3.9.12

Tynnu dwr i'r dannedd

Catrin Roberts gyfrannodd hwn i'r Y Golofn Werdd nol yn y gwanwyn, i gyd-fynd ag ymgyrch CEGIN BRO FFESTINIOG y Dref Werdd, i'n hannog i hel, tyfu a chreu ein bwydydd ein hunain yn lleol.



                                                             (Llun gan Duncan Brown. Lle^n y Llysiau)


Tydi chwyn ddim yn chwyn os yr edrychwch arnynt mewn ffordd wahanol medd rhai!
Wel oddeutu 4 mis yn ôl gyda'r caeau a’r lonydd yn euraidd gyda dant y llew cefais inna newydd wedd ar y blodyn hardd hwn... Nid chwyn mohono i mi bellach ond blodyn gwerthfawr. Dechreuodd hyn i gyd wrth i ddwy ohonym drafod rhaglen a welsom ar y teledu lle’r oedden nhw’n gwneud marmalêd dant y llew ..... pwy glywodd am ffashiwn beth wir! Beth am rhoi cynnig arni ein hunain a chynnig i bwy bynnag sydd am ymuno yn y hwyl ddod hefo ni.
Doedd gennym ni ddim clem beth oedd o'n blaenau, ac wedi denu un mentrus arall i ymuno â ni a chael cynnig defnyddio ei chegin, dyma drefnu cwrdd a bwrw ati y penwythnos hwnnw. 
Wel am ddiwrnod gwerth chweil, a hollol annisgwyl....

Tra'n hel y blodau o bob cornel o'r ardd, hyd y lonydd i gyd a chyrraedd gardd arall dyma ddechrau siarad gyda'r perchennog oedd yn holi pam yr oedden yn hel. Wedi gwirioni cynnigodd i ni hel yn ei gardd hithau hefyd. A felly bu, a thra yn ei gardd hi dechreuom siarad â'r mab sydd yn cadw cwpwl o ieir, a’i diwedd hi oedd cael mynd o’no efo wy ffresh yr un hefyd!
Aethom yn ein blaenau i gael popeth yn barod i wneud y marmalêd, gydag un arall wedyn yn penderfynu ymuno â'r hwyl. 

Wedi cinio cartref bendigedig penderfynom fod angen mynd am dro bach i ni gael ysgogi rhywfaint ac i fyny a ni hyd lonydd a chaeau Cwm Teigl. Wrth gerdded a chloncian cawsom dipyn o hanes y fro, ac ambell i doriad bach yma ac acw i blannu'n ein gerddi ein hunain, heb son am ddod ar draws llwybrau newydd.

Yn ôl i'r gegin, berwi a throi y sosban .... gan deimlo ychydig fel y gwrachod yn Macbeth, ond llawer hapusach ein byd. Ar ddiwedd y fenter, wedi potio ein marmalêd dant y llew euraidd, gyda gwen mawr ar ein hwynebau eisteddom i lawr am baned bach wedi ei llawn haeddu a tholc o fara cartref yr un, menyn yn toddi, a haen o farmalêd ar ei ben. Dyma'r foment mawr ..... fydda ni yn ei fwynhau ..... a bois bach roedd wir yr yn fendigedig, fel mêl! 

Dyna syndod, a dyma pan troiodd y chwyn yn rhywbeth llawer mwy gwerthfawr!
Yn dilyn hyn fe es i ymlaen i wneud sawl jam a marmalêd gwahanol, a phob un, rhaid dweud, yn llawer mwy blasus na'r rhai dwi wedi brynu'n y siopau!

Rydym yn meddwl rwan am ymgynyll eto, o bosib i wneud jam criafol ac afalau surion ...... ac wrth gwrs, mae'r cynnig yno i chi ymuno gyda ni yn yr hwyl. Dewch yn llu gyda'ch syniadau am ba bethau eraill y gallwn fynd ati i’w gwneud.

 Marmalêd Dant y Llew
Rysait gan Catrin Roberts
500g  creiddiau a chroen afalau neu afalau wedi cwympo wedi'u torri'n fras
500g croen ffrwythau (lemwn, oren , grawnffrwyth di-gŵyr) wedi'u torri'n fras
100g petalau dant y llew  (Y ffordd hawddaf i dynnu’r petalau yw torri’r darnau melyn efo siswrn)
Siwgr

1. Rhowch yr afalau, croen sitrws a hanner
 y petalau mewn sosban fawr. Ychwanegwch ddigon o ddŵr i orchuddio - tua 1.5 litr. Dewch i fudferwi a'i goginio yn araf am 45-60 munud. Bydd hyn yn meddalu’r ffrwythau ac yn rhyddhau'r pectin gwerthfawr. Trowch y ffrwythau mewn i fag mwslin a gadewch am ychydig oriau i ddiferu (dros nos os yn ymarferol).

2. Mesurwch yr hylif wedi'i hidlo a phwyswch 450g o siwgr am bob 600ml o hylif. Dychwelwch i'r sosban; dewch a fo i ferwi ac ychwanegwch y siwgr. Cymysgwch nes toddi yna berwch yn gyflym heb ei droi, nes cyrraedd pwynt setio (tua 10 munud).
Cymysgwch weddill  y petalau'r i mewn.

3. Tynnwch oddi ar y gwres a'i droi mewn un cyfeiriad nes bod unrhyw swigod neu lysnafedd ar y wyneb wedi diflannu a'r petalau wedi'u  dosbarthu yn dda. Arllwyswch i mewn i botiau jam glân a seliwch ar unwaith gyda chaeadau.

4. Os yw’r petalau’n codi i'r wyneb tra rydych yn aros i'r jeli setio, gadewch iddo  oeri ychydig cyn troi y pot yn gyflym i ailddosbarthu'r petalau.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon