30.9.12

Calendr y Cymdeithasau -Hydref



Digon o bethau'n digwydd yn y fro eto trwy fis Hydref. Gyrrwch fanylion unrhyw ddigwyddiadau eraill i'w cynnwys yma, ac ar dudalen Gweplyfr/facebook Llafar Bro.


Hydref 3:   CYMDEITHAS HANES BRO CYNFAL
                Ymweliad ag YSBYTY IFAN gydag Edmund Rees
                Cyfarfod yn y Caban am 7. Holwch i fod yn siwr.

Hydref 4:   Y FAINC ‘SGLODION
               Dr Angharad Price: Crwydriadau Syr T.H.Parry-Williams
               7.15yh  Y GANOLFAN GYMDEITHASOL, BLAENAU FFESTINIOG.

Hydref 6ed:   CLWB RYGBI BRO FFESTINIOG
               Gêm gartref yn erbyn Yr Wyddgrug

Hydref 6ed:   PENGWERN CYMUNEDOL
                8.30 yh JOHN AC ALUN

Hydref  7fed:    SEINDORF YR OAKELEY
                Cyngerdd Mawreddog, yng Nghanolfan Porthmadog. 7.30

Hydref 11, 12, 13eg:   CLWB RYGBI BRO FFESTINIOG
                Sioe Glybiau Bara Caws. ‘Un bach arall (eto)’

Hydref 17: CYMDEITHAS HANES BRO FFESTINIOG
                Gwyn Edwards, 'Stiniog mewn hen gardiau post'

                7.15 yn Neuadd y WI, Blaenau

Hydref 22ain:    MERCHED Y WAWR, Blaenau
               7.00 yr hwyr yn y Ganolfan Gymdeithasol. 
               SGWRS GAN Iona Price

Hydref 26ain:    NEUADD GELLILYDAN
              Disgo Nos Galan i blant

Hyd 31–4 Tach. Cwrs Cymuned a Chynefin.
              Plas Tan y Bwlch.


2 comments:

  1. Anonymous29/4/14 10:27

    Su’Mai

    Dwi’n gweithio ar broffil o ardal Meirionnydd ar hyn o bryd, gan fod Eisteddfod yr Urdd ar ddod yn y Bala, ag angen pob math o ystadegau a gwybodaeth i lunio darlun manwl o’r hyn sydd ar gael, a’r bobl sy’n byw ynddi. Dwi’n cysylltu gyda pob sefydliad o fewn yr ardal i dderbyn gwybodaeth.

    Fyddai’n bosib i ti yrru’r wybodaeth isod i mi am bapur bro Llafar Bro cyn gynted a phosib os gweli’n dda?

    1. Ers pryd mae’r papur bro yn bodoli?
    2. Beth yw dalgylch y papur? At bwy caiff ei dargedu?
    3. Faint o staff cyflogedig a gwirfoddol sydd gan y papur?
    4. Beth yw cylchrediad wythnosol y papur?
    5. Lle caiff ei werthu?
    6. Oes unrhyw beth penodol yn cael ei gynnwys yn Llafar Bro sy’n ymwneud a Eisteddfod yr Urdd eleni?
    7. Ac unrhyw wybodaeth perthnasol arall ti’n meddwl fyddai o ddiddordeb!

    Diolch yn fawr iawn am dy amser.

    Bethan

    Bethan Elin Davies
    Swyddog Datblygu Cynllun Gweithredu Iaith / Language Action Plan Development Officer
    Uned y Gymraeg / Welsh Language Unit
    Is-adran y Gymraeg / Welsh Language Division
    Yr Adran Addysg a Sgiliau (AdAS) / Department for Education and Skills (DfES)
    Llawr 1, Llywodraeth Cymru / Welsh Government,
    Penrallt, Caernarfon LL55 1EP

    01286 662314

    bethanelin.davies13@cymru.gsi.gov.uk / bethanelin.davies13@wales.gsi.gov.uk
    www.cymru.gov.uk/ygymraeg / www.wales.gov.uk/welshlanguage

    ReplyDelete
    Replies
    1. Annwyl Bethan,
      fe weli di atebion i nifer o dy gwestiynau ar dudalen 'Cefndir' y wefan yma.
      Papur misol ydyw: nid wythnosol, yn gwerthu tua 1100-1200 copi.
      Gwerthu o ddrws i ddrws, yn y siopau lleol a chyfagos, a thrwy'r post.
      Cafwyd adroddiadau ar lwyddiannau yn y steddfod cylch a sir. Byddwn yn adrodd ar ymdrechion eisteddfotwyr lleol yn bendant a rhoddwyd sylw teilwng wyl gyhoeddi'r Steddfod a gynhaliwyd ym Mlaenau Ffestiniog yn 2013.
      Pob hwyl,
      Paul

      Delete

Diolch am eich negeseuon