1.12.12

STOLPIA

Darn o erthygl Stolpia, Steffan ab Owain, o rifyn Tachwedd 2012.
Mae'r rhfyn dal ar werth tan ail wythnos Rhagfyr.


Gloddfa Ganol, o'r Cribau.   LLUN: PW



Deuthum ar draws y cofnod canlynol rai blynyddoedd yn ôl mewn hen newyddiadur :

Cwymp yn un o chwarelau Ffestiniog yn 1853 – Ar fore Sadwrn yn mis Chwefror  1853  daethai darn arswydus  o’r mynydd i lawr nes claddu y rhan fwyaf o chwarel Mri Matthew  a’i Fab (sef y Gloddfa Ganol ) ond drwy ryw ragluniaeth ryfedd a lwc  bu i’r amgylchiad ddigwydd  rhwng 5 a 6  o’r gloch y bore. Pe syrthiasai  awr yn hwy  buasai tua  200  o fywydau wedi eu colli yn anocheladwy.


 Wrth gwrs, stori wahanol  iawn a fyddai yn ein papurau newydd yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig rhwng 1840 ac 1870 pan laddwyd  nifer sylweddol o weithwyr yn ein chwareli.

Y mae Mel ap Ior wrthi’n casglu gwybodaeth am y rhai a gollodd eu bywydau yn ein chwareli llechi ac yn awyddus am unrhyw wybodaeth a fedr ei gynorthwyo. 

Gallwch gysylltu drwy Llafar Bro, y wefan, neu'r dudalen Gweplyfr os hoffech.

****************************

Cofiwch bod y rhifyn 2012 o gylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, RHAMANT BRO yn y siopau rwan hefyd, yn llawn erthyglau a phytiau hynod ddifyr.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon