12.5.24

Stolpia- Yr Ardal ar Hen Ffilmiau

Ffilmiwyd beth wmbredd o leoedd a phobl a digwyddiadau yn ein hardal tros y blynyddoedd. Crybwyllais yn Rhamant Bro (2022) bod T.E. Griffiths, sef perchennog Park Cinema yn ei ddyddiau cynnar, yn arloeswr gyda ffilmio amryw o ddigwyddiadau lleol, megis cymanfaoedd y gwahanol enwadau, ac agoriad yr Ysbyty Coffa yn 1927. Ffilmiwyd cannoedd o bobl a berthynai i gymdeithasau amrywiol y cyfnod yn gorymdeithio trwy’r dref yn y riliau hyn ganddo. Cofier mai ffilmiau du a gwyn a rhai mud oedd y rhain, ond er hynny yn gronicl pwysig o hanes ein bro.

Fel y gŵyr y mwyafrif ohonoch, y ffilm gyntaf yn yr iaith Gymraeg oedd ‘Y Chwarelwr’ (1935) o waith Syr Ifan ab Owen Edwards a John Ellis Williams, a fu’n brifathro ar Ysgol Glan-y-pwll. Er mai ffilm ddrama ydyw, ceir sawl golygfa ac amryw o ddelweddau o’r cyfnod nad ydynt yn bodoli bellach. Cawsom weld y ffilm rai blynyddoedd yn ôl yng Ngwesty’r Frenhines (Y Queens) gyda’r rhan olaf ohoni wedi ei diweddaru gan Gwmni Da, Caernarfon, gydag actorion cyfoes yn chwarae rhan y chwarelwyr a’u teuluoedd. 

Golygfa o'r ffilm efo gweithwyr Chwarel yr Oakeley ar y Trwnc Mawr

Ffilm arall gyda lluniau da o orchwylion amrywiol y chwarelwyr a golygfeydd ysblennydd o Chwarel Lord, a’r Erial (rhaff awyr) yn rhan uchaf Chwarel Llechwedd yw The Roof Over Your Head (1937). Yn ddiau, daw hon ag atgofion lu i amryw ohonom a fu’n gweithio yno flynyddoedd yn ôl.

Gwnaed nifer o ffilmiau ym Mhrydain a sawl gwlad arall gan gwmni Walt Disney yn yr 1950au. 

Ffilmiwyd People and Places -Wales yn 1958, yn ogystal â’r un yn yr Alban. Ceir amryw o olygfeydd wedi eu tynnu yng ngogledd Cymru, gan gynnwys Chwareli Oakeley a Llechwedd. Heddiw ceir cerbyd pwrpasol yno ar gyfer cludo ymwelwyr i grombil y chwarel i ryfeddu ar waith yr hen feinars, y creigwyr a’r llafurwyr.

Llun o’r ffilm yn dangos y gweithwyr yn cerdded i lawr i’r ‘Twll’, sef y gwaith tanddaearol yn Llechwedd

Os ewch chi ar y we ac ar chwiliadur Google, Yahoo, neu un o’r llaill, a rhoi enwau’r ffilmiau i mewn ynddynt, cewch eu gweld am ddim ar Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru neu ar YouTube.
- - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2024




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon