl-droed o’r dŵr oer. Ond yn yr haf byddem yn gwlychu’n wirfoddol wrth nofio yn y pyllau a geid yn yr afon. Gweithgaredd cwbl naturiol oedd nofio er mai caledi ein tywydd mynyddig oedd yn penderfynu pa mor amal yr oeddem yn mynd i nofio! Dyddiau tesog a ninnau’n rhedeg yn rhydd trwy’r glaswellt hir ar lan yr afon sy’n goglais y cof.


Gan fod y rhan helaeth o’r afon yn wyllt a chreigiog roedd y pyllau lle medrid nofio yn brin ac roedd enwau arbennig i’r rhain.  


Llyn Plant Stesion oedd enw’r llyn a fynychai plant o’r tai ger yr orsaf lein. 

O dan bont y llan roedd Llyn y Bont a rhaid oedd datblygu sgil o fedru nofio ar ein cefnau i gynnal y dewraf ohonom o dan y bwa i’r dwfn yr ochr draw. Roedd edmygedd merched y llan ag eraill wrth iddynt fod uwch ein pennau ar y bont yn gwylio yn rhoi hwb sylweddol i’r fenter! 

Llyn dwfn a thywyll oedd Llyn Tro’r Ysgwrn a guddiai dan goed isel ar droad yn yr afon.  Nofwyr profiadol yn unig a nofiai yma gan ei fod wedi cymryd un bywyd, o leiaf, yn ei orffennol du. Dywedir i Hedd Wyn eistedd uwchben y llyn yma gan edrych yn syn i’r dyfroedd dwfn. 

Nid oedd fawr o le i nofio yn Llyn Pandy. Roedd yn agos i’r cerrig llamu a groesai’r afon a lle byddai Sarn Helen gynt yn rhydio’r dŵr.  

 Llyn Capel Cwm oedd y man pellaf i fyny’r afon i ni fentro.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon