7.10.12

Tamaid i aros pryd

Cofiwch am y noson blygu Nos Fercher. Bydd Llafar Bro trwy'r drysau ac yn y siopau o Ddydd Iau.

Dyma ambell damaid i aros pryd: 

Gwifren Sip Llechwedd



Mae’r cwmni Tree World wedi gofyn caniatâd i osod pedair gwifren sip -zip wire- yn Llechwedd ar lefel uchel ac mae’n ymddangos fod cefnogaeth iddynt o bob cwr. 
gwifren sip yng Nghernyw

Aiff y gwifrau hyn ac ymwelwyr ar daith o gwmpas y chwarel a bydd tua 2 gilomedr a hanner o wifren. Yn ychwanegol bydd tua 9 swydd yn cael eu creu ar y dechrau ac os bydd y fentr yn llwyddiannus bydd 25 yn cael eu cyflogi o fewn tair blynedd. 



Gair o Rybudd

Pam bod y Pwyllgor Amddiffyn yn eich cynghori i beidio llenwi’r holiadur hwn
Mae’r ateb i ambell gwestiwn yn gwbwl amlwg, wrth gwrs, ond mae rhai o'r lleill yn dwyllodrus o gamarweiniol am nad ydyn nhw’n gwneud yn berffaith glir bod yn rhaid i’r Ysbyty golli pob gwely cyn y bydd y gwasanaethau ‘newydd’ hyn yn cael eu datblygu
Mae’r Pwyllgor Amddiffyn wedi cysylltu efo Opinion Research Services nid yn unig i fynegi anfodlonrwydd ond hefyd i awgrymu ffordd fwy gonest o gael barn pobol leol, a hynny trwy eirio’r cwestiynau mewn dull gwahanol, megis –
Ydych chi’n cytuno neu anghytuno efo argymhellion BIPBC:-
(i)         i gau Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog a symud y gwelyau i gyd i Ysbyty Alltwen?
(ii)        i wneud i ffwrdd â’r Uned Mân Anafiadau?
(iii)       i gael gwared â’r Uned Pelydr X o Ganolfan Iechyd Blaenau Ffestiniog?
(iv)       i droi safle’r Ysbyty yn ganolfan a fydd yn darparu gwasanaethau cymunedol a  gwasanaethau gofal cychwynnol?
Mae un peth yn  siŵr, fe gaen nhw ddarlun tipyn cliriach wedyn o beth yw dymuniadau pobol yr ardal. Yn y cyfamser, rydym wedi dweud wrth  Opinion Research Services, yn ogystal ag wrth Weinidog Iechyd y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd a swyddogion y Bwrdd Iechyd ym Mangor, na fyddwn ni’n llenwi’r Holiadur Ymgynghoriad, am y rhesymau a nodwyd uchod, ac y byddwn ni’n cynghori pobol y cylch hefyd i wneud yr un peth. 

Newyddion Hwyr
 I'r rhai ohonoch sydd ar Gweplyfr/Facebook, ewch draw i  dudalen perchnogion newydd Neuadd y Farchnad: http://www.facebook.com/pages/Market-Hall/369824126426357

Saesneg ydi prif iaith y tudalennau, ond mae'n werth tynnu eich sylw at gynlluniau'r perchnogion ar gyfer yr adeilad pwysig yma yn ein cymuned. Pob lwc iddynt.
Llyfryn Steffan ap Owain

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon